cyn ei symud, yr hwn sydd wedi gwreiddio yn ddwfn, a ffrwytho yn doreithiog. Y gyntaf y dywedir iddi gael ei hennill, ydoedd gwraig i un Robert Griffith; ac wedi hyny ei fab Hugh Griffith, a thrachefn Robert Griffith ei hun. Hugh eu mab a fu gyda Henry Richards yn yr ysgol, a glynodd cynghorion ac addysgiadau crefyddol ei feistr yn ddwfn a pharhaus yn meddwl y bachgen ieuanc. Nid oedd ar y pryd ond tua chwech oed, ac ni fu byw ond naw mlynedd ar ol hyn; ond yn yr ysbaid hwn o amser fe ymddangosodd arwyddion neillduol o dduwioldeb ynddo tra fu byw. Am dano y dywed John Evans, "Er mai bachgen ieuanc oedd, eto yn ei symlrwydd, ei ddeall, ei brofiad, a'i ofal am achos yr efengyl, yr oedd yn hynafgwr. Yr oedd yn llafurus iawn i gael pregethu'r efengyl i'r lle; teithiai yn aml lawer o filldiroedd, i Langeitho, neu i ryw le arall, i gymhell pregethwyr i ddyfod yno. Yr oedd ei holl ymddygiad yn syml ac yn sobr, a'i ymddyddanion yn ddifrifol ac am bethau ysbrydol. Byddai yn cadw cyfarfodydd i weddio, gyda'r ychydig a fyddai yno yn caru y cyfryw waith; yn ymddyddan â hwynt am achos eu heneidiau; ac yn eu cynghori yn ddwys ac yn ddifrifol, yn ol y doniau bychain oedd ganddo. Ei ffyddlondeb a'i ddifrifwch oedd fawr, ac yn siampl hynod i eraill i'w dylyn ****Achos yr Arglwydd oedd gofal penaf y bachgenyn hwn yn ei holl fywyd; felly yr oedd hefyd ar ei wely angau. Yr oedd yn ei ddyddiau diweddaf yn trefnu gyda'i fam, pa fodd oedd orau i ddwyn yr achos yn mlaen; a gadawodd yr hyn oedd ganddo o arian (yr oedd ganddo ychydig o bunnau), ag ewyllys arnynt, tuag at adeiladu capel yn y dref, yr hyn a wnaed ychydig o flynyddoedd wedi iddo farw. Bu farw y bachgen hynod hwn yn y fl. 1776, yn y 15fed flwyddyn o'i oedran."
Y cyfryw ydyw yr hanes a ddyry John Evans am ddechreuad yr achos Methodistaidd yn Abermaw. Dechreuodd trwy ysgolfeistr, ac un o'i ysgolheigion yn nghyda'i fam. Buasai hanes am fachgen mor ieuanc yn gwneuthur y pethau a draethir yma am dano, yn wir anghredadwy, oni bae mai John Evans a'u traethodd, yr hwn oedd yn ei adnabod yn dda yn ddiamheu, ac yn gwybod ei hunan am ei weithrediadau. Trwy enau ac ymddygiadau y bychan hwn, perffeithiodd Duw foliant iddo ei hun. Edrychir yn fwy yn y farn ar y caredigrwydd a ddangoswyd gan y gŵr ieuanc hwn i achos yr efengyl, nag ar holl ddarganfyddiadau philosophyddion, nag ar holl gynyrchion celfyddyd, neu ar holl orchestion rhyfel.
Fe fu farw ei dad flwyddyn o'i flaen ef, a chwaer fechan iddo, yr hon hefyd oedd dduwiol hynod, yn mhen pum' mlynedd ar ei ol ef. Yr oedd y weddw bellach heb ddim cynorthwy crefyddol oddiwrth neb o'i theulu gartref, ond yr oedd iddi dri o frodyr yn weinidogion duwiol yn yr eglwys sefydledig, y rhai a ddeuent ati, ac a arosent gyda hi dros dymhor ar ryw amserau. Tra yr arosent gyda hi, cadwent weddi deuluaidd fore a hwyr, a gwahoddid y cуmydogion i mewn ar y pryd. Yr oedd llai o ragfarn yn eu herbyn hwy nag yn erbyn dynion cyffredin a ddeuent atynti bregethu. Yr oedd yr ychydig grefyddwyr ag oedd ar y pryd yn byw yn y dref, yn cael mwynhau gweinidogaeth un Benjamin Evans, gweinidog yr Ymneillduwyr yn Llanuwchllyn, yr