Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/513

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Harlech; un arall, yn mhlwyf Llanfrothen; un arall, yn Ffestiniog; ac un arall, yn Nhrawsfynydd. Yr oeddynt fel pe gwasgarid hwy yn fwriadol, fel y chwelid perarogl yr efengyl o hyny yn fwy ar led, ac y rhoddid iddynt gymaint a hyny o fantais i fod yn fwy defnyddiol i ledaenu achos yr efengyl yn y wlad.

1770. Tua'r amser hwn, pan y cedwid y cyfarfod eglwysig, o'r fath ag ydoedd, mewn hen dŷ mynyddig, o'r enw Gelli-gwiail, yr oedd golwg isel ar yr achos crefyddol yn mysg yr ychydig bobl a brofasant radd o argraffiadau y gair ar eu meddyliau. Yr oedd llawer o gywirdeb yn eu hysbrydoedd, ond nid oedd ganddynt ond ychydig o wybodaeth; ac nid oedd yn eu mysg ond ychydig iawn o drefn yn cadw eu cyfarfodydd, a phrin y gellid dweyd fod gweddusrwydd priodol i bwysigrwydd eu hamcan, weithiau, yn eu mysg. Eto, pa beth a allent fod ond plant mewn gwybodaeth a phrofiad; a pha fodd y gallent fod yn amgen, gan mor ychydig a fuasai eu manteision blaenorol, a chan mor anaml oedd eu cyfarwyddwyr presenol. Prin y gellid edrych ar eu cyfarfodydd eglwysig yn addoliad, gan y dull y cedwid hwy. Eisteddai yr ychydig a berthynai i'r gymdeithas yn yr hen dy a enwyd, o amgylch y tân, gan ymddyddan â'u gilydd, ymron fel y gwnaent ar achlysuron eraill, pan ddygwyddai iddynt gyfarfod â'u gilydd, a rhai o honynt ar y pryd a sugnent y bibell, ac a chwiffient y myglys, heb edrych ar hyny yn un trosedd ar weddeidd-dra a threfn.

Un tro pan oeddynt wedi ymgyfarfod yn y modd yma, daeth atynt ŵr a adwaenent yn dda, ond un na fuasai gyda hwynt yn eu cyfarfodydd neillduol erioed o'r blaen. Yr oedd yn syn ganddynt ei weled, a pharod oeddynt i dybied, naill ai bod ganddo ryw amcan gau, neu ynte ei fod wedi camsynied am natur y cynulliad. Am hyny, ar ei ddyfodiad i mewn, aeth gŵr y tŷ ag ef i ystafell arall o'r neilldu, er mwyn rhoddi hysbysiad iddo mai cyfarfod eglwysig oedd ganddynt; neu ynte, os oedd hyny yn adnabyddus iddo, i ymofyn ag ef pa beth a'i cymhellasai i ddyfod atynt. Wedi cael boddlonrwydd yn yr ymddyddan, dychwelodd at ei frodyr, ac yn llawen iawn a ddywedodd, "A wyddoch chwi beth, mae Dafydd Siôn James wedi rhoi ei enw i lawr, y mynyd hwn!"—Felly, tybygid, y byddent yn derbyn aelod newydd i mewn, trwy iddo roddi ei enw i lawr, fel y gwneir yn bresenol gyda dirwest.

Yr oedd yr ychydig grefyddwyr yn Gelli-gwiail yn falch iawn o'r proselyt hwn. Yr oedd yn perthyn iddo ragoriaethau nad oedd ond ychydig y pryd hyny yn eu meddiannu; —medrai ddarllen, ysgrifenu, a barddoni. Ac heblaw ei fod yn fedrus ar y pethau hyn, yr oedd yn dda ganddynt ganfod ynddo y fath gyfnewidiad ag a welent fod ynddo erbyn hyn. Yn y flwyddyn 1767, Sef dwy neu dair blynedd cyn y tro hwn, yr oedd y gŵr hwn wedi cyfansoddi cân o wawd ar y Methodistiaid, ac o ganmoliaeth i'r eglwys, sef eglwys y plwyf. Titl un ganig o'r eiddo ydoedd, FFLANGELL YSGORPIONOG i'r Heresiaid, -gelynion y gwirionedd, a alwant eu hunain y METHODISTIAID, ond