anaethu eu hamcanion trwy derfysgu a baeddu y crefyddwyr, rhoddent gais ar ddefnyddio cyfraith y tir i'w gorthrymu, neu ynte, dangosent eu gelyniaeth atynt trwy eu troi hwynt allan o'u tyddynod, ac felly dyrysu eu hamgylchiadau, os dygwyddai fod neb o honynt yn byw yn eu tiroedd. Mawr iawn oedd dychryn y trueiniaid gweinion hyn, yn sir Feirionydd, tyddynwyr i Syr W y boneddwr y soniasom o'r blaen am dano, pan ddeallasant ei fod wedi penderfynu dial ar bob Methodist a fyddai ar ei dir yn byw. Yr oedd amryw o honynt yn nghymydogaeth y Bala a Llanuwchllyn, yn ofni fod ystorm aruthrol gerllaw, ac nad oedd un canlyniad i'w ddysgwyl, ond naill ai colli eu tiroedd neu wadu eu crefydd. Penderfynasant, pa fodd bynag gyfarfod â'u gilydd i weddio, gan erfyn am nawdd ac amddiffyn drostynt, fel na ollyngid hwy i wadu eu Harglwydd, pa driniaeth bynag a'u cyfarfyddai. Yn y cwrdd gweddi hwn, rhoddwyd arwyddion lawer o foddlonrwydd yr Arglwydd iddynt, a disgynodd math o ysbrydoliad ar ryw un ynddo, nes iddo dori allan gan ddywedyd,
Mae Esther wedi cychwyn,
I mewn i lys y brenin,
Caiff pardun iddi ei estyn,
Ac ofer waith Syr Watkin,
Cenwch blant.
Yn fuan wedi hyn, daeth y newydd fod y gŵr boneddig wedi syrthio oddiar ei geffyl a disgyn ar ei ben ar gareg wrth hela, a marw yn y fan.
Yr oedd weithiau yn dygwydd yn ddigon anffodus i'r erlidwyr eu hunain, pan y dymchwelid eu cynlluniau, mewn modd i droi yn elw yn hytrach nag yn sarhad i wrthddrychau eu gelyniaeth.
Tua phedwar ugain mlynedd yn ol, yr oedd teulu tra gelynol i grefydd a chrefyddwyr yn byw yn y Fachddeiliog, palas-dŷ gerllaw y Bala. Nid oedd unrhyw ddirmyg yn ormod ganddynt i ddangos i ganlynwyr Howel Harris, fel y galwent hwy y Methodistiaid. Ffurfient Interludiau, a chyfarfodydd llawen ar ddull a gwedd fel ag i ddynwared pregethu, a dwyn crefyddwyr i wawd a dirmyg. Un tro, cyfarfu rhai o'r tylwyth hyn â hen wraig dduwiol, o'r enw Siân Robert, ar Bont-mwnwgl-y-llyn, gerllaw y dref; a bygythiasant ei bwrw dros y bont i'r afon, oni alwai hi ar y "diawl." Dywedai yr hen wraig nad oedd dim a fynai hi a'r gŵr drwg, a phaham y gofynid iddi alw arno. Ond ni wrandawent ar un esgus o'i heiddo, ond ei bygwth yn ffyrnig oni chydsyniai â'u cais. Eto er maint eu bygwth a'u taerni, ni chai enw y gŵr drwg ddyferu oddiar wefus yr hen wraig ddiniwed ar eu cais hwy.
Yn mhen amser ar ol hyn, yr oedd Interlude neu goeg-chwareu i fod yn Rhos-y-gwaliau, ardal ar bwys y Bala, ac i'r chwareu yr oedd yn rhaid cael Charles y telynwr yno, i ddynwared Howel Harris yn pregethu; aci'r dyben i wneuthur y gwawd-chwareu yn fwy cyflawn, trefnid fod casgliad yn cael ei wneyd i hen wraig dduwiol, sef i Siân Robert, gan fwriadu treulio swm y casgliad am ddiod feddwol i'r chwareuwyr. Yn y modd yma hwy a lunient borthi eu chwant eu hunain, a gwneuthur gwawd o'r crefyddwyr ar yr un pryd. Ond fe ddygwyddodd wedi gwneyd y casgliad, nad oedd pawb o'r