Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

isel bob amser. Anfynych y byddai yn cael cig i'w brofi; ac am ddiodydd cryfion, yr oedd yn eu gwrthod. Gan mai mewn tai tlodion, gan mwyaf, y croesawid ef, ei brif gynaliaeth, fel y gellid dysgwyl, oedd llaeth; a'i wely, yn fynych, nid oedd amgen na thusw o wellt.

Yr oedd yn byw mewn amseroedd blinion ar y wlad, ac mewn adeg dywell ac ofergoelus ar grefydd; ond fe ddysgleiriodd fel un o "oleuadau y byd." Yr oedd ei hunan-ymwadiad, a hynawsedd ei ysbryd, yn nodedig, dangosai awyddfryd tanllyd i wasanaethu Duw yn efengyl ei Fab, er pob gwrthwynebiadau; ac anrhydeddwyd ef i fod yn offeryn i ddychwelyd lluaws at Dduw, ac i'w hadeiladu, yn ol hyny, mewn gwybodaeth o Grist, a gwir dduwioldeb.

Teilwng fyddai, er cyfynged ein terfynau, adrodd ychydig o helyntion ei oes. Fe gaiff y darllenydd, trwy hyny, fantais i ganfod ansawdd yr oes yr oedd ef yn byw ynddi, yr anhawsderau dirfawr y cyfarfyddai gweision yr Arglwydd â hwynt y pryd hyny; a chaiff olwg hefyd ar yr ysbryd rhagorol a'u meddiannai, a'r amddiffyniad rhyfeddol a'u gorchuddiai. Ar un tro wrth ddychwelyd adref ar noswaith dywell iawn, fe gollodd ei ffordd, ac a wybu ei fod mewn lle tra pheryglus. Yn ei drallod mawr, fe ddisgynodd oddiar ei geffyl, ac a waeddodd ar yr Arglwydd. Erbyn darfod ei weddi, yr oedd y wybr yn oleu uwchben; gwelai yntau ei ffordd yn eglur, a diangodd o'i berygl. Dro arall, wrth fyned i bregethu yn nyfnder gauaf, y nos a'i goddiweddodd, ystorm ddisymwth a gododd, a'r eira a luchiodd i'w wyneb, fel na allai yr anifail ag oedd dano fyned rhagddo. Yn y cyfwng hwn, gadawodd i'r ceffyl fyned y ffordd a fynai, hyd oni ddeallodd ei fod mewn perygl gan ffosydd a mawnogydd. Nid oedd ganddo, bellach, ond galw yn lew ar Dduw, yr hwn ni throisai ei weddiau draw mewn cyffelyb amgylchiadau. Disgynodd oddiar ei farch, a cherddodd mewn eira dwfn hyd ganol nos, nes oedd oerni a lludded wedi dwys effeithio arno, ac iddo anobeithio ymron yn llwyr am ei fywyd. Ond yn y cyfwng yma, trefnodd rhagluniaeth iddo gyrhaedd at feudy; ond ar ei gais i geisio myned i mewn iddo, cafodd fod y drws wedi ei fario o fewn. Bu am awr neu ychwaneg yn ymgribo yn lluddedig, ac ymron wedi fferu, o amgylch yr adeilad, heb allu cael un fynedfa i mewn. Ond o'r diwedd, wedi llawn ddiffygio, cafodd dwll yn nhalcen y beudy, a thrwy gryn orthrech, efe a ymwthiodd i mewn; ac yno y gorweddodd rhwng y gwartheg hyd doriad y dydd. Wedi ymlusgo allan, gwelai dŷ yn agos; ac aeth ato, a churodd wrth y drws. Erbyn i ŵr y tŷ gyfodi ac agoryd iddo, efe a'i cafodd â'i wallt a'i farf wedi rhewi, ei ddwylaw yn ddideimlad gan fferdod, ei ddillad wedi sythu, ac yntau o'r braidd yn medru siarad. Gwnaed iddo dân da, rhoddwyd llaeth twym iddo i yfed, a chafodd orwedd mewn gwely cynhes. Mewn ychydig oriau, yr oedd wedi cwbl ddadebru, ac aeth y boreu-gwaith hwnw i'r lle cyfarfod, a phregethodd fel arferol, heb deimlo nemawr niwaid.

Daeth is-sirydd Meirionydd unwaith i'w dŷ, yn amser Charles II, ac a'i daliodd â gwarant, am bregethu yr efengyl. Deisyfodd yntau, cyn myned gyda'r swyddog, ganiatad i weddio unwaith gyda'i deulu, cyn eu gadael,