Yr oedd William Evans, o'r Fedw-arian, gerllaw y Bala, yn gymydog i Humphrey Edward, yn cyd-oesi ac yn cyd-lafurio ag ef. Ymddengys fod doniau William Evans yn fwy gwlithog a phoblogaidd na'r eiddo ei gymydog. Cafodd y ddau brofiad helaeth o wrthwynebrwydd y natur ddynol i dderbyn yr efengyl, a dyoddefasant eu rhan o erlidigaeth eu hoes. Cyhoeddwyd William Evans i bregethu mewn tŷ o'r enw Maesydd-llydain, yn ardal y Penrhyn. Pan ddaeth amser yr oedfa i ben, canfyddwyd fod yno liaws o erlidwyr wedi dyfod i'r lle, gan derfysgu mewn modd cyffrous a dilywodraeth. Gan y cynhwrf oddiallan i'r tŷ, penderfynodd y pregethwr, a rhyw nifer o gyfeillion gydag ef, fyned allan o'r tŷ, rhag o bosibl i'r terfysgwyr direol wneuthur sarhad a cholled i breswylydd y tŷ. Aethant ymaith oddiwrth y lle, megys haner milldir o bellder, i le a elwir Pen-y-bwlch. Canlynid hwy gan yr erlidwyr, y rhai oeddynt yn eu goganu yn atgas, ac eu lluchio yn ffyrnig. Yn y cyfamser, disgynodd ar feddwl rhyw ŵr yn mysg y gwrandawyr, yr hwn oedd gryf o gorff, a gwrol o feddwl, i sefyll rhyngddynt, rhag i'r naill fyddin nesâu at y llall, mwy na'r eiddo Pharao at Israel gynt. Pan oeddynt tua therfyn y ddau blwyf, ac i'r gŵr canol fyned drwy y llidiart, cauodd hi ar ei ol, a safodd yno mewn dull gwrol, ac â gwedd benderfynol a gyfarchodd yr erlidwyr, "Pwy bynag o honoch chwi," ebe efe, "a ddaw gyntaf trwy y llidiart yma, a fydd yn ddyn marw yn y fan." Hyn nis dysgwyliasant, gan y dyb gyffredinol a lochesid na wrthwynebid hwy er dim gan y crefyddwyr, ond y goddefid iddynt wneuthur y sarhad a fynent iddynt. Disgynodd bygythiad a hèr y dyn hwn arnynt, pa fodd bynag, gyda grym anarferol, a pharodd ei ddychryn arnynt, nes y troisant yn ddystaw a llechwraidd yn eu hol; ac aeth pob un i'w gartref. Cafodd y pregethwr a'i ganlynwyr ddianc yn y modd yma heb eu niweidio, a chawsant lonyddwch hefyd i gadw yr oedfa yn ddiwarafun.
Yr oedd eu herlid yn beth mor gynefin gan y pregethwyr yn y tymhor hwn, fel nad oedd ond yr hyn a ddysgwylient, ymron bob oedfa, i ryw raddau mwy neu lai; ond fe ymddengys yn bur amlwg hefyd, fod eu nerth yn ol y dydd, ac y rhoddid iddynt, yn bur gyffredin, yn nghyda'r demtasiwn, ddiangfa hefyd; a hyny yn aml, mewn dull a thrwy foddion tra hynod.
Yr oedd cyhoeddiad gan William Evans, ryw dro arall, yn ardaloedd Trawsfynydd, pryd na ddysgwyliai amgen na'i luchio a'i faeddu. Yr oedd yr oedfa i gael ei chadw allan yn yr awyr agored, fel y gwneid yn fynych iawn. Ond nid oedd y llygeidyn tir ddim wedi ei benderfynu yn fanwl, ond y cynelid hi yn rhyw le ar y rhos, neu ar y bryn, neu y mynydd, a enwid. Ac ebe William Evans wrth ei ganlynwyr, "Gadewch i ni chwilio am ryw le na fydd dim chwyrn-feini gerllaw i'w lluchio atom-nid llawer gwaeth a fyddwn er ambell dwr o biswail." Digwyn, pa fodd bynag, oedd dyoddef yr holl gamwri a wnaed â hwy, gan y rhoddid arwyddion mor fynych ac mor nodedig, fod y Duw mawr yn gwenu ar eu hymdrechiadau, ac yn bendithio eu llafur. Yr oedd effeithiau eu gweinidogaeth ddiaddurn a dirodres, yn rhyfeddol. Cerddai y fath rym gyda'u pregethau nes y byddai dynion yn cael eu dal