Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dirfawr i'r eglwys fechan a blanesid ganddo. Yr oedd y blinder am anghydffurfiad y pryd hyny yn drwm iawn; ac er mwyn ei ochel, os oedd modd, aeth Mr. Williams i Lundain; ond ni allodd aros yno yn hir heb ddychwelyd at ei braidd amddifaid. Cafodd ef a hwythau eu rhan yn helaeth o'r erlidigaeth. I ochel aflonyddwch, rhaid oedd iddynt yn fynych gyfarfod i addoli yn y nos. Anmherchid ac anafid eu cyrff, a rhoddid pob dûwch celwyddog ar eu henwau. Rhoddwyd rhyw nifer o honynt mewn carchar, a chymerwyd eu meddiannau yn ysbail. Gosodwyd dirwy o hanner can punt ddwywaith ar y Capel Helyg, yn mhlwyf Llangybi; yr hwn oedd yn swm mawr y pryd ́ hyny; er hyny, talwyd ef gan ychydig o bersonau a garent yr efengyl.

"Yr oedd yn yr amseroedd hyny," medd awdwr Drych yr Amseroedd, "ŵr tra chreulawn yn byw yn y Plas Newydd, gerllaw Llandwrog, a elwid Hwlcyn Llwyd, ac o ran ei swydd yn ustus yr heddwch. Anfonodd i ran o'r wlad a elwir Eifionydd (ddeg neu bymtheg milldir o ffordd) i ruthro ar y trueiniaid gwirion, heb un achos, ond eu bod yn addoli Duw; gan eu harwain, fel defaid i'r lladdfa, at balas yr ustus creulawn, a'u dodi mewn dalfa o'r bore hyd brydnawn. Dygwyddodd i un o weision yr ustus ddyfod i'w gweled; atolygasant ar hwnw fod mor garedig a myned drostynt at ei feistr, a dangos iddo nad oeddynt hwy yn gwrthod myned i garchar, os oedd y gyfraith yn gofyn hyny; ond nad oedd un gyfraith i'w cadw yno i lewygu o newyn. Bu y gwas mor dirion a gwneyd eu harchiad; ond yn y fan, tra yr oedd y dyn yn dywedyd drostynt, ffromodd yr hen lew creulawn yn erchyll, a dechreuodd ymwylltio, anmhwyllo, ac ymgynddeiriogi, nes y trengodd yn ddisymwth yn farw yn y fan, a chafodd y praidd diniweid fyned yn rhydd o'r gwarchau, a dychwelyd yn siriol at eu teuluoedd mewn diolchgarwch."

Parhaodd Mr. Williams i lafurio yn effro a llwyddiannus yn siroedd Arfon, Meirion, Dinbych, a Fflint; ac wedi ennill iddo air da gan bob cydwybod adnabyddus o hono, bu farw mewn tangnefedd, yn mhen deg neu ddeuddeg mlynedd ar ol ei droi allan o'r eglwys, tua'r fl. 1674 neu 1676.

Un arall o'r dynion hynod a ragflaenai y diwygiad Methodistaidd yn y Gogledd, ond a fu farw cyn ei weled, oedd Henry Maurice. Gŵr oedd hwn o sir Gaernarfon, ond a ddygwyd i fyny yn Rhydychain, ac a fu yn weinidog y plwyf yn gyntaf yn swydd Henffordd, a thrachefn yn sir Amwythig. Deffrowyd y gŵr hwn yn achos ei enaid ei hun, trwy ymweliad clefyd trwm â thref Streton, lle yr oedd yn gweinidogaethu. Dechreuodd betruso yn ei feddwl, ai da y gwnai trwy aros yn nghymundeb yr eglwys sefydledig; eto, cadwodd hyn am dymhor iddo ei hun. Deallodd y wraig fod rhyw lwyth yn pwyso ar ei feddwl, a chafodd ganddo addef ei betrusder yn nghylch ei gydymffurfiad; a daethant ill dau i benderfyniad i ddylyn llais cydwybod yn yr amgylchiad, gan adael y canlyniadau oll i Dduw. Yr oedd ei le yn werth £110 yn y flwyddyn, ac aethai yntau i gost o £300 ar y persondy; er hyn, rhoddi y cwbl i fyny a wnaeth, gan osod gerbron ei ofynwyr ei sefyllfa. Hwythau a gymerasant y cwbl ag oedd ganddo; a chan nad oedd hyny yn ddigon, bwriasant ef i garchar am y gweddill. Profodd yn y carchar lawer