y boreu, yr oedd yn wanach nag o'r blaen; ac nid oedd dim i'w wneyd ond dychwelyd adref, heb gwblhau ei neges. Cychwynodd tua thref, ond pan oedd tua hanner y ffordd, aeth mor anesmwyth arno, fel un a fuasai anffyddlawn i'r ymddiried a roddasid ynddo, fel na allai fyned yn mhellach. Dychwelodd i'r Bala drachefn, a thraethodd ei genadwri. Derbyniodd Mr. Charles hi gyda hynawsedd, a diolchodd i'r hen wr yn wresog a diffuant am ei ffyddlondeb.
"Wrth edrych yn ol," medd un brawd parchus, "hyd y flwyddyn 1750 neu 1753, a gweled mai 'wyth enaid' oedd nifer y rhai a broffesent enw Mab Duw yn mhlith y Methodistiaid, y rhai a elwid gan eu dirmygwyr yn 'deulu arch Noah,' a'r rhai hyny heb gymaint ag un capel i addoli ynddo; ac wrth gydmharu agwedd yr achos y pryd hwnw â'r hyn ydyw yn awr, y mae'n weddus dywedyd, 'O'r Arglwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni." Yn lle wyth o aelodau, yr oedd eu rhif yn y flwyddyn 1849-50 yn 1717, a'r capelau yn 23, o fewn y dosbarth hwn o'r wlad.
Defnyddiwyd hen gapel y Penrhyn hyd y flwyddyn 1815, a'r ail hyd y flwyddyn 1840. Yn awr, y mae y trydydd yn sefyll yn dy harddaf yn y gymydogaeth, ac yn mesur 48 wrth 45 o droedfeddi o hyd a lled. Chwanegwyd at yr aelodau tua 120 yn ystod yr ail flwyddyn ar ol ei adeiladu, a bernir fod nifer yr aelodau yn awr yn 200.
Nid oedd yr un pregethwr yn holl sir Feirionydd am dymhor maith, ond oedd yn byw yn y Bala, a'r ardal gerllaw. Ychydig cyn dechreu yr achos yn Nolgellau, y torodd John Evans allan i bregethu, a thua'r un amser cychwynodd Mr. T. Foulkes ar yr un gorchwyl. Yr oedd William Evans, ac Humphrey Edward hefyd, yn ymosod at yr un gwaith, yn agos i'r un cyfnod. Ond yr oedd John Evans, a chyfeillion eraill yn y Bala, cyn i John Evans ddechreu pregethu, yn arfer gwneyd eu goreu i blanu yr achos crefyddol mewn lleoedd tywyll ac amddifaid, trwy fyned ar y Sabbothau i gynal cyfarfodydd i weddio, a darllen y Beibl, lle bynag y ceid drws agored. Adroddai John Evans y byddai ef, a dau frawd arall, yn cychwyn o'r Bala, ar foreu y Sabboth, i gadw cyfarfod gweddio yn Mlaen-lliw am naw, a Phandy'r-ddwyryd am ddau o'r gloch, a dychwelyd yn ol i'r Bala yr un diwrnod, a hyny ar eu traed. Yr oedd hyn, tybygid, oddeutu 35 milldir. Dywedai yr hen ŵr y buasai yn dda ganddynt gael bara a chaws yn Nhrawsfynydd wrth ddychwelyd, "ond yr oedd yn rhaid i ni (meddai) gadw yn mhell oddi wrth y pentref hwnw."
Yr oedd Edward Roberts yn un o deulu'r "arch,"—yr oedd ef, fel y dywedwyd, yn un o'r wyth a gyd-ymgyfarfyddent yn Mhandy'r-ddwyryd. Yn mhen rhyw gymaint amser, dechreuodd yntau ar y gwaith o bregethu. Fe allai fod hyn tua'r flwyddyn 1770. Nid llawer a deithiodd Edward Roberts, ac ychydig sydd o'i hanes ar gael; ond dywedir ei fod yn Gristion cywir, yn fawr ei ofal am achos y Gwaredwr yn ei holl ranau, ac yn ymdrechu yn ol ei ddawn a'i amgylchiadau, i ddwyn ei gymydogion tywyll i deimlad o'u sefyllfa euog a cholledig, a'u harwain at Fab Duw am eu bywyd.
Adeiladwyd iddo dŷ ar dir Pandy'r-ddwyryd tua'r flwyddyn 1772. Yr