Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/516

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond nid oedd Mr. Foulkes a John Evans ddim yn segur er nad oeddynt eto yn pregethu. Yr oedd bugeiliaeth eglwysig yn y Bala yn disgyn arnynt, yn enwedig ar John Evans, yr hwn oedd yr hynaf ac a fuasai yno er y. dechreuad. Cyhoeddwyd ganddynt tua'r pryd hwn, sef 1759, ddwy bregeth o eiddo Mr. Charles Wesley, a "Phrif Physygwriaeth yr oesoedd gynt," o waith y Parch. John Wesley; ac yn 1761, cyhoeddwyd llyfr arall, sef 'Rheolau yr Unol Gymdeithasau, a sefydlwyd yn Llundain, Bristol, a lleoedd eraill." Barnent, yn ddiau, fod angen am y fath lyfrau ar y Cymry, a llafurient yn y modd yma i wasgar yr anwybodaeth trwch, a orchuddiai y wlad, ac i'w hyfforddi mewn gwybodaeth fuddiol.

1765. Tua'r flwyddyn hon y dechreuodd John Evans bregethu; a thrwy anogaeth ei frodyr crefyddol y dechreuodd. Canfyddasent, yn ddiau, lawer o gymhwysder ynddo i gyfarwyddo ac addysgu dynion yn y pethau a berthynent i'w heddwch. Yr oedd eisoes yn arfer cryn lawer ar addysgu eraill yn y gymdeithas eglwysig, ac wedi rhoddi profion mynych ac amlwg o'i wybodaeth a'i brofiad yn mhethau'r efengyl. Wedi iddo ddechreu, efe a lafuriodd yn y gwaith hwn o gyhoeddi y newyddion da ar hyd y wlad, yn enwedig ar y Sabbothau, hyd nes y'i lluddiwyd ef gan henaint. Ai yn ewyllysgar i gonglau tywyll i'r wlad, ac ymdrechai yn egniol i draethu y gair yn ddeallus. Amcanai oleuo ei wrandawyr tywyll, a safai yn rymus yn erbyn eu harferion llygredig ac annuwiol. Yr oedd, gan hyny, yn ŵr cymhwys iawn i ymosod ar y gaddug dew o anwybodaeth a orchuddiai y broydd oll, ac i ddiwygio ei gydwladwvr oddi wrth eu hofer ymarweddiad. Fel y gellid dysgwyl, tynodd hyn arno lawer o ddygasedd ac erlid. Er mwyn cael gwared o'r fath un o'r wlad, amcanodd rhai o foneddwyr y gymydogaeth ei orfodi i fod yn filwr, a rhoddwyd gwŷr ar waith i'w ddal i'r dyben hyny; ond trwy ryw foddion neu gilydd, cafodd hysbysiad mewn pryd o'u bwriad, a ffôdd o'i dŷ; a bu yn ymguddio mewn maes o ŷd, yn mhlwyf Llangower, tua thair milldir o'r Bala, gan orwedd ar ei wyneb, ar y llawr, am y rhan fwyaf o'r diwrnod hwnw. Cafodd ei faeddu a'i luchio yn dost mewn amrywiol fanau, lle yr â i bregethu; a bu raid iddo aml waith ddianc am ei einioes. Tarawyd ef unwaith, ar heol y Bala â chareg yn ei wyneb, fel y torwyd un o'i ddanedd, ac y tyllwyd ei wefus isaf, a syrthiodd yntau ei hun mewn llewyg ar y llawr. Cafodd allan ar ol hyn, pwy a'i tarawsai mewn modd mor annymunol, eto ni fynai ei gosbi er dim; ond ryw bryd, pan y cyfarfu ag ef mewn pentref yn y wlad, efe a roes brawf i'r adyn, nad oedd yn llochesu dim drwg deimlad tuag ato, trwy dalu am giniaw iddo.

Yr oedd John Evans yn ddyn mawr o ran corff a meddwl. O ran ei gorff, yr oedd yn un o'r rhai talaf; o ystum syth, ac urddasol; —ei lygaid yn graff a bywiog;—a'i ddiwyg yn lanwaith a threfnus. Rhoddai yr olwg arno ddrychfeddwl mai nid gŵr cyffredin ydoedd. Adwaenid ef fel gŵr cryf ei gyneddfau, —ac yn medru llywodraethu ei dymherau yn dda. Rhagorai ar ei gymydogion o ran gwybodaeth gyffredinol am y byd a'i helyntion. Yr oedd yn wladwr parchus, yn gystal ag yn gristion gloyw. Da iawn i'r