dref unwaith. Yn nhŷ hwn hefyd, yr oedd John Evans wedi dygwydd disgyn pan ffôdd oddi cartref gyda bwriad o fyned yn ei flaen i sir Aberteifi. Nid oedd John Evans ar y pryd y daeth i'r Bala gyntaf, yn gwybod dim am grefydd ysbrydol, ac nid oedd yn y Bala chwaith, ar y pryd, nemawr o fanteision crefyddol i'w cael, ond a fwynheid yn nhŷ ei feistr. Yr oedd yr ychydig grefyddwyr ag oedd yn y dref, yn arfer ymgynull yn nhŷ ei feistr, fel y dywedwyd, i ddarllen, gweddio, a chanu mawl. Yr oedd hefyd, rai o bregethwyr yr ymneillduwyr yn dyfod i'r Weirglawdd-gilfach, yn mhlwyf Llanuwchllyn, ar amserau i bregethu, a rhai o bobl y Bala a aent yno i'w gwrando, ac yno y denwyd John Evans gyntaf i wrando.
Ganesid John Evans yn mhlwyf Gwrecsam, sir Ddinbych, yn y flwyddyn 1723. Symudodd ei rieni o Glan-yr-afon, ei le genedigol, i Adwy'r Clawdd, yn yr un plwyf, pan oedd ef tua phedair blwydd oed, i dir bychan o'u heiddo eu hunain. Adeiladodd ei rieni nifer o dai mewn cysylltiad a'r ychydig dir a feddiannent, yn fuan ar ol eu dyfodiad yno i fyw. Mae y tai yn sefyll eto, ac ar un o honynt y mae careg, ac yn gerfiedig arni
E
WA
1728,
Ychydig oedd rhieni John Evans yn ei feddwl, fod eu symudiad hwy i'r Adwy, i fod yn ddolen yn nghadwen fawr rhagluniaeth, i ddwyn pregethu i'r fro hono, ac i hyrwyddo mynediad teyrnas Crist ymlaen, i'r graddau y bu yn Ngogledd Cymru.
Yr oedd ei rieni yn foesol, ond nid yn grefyddol. Dygent eu mab i fyny i hoffi gwirionedd a gonestrwydd, ac i beidio halogi y Sabboth. Rhagorent yn hyn ar lawer yn eu bro ac yn eu dydd. Rhoisant fwy o ddysg i'w bachgen nag a wnaed gan rieni eraill o gyffelyb sefyllfa; ac yn hyn hefyd yr oeddynt yn rhagori ar lawer o rieni hyd heddyw. Dangosai y bachgen radd o hoffder hefyd, mewn darllen y rhanau hanesiol o'r Beibl; ac ar nosweithiau âi i dai y cymydogion i adrodd iddynt o'i gof yr hanesion a ddarllenasai; megys hanes Noah, Abraham, a Joseph, ymadawiad Israel o'r Aifft, a'u teithiau yn yr anialwch, a'r cyffelyb. Gan leied nifer oedd o Feiblau yn y wlad, ac o neb yn medru darllen, yr oedd yr hanesion hyn yn gwbl newydd i'r preswylwyr tywyll. Ond fel y tyfodd John i fyny, teimlai lai o bleser gyda'r Beibl, a mwy o hoffder yn nghwmni cymdeithion ofer; acer maint yr ymliwiai ei fam ag ef, âi gyda hwy i halogi y Sabboth o fore hyd hwyr, a thrwy hyny, tynai ddychrynfeydd arswydus i'w gydwybod, pan y deuai ystyriaethau am angeu a barn ar draws ei feddwl. Gosodwyd ef yn rhwym-was(apprentice) o wehydd pan yn ddeuddeg neu dair-ar-ddeg oed, a thyfodd yn fachgen iraidd, tal, a chryf. Cododd blys mawr arno wedi dyfod yn rhydd i ymrestru yn filwr, a hyny ond odid a wnaethai, oni bai mai blin oedd ganddo feddwl y gofid a barai hyny i'w fam; a phrin yr oedd hyny yn ddigon cryf i'w attal, gan y cawn ddarfod iddo fyned unwaith gan belled a Chaerlleon i ymuno â chatrawd o wŷr meirch yno; ond yr oedd y gatrawd eisoes wedi ymadael o'r dref,