Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oddiwrthynt oll y'i gwaredodd yr Arglwydd. Yn fynych iawn, amddiffynid ef trwy ddychweliad ei erlidwyr at Dduw, mewn modd ebrwydd a hynod. Cyhuddid ef o lefaru yn erbyn y "Llyfr Gweddi Cyffredin," a'i fod yn euog o gysegr-ladrad; ac o frâd yn erbyn y brenin, weithiau; ac o frâd yn erbyn gwerin-lywodraeth Cromwell, bryd arall.

Yr oedd y wlad yn llawn o ysbryd creulawn Pabyddiaeth, er fod Pabyddiaeth ei hun wedi ei ddarostwng o ran y ffurf. Yr oedd mawrion y wlad yn estroniaid i wir grefydd, ac wedi gosod eu bryd ar lethu pob ymgais a wneid i efengyleiddio y genedl; am hyny, ymaflent yn mhob rhith esgus i erlid a charcharu y dynion defnyddiol hyn. Dybenodd yr enwog Vavasor Powel ei oes mewn carchar yn Llundain, lle y bu mewn caethiwed, prinder, a gwallymgeledd mawr.

Y pedwar gŵr a enwyd, sef Wroth, Erbury, Cradoc, a Powel, a ddywedir oedd y rhai cyntaf ag y mae hanes am danynt, a bregethasant yn deithiol trwy y wlad; a Deheudir Cymru, yn benaf, a fu maes eu llafur. Nid oddiar ddygiad i fyny, ac arferiad blaenorol, y gwnaethant hyn, oblegid dygasid hwy oll i fyny yn Rhydychain, ac urddasid hwy yn weinidogion yn eglwys Loegr, i'r hon ni pherthyn, o ran dysg na defod, weinidogaeth deithiol. Gwnaent hwy hyny, yn ddiau, am y barnent mai hyn oedd ewyllys eu Meistr, ar y pryd o leiaf, a chwbl gredu a wnaent i'r Arglwydd eu galw i lafurio yn y wedd yma. Cawsant hefyd amlygiadau lawer, a phrofion diymwad, yn y ffrwyth a ddylynodd, mai nid anfoddlawn oedd hyny i'w Harglwydd. Anmhosibl ydyw peidio gweled, wrth ddarllen eu hanes, mai llai peth o lawer ganddynt hwy oedd ffurf a defod, na gogoniant Duw, a lles eneidiau dynion. I wneuthur daioni, torai y gwŷr hyn dros ben hen ddefodau, a lluchient o'r naill du hen drefniadau eglwysaidd eu hurdd; nid am eu bod yn caru annhrefn, ac yn ddibris o reol, ond am y carent achub pechaduriaid yn fwy, ac am na fynent eu caethiwo at reol ddynol, a gosodiadau eglwysaidd, pan yr oedd cyflwr y wlad mor resynol, a'r alwad arnynt mor daer, i ymwneyd yn bob peth i bawb, fel y gallent yn hollol gadw rhai.

Yn yr un canrif, sef yr ail-ar-bymtheg, y rhoddodd yr Arglwydd yn nghalonau dau ŵr nodedig, sef Mr. Thomas Gouge, a Mr. Stephen Hughes, i lesâu cenedl y Cymry mewn llwybr arall. Yr oedd y Beibl wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg er ys amser bellach, ac amryw argraffiadau o hono wedi eu cyhoeddi; eto nid llawer, o'r werinos yn enwedig, a fedrai ei ddarllen. Yr oedd ysgolion yn brinion iawn; nid oedd ond ychydig o honynt, mewn cydmhariaeth, yn Lloegr, ond llai o lawer yn Nghymru. Oddiwrth hyn y gwelwn gymhwysder y gŵyn a wnaed gan Ficer Pritchard :—

Pob merch tincer gyda'r Saeson,
Fedr ddarllen llyfrau mawrion;
Ni ŵyr merched llawer scwier
Gyda ninau ddarllen Pader.