Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/511

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

teilwng am deimladau meddwl y wraig hon dan y fath amgylchiadau. Llosgaï ei henaid gan awydd i ordinhadau Duw, ond nid oeddynt i'w cael o fewn llawer o filldiroedd meithion; sychedig oedd ei hysbryd am gymundeb y saint, ond nid oedd un yn agos ati; dyhëai am gyfarwyddyd a chynghor, ond nid oedd un yn y teulu, nac yn y wlad, a allasai ei roddi; eiddigeddai yn achos sefyllfa isel a thruenus ei chymydogion, ond beth a allai gwraig ei wneuthur? Nid oedd bregethwr yn nes na Lleyn neu y Bala; nid oedd nac ysgol Sabbothol na llyfr ymron ar gael i oleuo gradd ar y gaddug dywyll. Yr oedd y rhagfarn hefyd, yn erbyn y crefyddwyr mor gryf, yn yr amgylchoedd hyn, ag oedd yn ei bro ei hun; ac os dangosai yn amlwg trwy ryw gais o'r eiddo ei hawyddfryd i ddwyn y penau-cryniaid i'r wlad y daethai hi iddi, ac yn yr hon, nid oedd eto, ond dyeithr a diamddiffyn, pa sarhad ac anfri ni allai ddysgwyl i ddymchwel yn genllif aruthrol arni ac ar ei theulu. Dan y fath amgylchiadau, yr oedd yn dra anhawdd iddi ymarfogi yn ddigon gwrol i wneuthur cais at unrhyw beth yn yr achos; a phe teimlasai ei hunan yn ddigon penderfynol ei meddwl i wneuthur cais at hyny, yr oedd yn anhawdd dychymygu pa beth a wnai, a pha fodd. Ond yn ei sefyllfa hi fe wiriwyd y ddiareb, "Wele faint o ddefnydd y mae ychydig dân yn ei enyn!" Trwy ryw foddion neu gilydd hi a gafodd gan ryw rai ddyfod yn awr ac eilwaith i Bandy'rddwyryd i bregethu, a bendithiodd Duw ymddyddanion Lowri Williams, a phregethau achlysurol ei weision, i ennill ryw nifer ychwanegol ati. Mae ein hanes yn brin iawn yn nghylch y dull a'r modd yr ymosodwyd ar y gwaith da:-pwy oedd y pregethwyr, nac o ba le y daethant; ond y mae genym hanes am un amgylchiad nodedig y bu y wraig hon yn offeryn i ddychwelyd un llanc ieuanc gwyllt at Dduw, yr hwn a fu ar ol hyny yn nodedig ddefnyddiol, yntau hefyd, yn ei ardal, i rwyddhau mynediad yr achos yn ei flaen.

Yr oedd Lowri Williams yn arfer tori at bawb, y rhoddid cyfleusdra iddi i wneuthur hyny, am bethau crefyddol. Ni adawai lonydd i neb, ac ni ollyngai un cyfleusdra i fyned heibio, heb geisio gwneud defnydd o hono i'r dyben hwn: ac ni ollyngai yn anghof chwaith, dderchafu ei hochenaid at Dduw am fendith ar yr ymddyddanion, i wneuthur lles i eneidiau dynion. Crybwyllasom fwy nag unwaith eisoes, am enw un Griffith Ellis, Pen-yr-allt, gerllaw Harlech. Gŵr oedd hwn, a fu o wasanaeth arbenig i achos yr efengyl yn ei fro; ac i'r wraig hon, fel moddion, yr oedd yn ddyledus am ei ddychweliad at Dduw. Ryw Sabboth, pan yn ieuanc, ac yn cyrchu fel ieuenctyd y wlad yn gyffredinol, i ryw gyfarfod llygredig neu gilydd, fe ddaeth heibio Pandy'r-ddwyryd, ar ei ffordd i'r ymgynulliad; ond gan fod afon yn croesi ei lwybr, ac yntau yn anadnabyddus o'r lle goreu i'w chroesi, troes i dŷ Lowri Williams i ofyn iddi ei gyfarwyddo at y sarn. Hithau, gyda phob parodrwydd, a aeth gydag ef i ddangos iddo y lle, ac wrth fyned a ofynodd iddo, "Wel, fy machgen, a fyddi di ddim yn ymofyn y ffordd i'r bywyd ar y Sul?” "Na fyddai i," ebe yntau, "nac yn gofalu am ddim o'r fath beth." "Tyred yma y pryd a'r pryd," ebe y wraig, "fe fydd yma ŵr yn dangos y ffordd i'r nef."