"Na ddeuaf fi yn wir," ebe yntau; — ac i ffordd ag ef, yn fwy ei fryd am bleser y chwareu-gamp ynfyd, nag oedd ei ofal am ddim o'r pethau hyny. Ar yr un pryd yr oedd y saeth wedi cyrhaedd ei gydwybod. Swniai y gofyniad, a fyddi di yn ymofyn am y ffordd i'r bywyd?" yn ei glustiau yn fynych, ac ni allai gael llwyr lonyddwch oddi wrtho. Parai ymofyniad yn ei fynwes, pa ffordd a allai y ffordd i'r bywyd fod; a pha fywyd a allai hwn fod? Yr oedd gweddi Lowri Williams wedi pwyo yr hoel i'w arlais, ac ni pheidiodd ei waedu nes ei ladd trwy argyhoeddiadau. Taflwyd hedyn gwirionedd pwysig yn y modd yma i'w feddwl, a gwlychwyd yr hedyn hwnw â gweddiau y wraig dduwiol, nes iddo wreiddio yn ddwfn a ffrwytho yn ehelaeth. Dywedasai wrthi hi, na ddeuai efe i wrando ar y pregethwr; ac nid oedd ar y pryd yn bwriadu dyfod yn agos at y fath bobl, ac ar y fath neges; ond nid oedd lonyddwch i'w gael, a pha beth a wneid? Yr oedd ei enaid yn gwaedu gan drallod ac ing, ac yn dyheu am orphwysdra, ac yr oedd yn rhaid ysgogi yn rhyw gyfeiriad. Penderfynodd, pa fodd bynag, i fyned i wrando pa beth a allai fod gan y gŵr i'w ddweyd yn nghylch y "ffordd i'r bywyd." Yno hefyd yr aeth, ac nid ofer a fu ei fynediad. Goleuwyd ef am ei gyflwr colledig, ac am drefn Duw i gadw y colledig, nes iddo benderfynu lwyr adael ei hen gyfeillion a'i arferion gynt, ac i ymroi i wasanaeth yr Iesu dros ei oes. A gwas ffyddlawn yn yr holl dŷ a fu. Hwn oedd y gŵr y dywedasom iddo ollwng y wedd, pan yn aredig yn y maes, ganol dydd, a myned ugain milldir ar ei draed, i grefu ar bregethwr i ddyfod i'w ardal y Sabboth canlynol,[1] hwn hefyd yw y gŵr y byddai offeiriad anystyriol ei blwyf ofn ei gyfarfod,[2] gan amlycced oedd ei dduwioldeb, a chan hallted oedd ei ymadroddion. Fe fu Griffith Ellis yn fendith fawr yn ei ardal, ac nid yn unig yn ei ardal ei hun, ond yn y rhai cymydogaethol hefyd, ac y mae ei enw yn beraroglaidd hyd heddyw yn ei fro enedigol.
Er fod dychweliad Griffith Ellis ei hun o werth annbhraethol iddo ef ei hun, ac o ddefnyddioldeb mawr i achos yr efengyl; eto nid hyn oedd yr unig les a ddeilliodd o gynghorion a gweddiau Lowri Williams; ond ymestynodd eu dylanwad ymhellach, a bendithiwyd ei hymdrechion i raddau llawer mwy. Trwy ei dylanwad crefyddol hi yn ei theulu, y gwnaed ei gŵr yn foddion i dynu i lawr yr halogiad gwrthun oedd ar y Sabboth yn Nhrawsfynydd. Yn mhen rhyw amser, casglodd wyth at eu gilydd i ffurfio cymdeithas eglwysig fechan, ac yn ei thŷ hi y cynhelid y moddion hyn. Gelwid y gymdeithas hon, "teulu arch Noah," oblegyd wyth enaid oedd o honynt. Eu henwau oeddynt, -Lowri Williams a'i nith Gwladys Jones; Edward Roberts, y gwehydd (wedi hyny yn bregethwr), a'i wraig; Robert ei frawd a'i wraig; a John Humphreys, Gwylan, a'i ferch. Chwanegwyd atynt cyn hir bump eraill, yn mysg y rhai yr oedd Griffith Ellis, y soniwyd eisoes am dano. Yr oedd yr ychydig nifer hyn yn preswylio yn mhell oddi wrth eu gilydd;—un, gerllaw