Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/499

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddyeithr; ac felly gwelai anhawsder i fyned rhagddo i sir Aberteifi, tybiodd ond iddo gael gwaith am ryw dymhor, y gallai wedi ennill ychydig arian fyned i ben ei daith. Yr oedd erbyn cyrhaedd y Bala wedi blino, a theimlai ei natur ddymunoldeb gorphwys. Ymofynodd â rhyw un am dy ac enw rhyw wehydd yn y dref; a chafodd hysbysiad am un Edward Williams, a mawr oedd ei lawenydd pan y gwahoddwyd ef i letya yno dros nos, ac y ceid ymddyddan ag ef yn mhellach yn nghylch y gwaith wedi i wawr dydd Llun dori. Nid aeth John Evans byth i waith plwm sir Aberteifi, ac nid aeth byth i aneddu i Loegr brysur; ac er iddo lochesu y meddwl yn frwd o fyned gan belled ag America, yn nhref y Bala y mynai rhagluniaeth iddo aros, ac yno y preswyliodd o hyn allan dros oes faith o un miwydd ar bymtheg a thriugain o hyd, o'r amser y daeth ef iddi hyd ei farwolaeth yn y flwyddyn 1817.

Ymddengys fod Howel Harris wedi cyfarfod â'r driniaeth alaethus a grybwyllwyd o'r blaen, tua dechreu y flwyddyn 1741. Daeth John Evans i'r dref hòno i breswylio ryw bryd yn ystod y flwyddyn ganlynol, pan nad oedd ond llanc deunaw mlwydd oed. Yr oedd yn y Bala, gan hyny, cyn i Fethodistiaeth ymsefydlu yno, nac yn un man arall yn sir Feirionydd; eto, yr oedd yma, fel y soniwyd, ychydig o nifer wedi eu deffroi am achos eu heneidiau, ac yn arfer ymgynull at eu gilydd i ddarllen, gweddio, a chanu mawl. Er mor amddifad oedd John Evans pan y daeth gyntaf i'r Bala o deimladau gwir grefyddol, eto ni allai lai na dystaw feddwl mai llaw rhagluniaeth dirion a'i harweiniasai yno, ac mai dan ei chysgod hi y trefnwyd iddo waith a llety, ynghyd â moddion crefyddol llawn cymaint, os nad mwy, na allasai gael yn un man arall yn Ngwynedd, o leiaf yn mhlith Methodistiaid. Yr oedd ei feistr, Edward Williams, yn ŵr duwiol; cynaliai weddi deuluaidd fore a hwyr; a chafodd trwy ei daerni gan John Evans fyned gydag ef bump neu chwech milldir o ffordd, i'r Weirglawdd-gilfach fel y soniwyd, i wrando pregeth gan weinidog ymneillduol. Yr oedd hyn yn beth hollol newydd iddo; a synai yn fawr pan ddeallai fod y gŵr yn gweddio ac yn pregethu heb lyfr; a'i fod ar yr un pryd yn medru ymadroddi yn gall a rhwydd, nes oedd yn ddifyrwch ei wrando. Ond ni chafodd yn y bregeth gyntaf hon ddim mwy na difyrwch, ond fe fu y difyrwch a gawsai yn ddigon i'w ddenu yno drachefn a thrachefn; ac fe fu y gwrando mynych hwn yn foddion i oleuo gradd ar ei ddeall yn nghylch trefn yr efengyl i gadw pechadur, er nad oedd eto wedi profi ei nerth a'i hawdurdod.

Nid oes eithaf sicrwydd pwy oedd yr ychydig ddysgyblion gyfansoddai y cynulliad crefyddol y pryd hwnw yn y Bala. Dywed John Evans fod yma ar y pryd wyth neu ddeg o honynt. Hysbys ydyw, pa fodd bynag, fod dau frawd o ofaint, o'r enw Evan a Siôn Moses, ynghyd ag un Margaret Morris yn eu plith: bernir mai Thomas Rowlands, o Tŷ'n Nant, yn Nhref-benmaen, a'i chwaer Margaret; Dafydd Siôn Huw, a'i wraig; Ellis Evan, ac Owen Owens; siopwyr yn y Bala oedd y lleill.

Yn y flwyddyn 1744, priododd John Evans un o'r dysgyblion hyn, sef Margaret Morris. Yr oedd hi yn ferch i un Morris ap Robert, un o'r ymneillduwyr presbyteraidd ag oedd yn y Bala, y rhai a arolygid gan weinidog o'r