Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/523

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yn ofni Duw. Fe fyddai un Mr. Evans, gweinidog Llanuwchllyn, yn arfer dyfod yno yn achlysurol i bregethu. Deuai rhai o bregethwyr y Methodistiaid hefyd yno i bregethu. Rhoddai hyn gyfleusdra i grefyddwyr Dolgellau gael ambell bregeth; ac er fod y ffordd yn mhell, fe ddeuai llawer o honynt yno; -y gwŷr ar ol cadw noswyl oddiwrth eu gwaith, a'r gwragedd hefyd, ar ol rhoddi y plant i orphwys, i wrando yr efengyl: " Yr oedd gair yr Arglwydd yn werthfawr yn y dyddiau hyny." Mae hen achos gan y Methodistiaid yn yr ardal hono, dan yr enw Bont-ddu, hyd heddyw.

Cymerodd cyfeillion yn y Bala, dan amod-weithred, dŷ o'r enw Pant-y-cra, yr hwn oedd oddeutu milldir o dref Ddolgellau, i bregethu ynddo. Un Sabboth, yr oedd addewid i Mr. Foulkes ddyfod yno i bregethu. Taenodd y sŵn am hyn ar led; a phan ddaeth yr amser, tyrodd pobl y dref a'r wlad yno, gan fygwth, os efe a anturiai yno, y lladdent ef; ac y claddent ef mewn pwll mawnog gerllaw, Deallodd rhai o'r cyfeillion, fod y dorf fileinig yn llechu y fath fwriad gwaedlyd, ac aethant i'w gyfarfod, ac a'i hattaliasant i dyfod yno. Hwythau wedi eu siomi yn eu dysgwyliad, a ruthrasant ar y tŷ, a thynasant ran o hono i lawr; ond ar ol hyny, ac wedi ystyried eu bod yn agored i gosb, hwy welsant yn oreu ei adgyweirio drachefn.

Yr oedd moddion mawl a gweddi yn cael eu cynal un nos Sabboth, gan y cyfeillion yn y dref, pryd yr ymosodwyd arnynt yn echryslawn gan yr erlidwyr, a tharawyd un yn ei ben a chareg, nes y bu yn hir mewn llewyg; a chan ofni eu bod wedi ei ladd, ffoisant ymaith gyda phob brys. Y nos Sabboth canlynol, daeth yno ddau i bregethu; ac fel y geilid dysgwyl, nid oeddynt heb radd go helaeth o arswyd. Pa fodd bynag, wedi ymgasglu o'r gwrandawyr i'r tŷ, eisteddodd gwraig y tŷ, sef Catherine Owen, yn y ffenestr oedd ar gyfer y pregethwr, gan ddywedyd yn siriol iawn,—" Ni chant eich taro, oni tharawant chwi trwyddai i." Bu hyn yn rym i feddwl y pregethwr, wrth weled pa mor ddisigl yr ymddiriedai yn yr Arglwydd. Y tro hwn, yn groes i'r dysgwyliad, fe gafwyd llonyddwch i gadw yr oedfa.

Dygwyddodd i Mr. Charles amgylchiad lled gyffelyb yn yr un ardal, yn mhen blynyddoedd ar ol yr un a grybwyllwyd. "Côf yw genyf," meddai, ،' fy mod yn yr ardaloedd hyny yn pregethu allan unwaith, ac wedi dechreu pregethu, canfyddwn ryw nifer o'r teulu erlidigaethus hyn yn neshau ataf, â thywyrch neu geryg, yn eu dwylaw, ar fedr eu taflu ataf. Pan ganfyddodd un o'r dyrfa hyn, gŵr tal, corffol, neidiodd i fyny a safodd rhyngof â'r perygl, a pharodd i mi draethu yr hyn oedd genyf i'w draethu i'r bobl yn ddibryder."

Y bregeth gyntaf a bregethwyd yn Nolgellau, wrth oleu y dydd, oedd gan Mr. Griffiths, Caernarfon, gweinidog yr Annibynwyr. Ac fel hyn, meddant, y bu. Dygwyddodd i gyfreithiwr o Gaerlleon ddyfod unwaith i'r dref, yr hwn fel yr ymddengys, oedd o leiaf, am fynu rhyddid cydwybod i'w gyd-ddeiliaid i addoli, y ffordd a'r pryd y mynent; ac fe allai fod mwy na hyn yn ei lywodraethu. Fe ddichon ei fod yn eiddigeddu dros achos ysbrydol y trigolion, ac yn gresynu na roddid iddynt y fraint i wrando pur eiriau Duw. Deallodd, pa fodd bynag, y gwrthwynebiad ffyrnig a ddangosid, a'r moddion