Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/500

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enw Mr. Baddy, Dinbych, a'r hwn a arferai ddyfod yn achlysurol i ymweled a'r praidd bychain amddifaid hyn. Yr oedd Morris ap Robert yn ŵr a ragorai ar lawer o'i gyfoedion o ran dawn, ac o ran goleuni ysbrydol, fel y gellid gweled wrth y traethawd a ysgrifenasai, sef "Cynghor difrifol i'r Cymry," a'r cywydd a gyfansoddodd ar "Lyn Tegid." Yr oedd ei ferch Margaret wedi ymuno â'r ychydig Fethodistiaid pan y priododd John Evans hi, ond nid oedd ef, ar y pryd, yn gwneuthur proffes gyhoeddus, ond ei fod, tybygid, yn ddichlynaidd ei fywyd, ac yn profi argraffiadau dwysion ar ei feddwl oddi wrth y gwirionedd. Yn y flwyddyn ganlynol, sef 1745, ar y Sulgwyn, bu oedfa hynod yn y Bala, "mewn rhyw fesur," meddai John Evans, "tebyg i hòno yn Jerusalem ddau cant ar bymtheg a mwy o flwyddau o'r blaen." Yn yr oedfa hon y deallir iddo gyfarfod a dwys argyhoeddiad o bechod, ac yn y canlyniad, wir ddychweliad at Dduw yn Nghrist. Yr oedd er ys peth amser cyn hyn yn arfer gwrando yn gyson, ond o hyn allan ni fu yn wrandawr yn unig, ond yn wneuthurwr y gair.

"Yr

Ymddengys fod y tymhor rhwng 1741 a 1745, yn adeg isel iawn ar Fethodistiaeth yn y Bala; er fod yma fwy o hono nag yn un man arall yn y sir, nac yn un wlad arall yn Ngwynedd, oddieithr sir Drefaldwyn. Nid oedd pregethwyr chwaith wedi codi yn un man yn y Gogledd, oddieithr Lewis Evan a Richard Tibbot, yn sir Drefaldwyn. Fe ddichon, hefyd, fod Hugh Griffith a Morgan Griffith, yn Lleyn, ynghyd â Hugh Thomas o'r wlad hòno, wedi dechreu ryw bryd yn y tymhor hwn. Nid oedd John Richards, o Fryniog; Dafydd Jones, yr Adwy; Edward Parry, Bryn-bugad; na Robert Llwyd, Plas Ashpwl, eto wedi dechreu, er mai hwynthwy, yn ol dim a all yr ysgrifenydd gael allan, oedd y rhai boreuaf yn Ngwynedd. Dibynai Gwynedd, gan hyny, ymron yn llwyr dros rhyw dymhor, ar weinidogaeth y Deheuwyr, ac ni allai y pregethau ar y cychwyniad fod ond anaml iawn. Eto, cyfarfyddai yr ychydig broffeswyr ag oedd yn y Bala a'i chyffiniau â'u gilydd er mwyn adeiladu eu gilydd, ac er mwyn cyd-weddio a moliannu Duw. Fe fyddai rhai o'r cyfarfodydd bychain hyn yn llewyrchus iawn gan bresenoldeb Duw. wyf yn cofio fy mod mewn cyfarfod gweddio unwaith," meddai John Evans, "gydag ychydig o honynt, pan ddaeth rhyw ddylanwadau anarferol arnynt, ac effeithiodd mor hynod, nes yr oeddynt yn tori allan i wylo rhai, ac eraill i orfoleddu. Yr wyf yn cofio i un dyn syml a duwiol waeddi allan, 'Y mae yma le rhy boeth i ddiafol! Bernais ynof fy hun, fy mod yn o gyffelyb iddo, wrth ystyried dull ac agwedd fy meddwl. Effeithiodd yr oedfa hòno arnaf yn neillduol." Ennill mawr i Fethodistiaeth, yn hytrach ennill mawr i Gristionogaeth, oedd cael y fath un a John Evans i roddi ei ysgwydd dano. Yr oedd ei gymeriad fel dyn diwyd, geirwir, a gonest, yn uchel iawn; a pha beth bynag a dybid am ei grefydd, yr oedd ei gymeriad fel gwladwr yn ddifrychau. Ystyrid ef hefyd yn fwy ei gallineb a'i bwyll na'r cyffredin; nid oedd yn ddarostyngedig i dymherau cyffrous, nac i nwydau gwylltion; yn ei amynedd fe feddiannai ei enaid. Daeth i fod yn oracl y dref. Ag ef yr ymgynghorid pan fyddai neb mewn dyryswch, ac ato ef y byddid yn apelio pan