Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/508

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cwmni yn cytuno yn nghylch y modd o ddefnyddio yr arian. Safodd y pleidiau anghytun mor dyn, bob ochr dros ei fympwy, fel bu raid cyflwyno testyn y ddadl i farn gŵr boneddig ag oedd y pryd hwn yn byw yn mhalasdŷ Rhiwaedog, o'r enw Mr. Llwyd. Wedi gosod yr achos o'i flaen, gofynai y boneddwr iddynt, "I bwy y gwnaethoch y casgliad?"

"I Siân Robert y gwnaed ef," ebe hwythau.

"Yna," ebe yr ynad, "y mae yn rhaid i Siân Robert ei gael." Ac felly hefyd y bu, er mawr sirioldeb i'r hen wraig dlawd, a dirfawr siomedigaeth i'r dyhiriaid a'i gwawdient hi.

Yr oedd rhai o'r boneddigion hyn yn anturio i eithafion anarferol mewn ffordd o wawdio ac aflonyddu crefyddwyr. Ar un tro rhoisant y cymun i'r cŵn mewn gwawd a mawrhydri; ac aeth un o honynt ar ei farch i mewn i gapel y Bala, wrth ddychwelyd o hela. Yr oedd y dynion hyn yn "rhy annuwiol." Mae traddodiad credadwy yn y fro hyd heddyw, fod un o'r hen wragedd a erlidiwyd ganddynt, wedi darogan, ddeugain mlynedd cyn ei ddwyn i ben, y darfyddai eu hiliogaeth o'r ddaear, ac y disgynai eu tiroedd treftadol yn eiddo teulu arall, sef teulu Rhiwlas, er nad oedd y naill deulu yn perthyn dim i'r llall. Pa beth bynag am wiredd y traddodiad, felly y mae y ffaith. Y mae yn hysbys ddigon am deulu y Rhiwlas, na fuont erioed yn erlid, ond eu bod o dad i fab yn dangos parodrwydd i'w gweinidogion a'u tyddynwyr addoli Duw yn y lle, ac yn y llwybr a farno eu cydwybodau eu hunain yn oreu. Felly y maent hyd heddyw yn trigo yn heddychol yn y tir, ac yn mwynhau lluosogrwydd o gyfoeth a thangnefedd.

Cyn gadael y tymhor hwn, y mae hanes genym am ryw bregethwr yn ceisio pregethu yn Llangwm, ond a luddiwyd yn llwyr gan ffyrniced oedd yr erlidwyr. Nid yw enw y pregethwr ar gael, ond fe ddywedir mai hwn oedd y cyntaf a wnaeth gais ar bregethu yn Llangwm o neb. Nid annhebyg ydyw nad Dafydd Williams neu John Belcher, neu un o frodyr y Deheudir, ydoedd, y rhai a anfonasid fel y crybwyllwyd i arloesi anialwch gwyllt Gwynedd. Safai y pregethwr y tro hwn ar gamfa y fynwent, a chyfarchai y bobl ar eu gwaith yn dyfod allan o'r llan. Ond yn lle gwrando pa beth a ddywedai efe wrthynt, mewn pwyll ac ystyriaeth, rhuthrasant arno mewn gwylltineb a drwg-anwydau, gan ei guro, a'i luchio, a'i faeddu, fel pe buasai yn rhyw fwystfil drwg neu gi cynddeiriog. Gwnaeth ei oreu i ddianc o'u dwylaw, ac ar hyd wely yr afon, yr hon sydd yn rhedeg drwy ganol y pentref, y cafodd ef adwy i ffoi. Rhoddwyd lloches iddo yn y Ty-ucha; a bernir mai ei ladd yn ddiau a wnaethid oni bai hyny; ond er iddo ddianc heb ei ladd, yr oedd wedi ei archolli yn drwm.

Yr oedd llawer o'r bobl yn tybied yn y dyddiau hyny, nad oedd crefydd ddim yn beth i neb ymholi llawer iddi ond y personiaid, ac mai y cwbl ag oedd gan y werin i'w wneyd, oedd cymeryd eu harwain gan eu hathrawon cyflogedig, y rhai oeddynt wedi eu dwyn i fyny i hyny. Yr un fath syniad yn gymhwys ag sydd gan y werin babaidd hyd heddyw. Nid hawdd oedd