i aneddu, fel y gwnaeth llawer eraill, mewn gwahanol barthau o'r dywysogaeth.
Yn y cyfnod hwn yr oedd Llangeitho yn dyfod yn fwy-fwy i sylw, a'r ymgynull yno ar y Sabbothau, yn enwedig Sabboth y cymundeb, yn fawr iawn. Gan faint y nifer a ddeuai ynghyd yno yn fisol, o weinidogion a chynghorwyr, o bob parth o'r wlad, ac yn enwedig o siroedd y Deau, rhoddid mantais neillduol i ddynion ag a eiddigeddent dros eu hardaloedd, i gyfarfod â phregethwyr, ac i gael addewid ganddynt i ymweled â hwy i bregethu iddynt air y bywyd. Nid oedd John Evans ei hun yn pregethu yn nechreu y cyfnod hwn, ac nid ydym yn deall fod neb yn y sir hon yn pregethu, oddieithr Evan a Siôn Moses yn y Bala; ond nid ystyrid hwythau ond cynghorwyr bychain eu dawn a'u gwybodaeth, ond gwresog eu hysbryd, a duwiol eu cymeriad, yn foddlawn i wneyd yr hyn a allenti gyflenwi diffygion, a chau adwyau yn ol yr angen. Ond er nad oedd John Evans yn pregethu, nid oedd na segur na diffrwyth yn ngwasanaeth yr efengyl; eithr gwnai ei oreu yn mhob modd i hyrwyddo ei fynediad yn mlaen. Ond yr oedd gan Rhagluniaeth law arbenig yn agor drysau, ac yn trefnu moddion, mewn dull ac i radddau annysgwyliadwy. Yn fynych iawn yr oedd y moddion a ddefnyddiai rhagluniaeth yn fath ag a dueddai yn fawr i guddio balchder oddiwrth ddyn, a'r dull y fath ag a ddangosai "odidogrwydd y gallu o Dduw, ac nid o honom ni."
1755. Tua'r amser yma yr ymddengysiryw gychwyniad bychan gymeryd lle ar Fethodistiaeth yn yr ardaloedd rhwng Penrhyn-deudraeth a Thrawsfynydd. Nid wyf yn cael fod un lle yn sir Feirionydd ond y Bala, wedi achlesu y penau cryniaid yn foreuach na'r fro hon. A gwnaed hyny trwy offerynoldeb gwraig, o sefyllfa gyffredin, ond o ysbryd rhagorol, a duwioldeb nodedig. Yr oedd Methodistiaeth eisoes wedi dechreu ymwreiddio yn sir Gaernarfon, tuag ardal Brynengan, nid yn mhell oddiwrth Bwllheli. Yn yr ardal hon yr oedd gŵr o'r enw John Prichard, yn byw yn Pandy-chwilog, plwyf Llanarmon; yr hwn oedd ŵr moesol a diachwyn arno, ac i'r hwn yr oedd gwraig wir grefyddol, ac mewn undeb â'r Methodistiaid yn Mrynengan, o'r enw Laura, neu Lowri Williams.[1] Acer nad oedd John Prichard ei hun mewn undeb eglwysig, eto fe ymddengys ei fod yn arfer gwrando ar y Methodistiaid, ac ni fynai roddi hyny heibio. Y canlyniad fu, iddo orfod ymadael â Phandychwilog, oblegyd nad ymddyosgai yn llwyr oddi wrthynt. Agorodd Rhagluniaeth ddrws i John Prichard a'i wraig i fyned i Bandy'r-ddwyryd, yn mhlwyf Maentwrog, sir Feirionydd. Yr oedd Lowri Williams erbyn hyn, mewn lle anfanteisiol iawn i fwynhau y moddion a ystyrid mor werthfawr ganddi, ond yr oedd yn lle er hyny, a roddai fantais iddi wneuthur llawer iawn o ddaioni. Nid oes hanes am neb o gyffelyb feddwl iddi o fewn llawer iawn o filldiroedd, ar law yn y byd. Yr oedd iddi tua 15 milldir i Frynengan ar y naill law, a thua 18 milldir i'r Bala ar y llaw arall. Nid hawdd ydyw ffurfio dychymyg
- ↑ Mewn llawer parth, yn y Gogledd yn enwedig, fe elwir y wraig ar ei henw ei hun, ac nid enw y gŵr.