Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/532

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gyfoethog o lechau, a'i hawyr yn bur ac iachusol. Ond y mae yn derbyn ei henwogrwydd o ffynnonell arall, sef am mai o fewn mynwes y fangre hon y ganwyd ac y magwyd y clodwiw Dr. Morgan, yr hwn a gyfieithodd yr Ysgrythyrau Santaidd i'r iaith Gymraeg. Gŵr da a duwiol yn ddiau oedd y Dr. Morgan, a hyny mewn amser tywyll a barbaraidd iawn. Ganwyd ef yn y Tŷ-mawr, yn Wybrnant, yn mhlwyf Penmachno. Gelwid y nant yn Wybr-nant, am ei chylchynu â bryniau, ac nad oedd dim yn y golwg ond y wybr lâs ei hun. Y mae yr hen dŷ yn aros eto, agos yn yr un dull ag yr oedd gynt. Yr oedd gan y doctor dyllau, meddynt, yn muriau y tŷ, i ddianc iddynt rhag ei elynion. "Gwelais rai o honynt," meddai y cyfaill a ysgrifenai ataf, "ond yr oeddynt wedi eu cau i fyny fel nas gallwn wybod a oeddynt yn rhedeg ar hyd y muriau ai peidio." Ychydig sydd o'i hanes ef ar gael, ond gwyddom ei fod yn byw mewn "amseroedd blinion; "—amseroedd yr oedd y blinder, gan amlaf, yn cyfateb i ddaioni gŵr a'i ddefnyddioldeb. Rhoddwyd achwynion yn ei erbyn yntau gan ei blwyfolion; ond er ei alw o flaen yr archesgob, troes yr amgylchiad o'i du; dygwyd ef i fwy o adnabyddiaeth a defnyddioldeb, a chafodd y Cymry trwy y tro, y Beibl Santaidd yn gyflawn yn eu hiaith.

Ond fe fu Penmachno a Dolyddelen ddau cant o flynyddoedd yn amddifaid iawn o weinidogaeth effro a phur yr efengyl, ar ol dydd y Dr. Morgan; ni fynent iddo ef eu rhybuddio yn ffyddlawn yn enw yr Arglwydd, a chawsant ddymuniad eu calon yn hyn, oblegyd hwy a gawsant seibiant maith i gysgu yn ddiofal am agos i ddau can' mlynedd;—mewn gair, hyd nes y daeth rhai o'r diwygwyr Methodistaidd heibio i roddi bloedd arnynt i ddeffroi.

Dechreuodd pregethu gan y Methodistiaid yn yr ardaloedd hyn yn gynar; a chynelid y moddion yn Mhenmachno mewn tŷ a elwid Pen-y-rhês. Mae hanes fod John Harris o sir Benfro, gŵr y soniasom cryn lawer eisoes am dano, a gŵr a ddaw eto dan sylw yn hanes sir Benfro, wedi bod yn yr ardal hon er ys dros gan' mlynedd yn ol, Unwaith, tra yr oedd ef yn pregethu yn y tŷ, yr oedd tair o'r benywaid o flaen y drws yn prysur nyddu. Nid oedd un ile y pryd hwnw a dderbyniai bregethu, o'r Bala i Beddgelert. Ar ol yr amser boreu a nodwyd, arferai John Richards, o Fryniog, ddyfod yma i bregethu ar y Sabbothau, pan fyddai y bobl yn dyfod allan o'r llan. Camfa, ar glawdd y fonwent, oedd ei bulpud. Ond nid oedd eto ddim pregethu rheolaidd a chyson; ac y mae yn debyg nad oedd yma neb eto wedi eu tanio ag awyddfryd cryf i'w gael.

Crybwyllasom o'r blaen, wrth ddangos y modd y gwasanaethai rhagluniaeth i ledaenu Methodistiaeth, neu yn hytrach achos yr efengyl yn mysg y Cymry, mai trwy droion hynod rhagluniaeth y dygwyd hi i'r ardal hon. Ac fel hyn y dywedir y bu.

Yr oedd gŵr o'r enw Dafydd Roberts, yn byw yn Llwyn-saint, yn agos i Wytherin, sir Ddinbych, yr hwn a brofasai nerth yr efengyl, ac a arferai dderbyn pregethwyr i'w dŷ. Arweiniwyd ef gan amgylchiadau i le a elwid Pantglas, yn agos i'r Ysbyty. Derbyniai y pregethwyr i'w dŷ yn ei gartref newydd,