megys ar unwaith;—yn cael eu diarfogi megys mewn mynyd; ac weithiau, mewn modd na wyddent paham. Yr oedd grym y gwirionedd mor anorchfygol, ac yn ymaflyd mor ddisymwth yn nghydwybodau dynion, nes y cydmherid yr effaith i swyn; a mynych y rhybuddid y trigolion, gan hwn ac arall, am ochelyd myned i'w sŵn hwy rhag eu swyno ganddynt.
Dygwyddodd yn y modd yma i fab y Brynlli-fawr, dan weinidogaeth William Evans. Rhoddasid rhybuddion mynych i'r llanc, nad elai yn agos atynt oddieithr i'w lluchio, ond ar bob cyfrif nad ai byth i'w cynulliadau i wrando pa beth oedd ganddynt, onide y gellid sicrhau iddo mai ei ddal a wneid gan y swyn. Anturio, pa fodd bynag, a wnaeth y bachgen, i fyned hyd at ryw lidiart, digon agosi glywed y sŵn, ond ar yr un pryd, digon pell i brofi nad oedd ef yn un o honynt, nac yn chwenych cael ei swyno ganddynt. Oddiwrth y llidiart hwn, pa fodd bynag, clywai lais y pregethwr, a disgynodd y gwirionedd ar ei gydwybod, nes oedd iasau brawychlyd yn ei gerdded; meddyliodd yn ei galon mai gwir a glywsai am y swyn a ddaliai y rhai a'u gwrandawent, a dywedai, "Dyma fi wedi fy swyno." Yn y canlyniad, hi droes allan felly. Enillodd yr efengyl galon y llanc, a dylynodd Fab Duw, er gwaethaf pob gwrthwynebiad, o hyny allan.
Dro arall, yr oedd William Evans yn pregethu dan ryw ddraenen yn ymyl Pen-y-stryd, Trawsfynydd, pryd yr ennillwyd un tra annhebyg i ymuno byth â'r crefyddwyr, gan faint oedd ei chynddaredd. Yr oedd Edmund Jones, gŵr tra adnabyddus yn sir Feirionydd tros lawer blwyddyn, eisoes wedi ei Adal yn rhwyd yr efengyl; ac i hwn yr oedd chwaer tra ffyrnig yn erbyn y penau-cryniaid, ac yn fileinig wrth ei brawd am iddo droi ei gefn ar grefydd ei hynafiaid. Yr oedd y chwaer hon yn byw yn Llechedris; ac ar ryw Sabboth, wrth ddychwelyd o'r eglwys, lle y buasai yn addoli yn ddefosiynol iawn, yr oedd ei ffordd yn ei harwain heibio i'r man lle yr oedd William Evans yn pregethu. Yr oedd Edmund ei brawd yn yr oedfa, ac yn dysgwyl y deuai ei chwaer heibio. Nid oedd yn amheu dim na pharai aflonyddwch wrth fyned heibio, yn enwedig os deallai fod Edmund yn mysg y bobl, gan faint oedd ei chynddaredd tuag ato, o herwydd ei grefydd; am hyny, aeth Edmund i'r ochr arall i'r clawdd, pan y deallai fod ei chwaer yn dynesu at y fan, gan ddyrchafu ei galon at Dduw trosti, ar iddi gael ei saethu gan y gair wrth fyned heibio. Hi ddaeth at y lle, ar gefn ei cheffyl, a gwaeddai, "A ydyw Edmund ni yna?-yr hen ffwl." Yr un mynyd gweddiai yntau drosti, "Saetha hi, Arglwydd, ar gefn ei cheffyl." A gweddi y brawd a orchfygodd gyda Duw drosti; oblegid cyn pen y pymthegnos, hithau a ymunodd â'r crefyddwyr, ac a gymerth ei rhan yn eu hadfyd hwy.
PENMACHNO A DOLYDDELEN.
Mae enwogrwydd wedi ei osod ar Benmachno, nid oblegid brasder y tir, a chyfleusderau y wlad; yn yr ystyriaethau hyn y mae llawer llanerch yn rhagori arni. Y mae yn gorwedd yn mhell yn nghanol mynyddoedd gerwin ac ysgythrog, ar gil oddiwrth dref na marchnad; eto y mae ei chreigiau