Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod mynyddoedd a choedwigoedd, nentydd a bryniau, llanau a thai anedd, yn adsain gan lefau gwŷr Duw, a chan ddatganiad gwirioneddau grymus yr efengyl;—wrth feddwl fod y gwŷr hyn yn gedyrn o nerth gan Ysbryd yr Arglwydd;—teimlwn, meddwn, ein meddyliau yn lloni mewn dysgwyliad fod yr haf gerllaw, ac y byddai Cymru yn ebrwydd fel Eden, ac fel gardd yr Arglwydd. Ond y mae yn rhaid ychwanegu, gyda gofid, fod cymylau duon wedi gorchuddio y bore-oleuni hwn. Disgynodd rhyw wynt drwg ar yr olygfa flodeuog hon. Daeth attaliad ar rymusder y llwyddiant, a diflaniad graddol ar ei effeithiau. Achoswyd y diflaniad hwn, mewn gradd, oddiar ymosodiadau allanol, ond yn fwy oddiar ymrysonau tufewnol. Yr oedd terfysgoedd a rhyfeloedd gwladol yn peri cyffro trwy yr holl wlad. Yr oedd dynion duwiol a chyhoeddus dan orthrymder creulawn. Dyoddefent anmharch ac anfri mawr—eu heiddo yn ysbail, a hwy eu hunain mewn carchar, a'u teuluoedd yn wasgaredig. Ffôdd llawer i wledydd tramor; a thrwy hyny, gwanychwyd a digalonwyd byddin y ffyddloniaid. Eto, er hyn, y pethau a fu yn fwyaf effeithiol i attal mynediad y gwaith yn mlaen oedd, dadleuon anfuddiol yn nghylch materion llai eu pwys, megys llywodraeth eglwysig, y drefn o fedyddio, &c. Magodd y dadleuon hyn ysbryd pleidgarwch ac anghariad, a thristâodd a chiliodd Ysbryd Duw. Nid annhebyg, chwaith, na ddygwyd yr agwedd ddirywiedig hon yn mlaen gan wŷr a broffesent fwy o fanylrwydd santaidd, a mwy o ofal am y gwirionedd, nag eraill; —dynion yn llawn o broffes o'r gwirionedd ar eu tafodau, ond heb gymaint o ysbryd y gwirionedd ag y buasai da.

Crybwyllasom am enw Vavasor Powel; ond y mae mwy na chrybwylliad yn deilwng i'w goffadwriaeth ef, er na oddef ein terfynau, ac na chydsynia a'n hamcan, wneuthur nemawr fwy na chrybwylliad. Ganwyd ef yn sir Faesyfed[1], yn y fl. 1617. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Rhydychain, a bu am beth amser yn gurad i'w ewythr Erasmus Powel. Ond yn mhen ychydig, ymunodd â Walter Cradoc yn ei weinidogaeth deithiol; a rhyfeddol o lafurus a llwyddiannus a fu. Dywedir y byddai yn pregethu, o leiaf, ugain waith yn yr wythnos, ac nad oes braidd eglwys na thref yn holl Gymru na ymwelodd â hi, gan rybuddio y bobl ddiofal i ffoi rhag y digofaint sydd ar ddyfod. Profodd Llundain rym ei weinidogaeth, a Dartford yn Caint; ond Cymru oedd maes penaf ei lafur. Dyoddefodd y gŵr hwn fwy na mwy o erlidiau. Yr oedd rhwymau, neu ryw flinderau eraill yn ei aros yn mhob man. Fe fu mewn tri-ar-ddeg o garcharau, nid am un bai ond am bregethu yr efengyl. Gwnaed cais teg am ei fywyd yn y Drefnewydd, Trallwm, a Machynlleth, yn sir Drefaldwyn; ie, pan oedd eisoes yn garcharor yn Nhrefaldwyn, ac yn edrych trwy ffenestr ei ystafell, saethodd rhyw filwr mileinig ato, ond a fethodd ei nôd. Dwywaith y ceisiwyd ei ladd yn Nolgellau, a thrachefn gan ŵr boneddig ag oedd yn byw y pryd hyny yn Mhlas-teg yn sir Fflint. Ond

  1. Gwel Traethodydd, cyf. v, tudal. 309. Gwel hefyd yn helaethach, hanes Walter Cradoc, Trysorfa, cyf. i, tudal. 170 a'r Traethodydd, cyf. iv, tudal. 483.