Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/518

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

achos crefydd yn gyffredinol; a pha nifer bynag yn nhref Dolgellau, o ber- sonau neillduol, a ddychwelwyd at Dduw trwy y gwŷr rhagorol uchod, ni newidiwyd agwedd gyffredinol y preswylwyr mewn un modd, ond yr oedd ansawdd grefyddol y dref a'r wlad, ar ddechreuad y ddeunawfed ganrif, mor isel a llygredig, ag y buasai yn y cynoesoedd. Er enghraifft, i ddangos pa mor llwyr yr oedd gweinidogaeth Hugh Owen wedi diflanu o'i gymydogaeth ef ei hun, gallwn nodi yr amgylchiad a ganlyn:—

Yr oedd y Parch. Robert Griffith, yn arfer, pan yn ieuanc, fe allai tuag ugain oed, o leiaf cyn iddo ddechreu pregethu, o fyned gyda chyfaill crefyddol arall, i ardal Bron-clydwr, i gynal cyfarfodydd i weddio, ar brydnawn Sabboth. Pan oeddynt yn ymgynyg at hyn yma, cawsant, mai nid hawdd oedd cael neb a'u derbynient hwy i dŷ; a thrwy dalu swllt bob Sabboth i ryw amaethwr, y cawsant ddrws agored i gynal y fath gyfarfod yma. Yr oedd gwedd ac ysgogiadau y trigolion yn cydweddu â hyn hefyd. Weithiau fe fyddai llonaid y tŷ o'r cymydogion yn y cwrdd; a phryd arall, ni cheid ond teulu y tŷ yn unig. Nid oedd dychymyg ganddynt pa ymddygiad a weddai i addoliad pan y deuent iddo ; ond deuent i mewn ac allan wrth eu mympwy. A llawer gwaith y bu ofn mawr ar galon un o'r brodyr, iddynt oll fyned allan, cyn i'r brawd cyntaf derfynu ei weddi; mor fychan oedd syniad yr ardal hono, pa fath agwedd oedd yn gweddu i addoliad!

Mae rhai hen bobl yn y dref yn awr, yn tystio fod Howel Harris wedi bod yn pregethu ynddi; ac yn ol y darluniad a roddir, rhaid fod hyny ar ol yr ymraniad, ac yn ystod yr amser yr oedd Mr. Harris yn gadpen ar nifer o wŷr a gynygiasent eu hunain yn filwyr ewyllysgar i amddiffyn eu gwlad, yn yr amser yr oedd y rhyfel mor boeth yn erbyn y deyrnas hon. Cynygiasai Harris ei wasanaeth i'r llywodraeth fel milwr, ar yr amod iddo gael pregethu yn mhob man y trefnid iddo a'i wŷr wersyllu. Caniatawyd hyn iddo; a'i arfer gyson oedd pregethu yn mhob man lle byddai dros enyd yn aros; ac yn ystod y tair blynedd y bu ef yn gwisgo y gôt goch, ni esgeulusai un cyfleusdra a roddid iddo, i gyhoeddi newyddion da'r efengyl. Nid oes dim yn ymddangos yn anhygoel i mi yn y chwedl fod Howel Harris wedi bod yn pregethu yn Nolgellau; a gallwn feddwl hefyd, mai yn ngauaf y flwyddyn 1760, Ꭹ bu hyn, gan ei fod ef a'i wŷr yn gauafu yn Aberbonddu; a bychan gan ŵr o ysbryd a sel Harris ydoedd marchogaeth can' milldir i bregethu; a hyny yn fwy, os deallai fod y lle yn nghauad gan crlidigaeth. Nid yw, gan hyny, yn anhygoel mewn un modd, wedi iddo glywed ffyrnicced oedd trigolion Dolgellan, yn erbyn y penau-cryniaid, na theimlai rwymau arno ci hun, i ymosod ar amddiffynfa y gelyn. Y chwedl sydd fel hyn:—

"Fu fu Howel Harris yn y dref hon yn pregethu. Yr oedd ganddo am dano hugan fawr lâs, wedi ei bottymu hyd y gwddf. Pan ddechreuodd bregethu, dechreuodd y bobl derfysgu yn arswydus, ac ymosod arno trwy ei luchio, a llefain, a rhwystro clywed ei lais gan y bobl. Galwai arnynt yn uchel a gwrol yn enw y Goruchaf i fod yn llonydd, ond ni wrandawent; yna efe a ymddyosgai o'r hugan lâs, gan ddangos ei wisg filwraidd, a gorchymyn