Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/501

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyddai pleidiau mewn ymrafael. Cynyddai ei ddylanwad o flwyddyn i flwyddyn, fel y deuai ei gymeriad a'i gyneddfau yn fwy adnabyddus. Yr oedd cael y fath un yn mysg y trueiniaid tlodion, diddawn, a diddylanwad ag oedd yr ychydig Fethodistiaid y pryd hyny, o werth mawr, yn enwedig pan yr ystyriwn ei fod hefyd yn Gristion trwyadl.

Tosturiodd brodyr y Deheudir wrth agwedd isel a thywyll Gwynedd, ac anfonasant amryw o bregethwyr yn eu cylch i lafurio yn y Bala, ac yn mhob man arall, lle y gallent gyrhaedd, ac y byddai drws agored iddynt. O nifer y rhai a anfonwyd felly, yr oedd Dafydd William Dafydd, John Belcher, Benjamin Thomas, a Dafydd William Rhys. Nid yw John Evans yn ei ymddyddan â Scrutator, yn crybwyll ond am y ddau gyntaf; fe allai mai hwynthwy oedd y ddau a lafuriai yn benaf yn y Bala. "Yr oedd John Belcher yn ddyn gwrol, o gyneddfau cryfion, ac yn bregethwr da." Y cyfryw ydoedd tystiolaeth John Evans am dano. Ni gawn hefyd ei enw yn mhlith y cynghorwyr yn y flwyddyn 1742; ac yn y flwyddyn 1744, pasiwyd penderfyniad, mewn cymdeithasfa yn Nhrefeca, iddo roddi ei hunan yn gwbl i'r gwaith. Yr oedd hyn tua'r amser y sonia John Evans am dano, ac fe allai mai gyda golwg ar ei anfoniad i'r Gogledd y pasiwyd y penderfyniad uchod. Am David Williams y dywed John Evans, "ei fcd yn ŵr tirion, mwynaidd iawn, ac yn bregethwr hynod o iraidd a gwlithog." Fe chwanega hefyd, "Bu y ddau ŵr hyn yn dyfod yma bob yn ail dros rai blynyddoedd, yn wyneb llawer o iselder ac anhawsderau. Nid oeddym ni ond tlodion i gyd, ac o'r braidd y gallem roddi llety, a thipyn o fwyd iddynt, wedi iddynt trwy fawr ymdrech ddyfod atom. Byddai brodyr yn y Deheudir yn garedig yn eu cynorthwyo; ac onide nis gallasent dalu eu ffordd ar eu teithiau. Dafydd William, wedi hyny, a gafodd ei alw gan gynulleidfa o ymneillduwyr, yn swydd Forganwg, i fod yn weinidog iddynt, ond heb ymadael â chorff y Methodistiaid; — yr oedd yn pregethu yn dderbyniol yn eu plith tra y bu byw."

Rhoddir i ni oleuni ychwanegol ar hanes y gŵr hwn, gan E. Basset, Ysw., o Lanelltyd Fawr. "Hysbysir i mi (meddai) ddarfod i Mr. Rowlands a'i gydweithwyr, y rhai oeddynt ar y pryd yn arolygu yr achos, gan dosturio wrth agwedd isel Gwynedd, ddewis pedwar o'r pregethwyr enwocaf, a dymuno arnynt ymweled â'r Gogledd, un am bob chwarter yn y flwyddyn; yr oedd Mr. D. Williams yn un o honynt; a bu ei weinidogaeth, fel y deallwyf, yn llwyddiannus nodedig yn y rhan hyny o'r dywysogaeth. Yr oedd 'mewn peryglon yn fynych, trwy yr ysbryd erlidigaethus ag oedd y pryd hwn yn ffynu. Cyfrifwyd ei lafur mor werthfawr yno, fel yr anfonwyd ato wahoddiad taer i ddyfod i breswylio yn y Bala." Dywedir hefyd, mai nid anfoddhaol a fuasai hyny ganddo ef ei hun, ond nad oedd ei wraig yn gallu ymddyosg oddiwrth yr ymlyniad oedd ganddi yn ei gwlad ei hun. Cawn grybwyll eto am y gŵr hwn, pan y deuwn at hanes sir Forganwg, lle y bu yn llafurio y rhan fwyaf o'i oes.

Mae crybwylliad yn "Nrych yr Amseroedd," am Benjamin Thomas yn