Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/528

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Anfonwyd gweision y sirydd gyda'r crefyddwyr i Ddolgellau, ac anfonwyd y criwr trwy y dref, i hysbysu yr amddiffyniad a roddid drostynt, os meiddiai neb eu gorthrymu mwy.

Parodd yr amgylchiad hwn, yn ddiamheuol, ei ddylanwad ar y dref, a chanfyddai yr erlidwyr y byddai raid iddynt, o leiaf fod yn wyliadwrus pa beth a wnaent, rhag y dymchwelai eu troseddau ar eu penau hwy eu hunain. Eto, er hyn, nid oedd perffaith seibiant i'w gael. Gofelid yn fwy i gadw o fewn rhyw derfynau. Ni ellid anturio bellachi'r fath eithafion, eto defnyddid pob cyfleusdra i flino a difrio y crefyddwyr, ac i derfysgu eu cyfarfodydd, trwy ddynion, a thrwy foddion, nad oedd prin afael gan gyfraith arnynt.

Y lle cyntaf yn y dref i ymsefydlu ynddo, tybygid, oedd mewn tŷ ardrethol, yn nghyntedd Plas-yn-dre. Tŷ bychan distadl ydoedd, ond yr oedd o dan ddylanwad y Miss Edwards y soniasom eisoes am dani. Yn y tŷ hwn y sefydlwyd y gymdeithas eglwysig gyntaf; ac yma y dewiswyd y blaenoriaid neu henuriaid eglwysig cyntaf. Fe soniai rhai o'r hen bobl, hyd yn ddiweddar, am weddi hynod Robert Siôn Oliver ar yr achlysur o ddewis blaenoriaid. Rhedai rhyw gyfran o honi yn y wedd a ganlyn,—"O Arglwydd, rhyw ddau neu dri o bobl druain dlodion oeddym ni, 'does fawr; yn awr yr ydym yn llawer mwy. Y mae i ni yrŵwan FLAENORIAID.—Bendigedig, Arglwydd, am FLAENORIAID.—Llwyddiant iddyn nhwy;—llwyddiant iddyn' nhwy!" &c. Ymddengys fod y weddi ddirodres hon, a rhyw danbeidrwydd dysglaer ynddi ar y pryd, yr hwn ni ellir ei ddysgrifio, a'r hwn ni ellid chwaith ei lwyr anghofio. Dyoddefasant lawer oddiwrth erlidwyr, mewn anfri ac aflonyddwch, yn y lle hwn hefyd. Arferai meibion rhyw feddyg, ag oedd yn byw yn y dref, eu haflonyddu mewn llwybr dystaw, ac eto tra effeithiol. Wedi deall eu bod yn gynulledig, ac yn ddyfal gyda'r addoliad, deuent yn ddystaw at y lle, a thrwy ryw dwll neu agen, chwythent fwg asafatida i mewn i'r ystafell, fel ag i'w llenwi â drewdod annyoddefol; a mynych y bu raid iddynt ddianc ar ffrwst o'r lle gan rym y sawyr ffiaidd. Bryd arall, arferai rhyw rai chwythu mewn cyrn, a churo padelli, neu ryw offer cyffelyb, i'r dyben i beri cymaint o sŵn ag a orchfygai lais y pregethwr neu y gweddiwr, a thrwy hyny ddyrysu y cyfarfod.

PENNOD III.
PARHAD O'R CYFNOD RHWNG YR YMRANIAD A CHYCHWYNIAD YR YSGOL SABBOTHOL.

CYNWYSIAD:
PREGETHWYR Y CYFNOD HWN—DECHREUAD METHODISTIAETH YN MHENMACHΝΟ Α DOLYDDELEN—YN ABERMAW—CAPEL PENRHYN-DEUDRAETH—ANSAWDD YR ACHOS YN Y PENRHYN AR Y PRYD—EDWARD ROBERTS, "HEN FICER CRAWGALLT"—ERLID LOWRI WILLIAMS—CYCHWYNIAD METHODISTIAETH YN DYFFRYN-AR-DUDWY—GORUCHWYLIWR CORS-Y-GEDOL YN ERLID—MR. LLWYD, Y CURAD—GRIFFITH RICHARD, HARRI ROBERTS, &c.

Yn ystod y tymhor hwn, cyfododd amryw bregethwyr yn sir Feirionydd, yn neillduol yn y Bala a'r gymydogaeth, heblaw y rhai a nodwyd eisoes, sef, Humphrey Edward, o'r Bala; William Evans, o'r Fedw-arian; Robert Jones,