hwn a fyddai yn arfer yn awr ac eilwaith bregethu mewn ardal gyfagos. Yr oedd brodyr crefyddol sir Gaernarfon, wrth fyned a dychwelyd o Langeitho, yn lletya dros nos yn y dref, ac yn arfer darllen a gweddio yn y tai y lletyent ynddynt; ac ni fu yr arfer dda hon ddim heb ei choroni a ffrwyth lawer.
Dywedir y bu gweinidogaeth John Harris, o sir Benfro, John Pierce, o sir Drefaldwyn, Robert Jones, Rhos-lan, a William Evans, Fedw-arian, yn fendithiol iawn yn y lle hwn yn nghychwyniad yr achos, yn enwedig y ddau olaf a enwyd; ac nid yn unig yn Abermaw, ond hefyd mewn lleoedd tywyll ac annuwiol eraill yn rhanau uchaf y sir. Fel hyn, yn raddol, yr ymgadarnhaodd yr achos crefyddol yn y dref a'r ardaloedd; nid trwy ryw amgylchiadau hynod, ond megys trwy "losgiad a chynud tân." Ni bu yma gyffelyb erlidigaeth ag a fu yn ardal Dolgellau; dangoswyd yma, mae yn wir, ddigon o wrthwynebiad, ond nid cymaint trwy derfysg a chythrwil; ond ennillodd yr efengyl le yn nghydwybodau a serchiadau llawer o'r preswylwyr, fel ag i'w dwyn i wrando ar ei llais, ac i ufuddhau i'w hawdurdod.
1777. Tua'r pryd hwn yr adeiladwyd yr ail gapel yn y wlad hon; sef capel Penrhyn-deudraeth. Adeiladwyd y capel hwn mewn adeg isel, ac mewn amseroedd blinion ar grefydd, sef tua'r flwyddyn 1777. Derbyniwyd ugain punt tuag at ei adeiladu o'r Deheudir. Yr oedd gwrthwynebiad mawr i'r adeilad hon gael ei chodi; holl foneddwyr y gymydogaeth yn gwgu ar yr amcan; a chytunai lluaws mawr o'r werin a hwynt, a da fuasai ganddynt allu attal y trueiniaid tlodion a berthynai i grefydd yn yr ardal, i fyned rhagddynt gyda'u gorchwyl. Ond hyn ni allasant ei wneuthur; eto llwyddodd y boneddigion i'w rhwystro i gael llechau i'w doi. Yr oedd cloddfeydd Ffestiniog yn agos, a llechau rhagorol yn ymyl, ond ni cheid hwy i doi yr addoldy bychan. Nid oedd o ran ei faint, gallesid meddwl, prin yn werth 1 neb sylwi arno. Mae'r adeilad eto i fyny, er na ddefnyddir ef er ys blynyddau bellach i addoli ynddo; abwthyn bychan isel a gwael yr olwg arno ydyw; ac oni bae ei fwriadu i Fethodistiaid addoli ynddo, nid edrychasid prin arno, ac ni chawsai boneddwyr y fro wybod dim am dano. Ond yr oedd y dygasedd a lanwai eu mynwesau yn rhoddi craffder y barcud yn eu llygaid, a chyfrwysder y llwynog yn eu hystrywiau. Fe fu y muriau, pa fodd bynag, am ryw gymaint wedi eu codi, yn sefyll yn noethion heb dô arnynt, gan yr anhawsder a brofid i gael llechau ato. Cawsant ganiatâd, wedi peth gohiriad, oddiwrth oruchwyliwr Syr Watkin, i godi cerrig i'w doi, os gallent eu cael o fewn ffiniau a berchenogid gan y boneddwr hwnw. Nid oedd dim bellach i'w wneyd, ond troi allan i chwilio y bryniau a'r cytiroedd a berthynai i Syr Watkin, am gynifer o lechau ag a roddai dô ar gaban o adeilad o ychydig o latheni o hyd a lled. Cafwyd, pa fodd bynag, ryw fath a lechau, nid cymhwys iawn i'r dyben; ond eto, y fath yr oedd yn dda eu cael y pryd hwnw. Mae y llechau yn y golwg eto, yn gryn fodfedd o drwch; a rhaid oedd eu bod yn drymion ac amrosgo iawn; ac yn enwedig, pan y cofiwn fod yn rhaid eu cludo o'r mynydd ar gefnau ceffylau, ar hyd ffyrdd na allai na chert na char-llusg redeg ar hyd-ddynt. Eto, er pob rhwystr a llafur, gosodwyd tô ar yr adeilad; a bu