creulawn a arferasid eisoes, i attal dyfodiad neb i bregethu yn y dref, nac yn ei chyffiniau. Aeth y boneddwr hwn i chwilio am rai o'r crefyddwyr, gan ymofyn â hwynt, a oedd yr un pregethwr yn y fan a'r lle, a roddai gais ar bregethu. Cafwyd, wedi ymholi, fod y gŵr da a enwyd yn y dref ar y pryd; a chafwyd ei fod yn foddlawn i bregethu hefyd. Ond yr anhawsder bellach oedd cael tŷ. Symudwyd y rhwystr hwn hefyd, trwy i un, o'r enw Siôn Lewis, foddloni agor ei dŷ ef i'r dyben. Addefai yr hen ŵr, ar yr un pryd, fod math o gryndod wedi ei ddal, o'r mynyd cyntaf yr addawodd ei roddi, hyd nes y dechreuwyd yr oedfa, trwy ganu y penill canlynol:
Mewn coffin cul o bren caf fod,
Heb allu symud llaw na thro'd;
A'r corff yn llawn o bryfed byw,
A'm henaid bach lle myno Duw.
Tra yr oedd y pregethwr yn myned rhagddo gyda'r gwasanaeth crefyddol, yn nhŷ Siôn Lewis, yr oedd y cyfreithiwr yntau, yn cadw gwyliadwriaeth Oddi allan; gan rodio oddiamgylch y drws, a chan anog y bobl i fyned i mewn. Gosodasai ei was, ar yr un pryd, wrth y drws, modd y gellid craffu pwy a fyddai yr aflonyddwyr, os meiddiai neb ymosod at y gorchwyl arferol o derfysgu yr aelodau. Ond ni ddaeth neb yn mlaen i aflonyddu y tro hwn, nid o gariad at efengyl Crist, ond rhag ofn cyfraith Lloegr. Fe fu pregethu yn nhŷ Siôn Lewis lawer gwaith ar ol y tro hwn.
Fe fu pregethu mewn amrywiol o dai eraill yn y dref; ac yn eu plith yn nhŷ gŵr o'r enw Mr. David Owen, gwydrwr; rhai o hiliogaeth yr hwn ydynt, yn y dyddiau hyn, a'u hysgwyddau dan yr arch; ac wedi eu bendithio â gwên rhagluniaeth. Nid yw yn ymddangos fod gŵr y tŷ hwn yn cyfrif ei hun yn mysg y crefyddwyr, ond yr oedd ei wraig ef; ac yntau, hefyd, a deimlai yn dyner tuag at achos yr efengyl, a pharod oedd i wneuthur rhyw gymwynas iddo. Prawf o hyn ydoedd, ei waith yn agoryd ei dŷ i dderbyn pregethu ynddo; oblegid nid anturiaeth bychan, y pryd hyny, oedd hyn. Mynych iawn y dyoddefai y cymwynaswyr hyn yn dost, gan ddifrod ar eu meddiannau, maeddiad ar eu personau, a phob anfri ar eu henwau. Mae hen ŵr yn awr yn fyw, o leiaf yr oedd felly yn 1850, yr hwn a fu mewn oedfa pan yn blentyn yn y tŷ hwn; a dywedai, fod yr erlidwyr y pryd hwnw wedi myned i'r fynwent, yr hon sydd gyferbyn â'r tŷ, a lluchio cerig mawrion ar dô y tŷ, y rhai oedd yn tyrfu fel taranau uwch ben y pregethwr a'r gynulleidfa, nes y bu raid rhoddi heibio bregethu.
Ambell waith, fe siomid yr erlidwyr trwy foddion lled hynod, a rhai o honynt yn lled ddigrif. Yr oedd dau o feibion rhyw siopwr mawr yn y dref yn cymeryd y blaen yn erlid y crefyddwyr. Rhyw hogiau mwy eu direidi nag o synwyr oeddynt, ac yn tybied fod eu sefyllfa, fel meibion hwn a hwn, y fath na feiddiai neb ddywedyd nemawr yn eu herbyn. Un tro, pan oedd moddion yn cael eu cynal yn nhŷ Siôn Lewis, deallodd fod y terfysgwyr yn ymgasglu. Aeth Siôn Lewis allan atynt, a chafodd fod yr hogiau gwarsyth uchod yn eu mysg. Nesâodd yn araf at un, ac wedi'n at y llall, a gwasgodd y ddau