"Yr wyt ti yn gwirioni, Sionyn," ebe yr hen ŵr, "ac yn ynfydu yn sicr fod yn sôn am y fath beth."
"Na," ebe yntau, "mi hoffwn wybod mwy am danynt; ac os na ddeuant yma yn fuan, mi af i ryw le cyfleus i'w gwrando."
"Y bobl waethaf yn y byd ydynt," chwanegai yr hen wr;—"nid oes eu gwaeth yn troedio y ddaear."
"Beth bynag ydynt," ebe y llencyn, "y mae trallod arnaf am fy nghyflwr, ac yn nghylch y wlad y byddaf ynddi ar ol marw, ac nis gallaf fod yn esmwyth heb gael eu clywed yn pregethu."
Yr oedd offeiriad duwiol ac efengylaidd y pryd hwnw, megys un o fil, o'r enw Mr. Morgan, yn gweinidogaethu yn Llanberis, am yr hwn y soniasom eisoes. Clywodd John Williams sôn am y gŵr da hwn, ac âi yno i'w wrando. Fe fu gweinidogaeth Mr. Morgan yn foddion neillduol i oleuo ei feddwl am wirioneddau y Beibl, ac i ddwyshau ei argyhoeddiadau. Clywai hefyd fod ambell bregethwr yn dyfod yn achlysurol i wahanol barthau ei wlad, a theimlai awyddfryd i ymofyn amryw rai i ddyfod i bregethu yn Nolyddelen. Tua'r flwyddyn 1778, pan oedd John Williams tuag 21 mlwydd oed, aeth i Benmachno i wrando un John Jones, Hafod-Ifan, a chafodd addewid gan y pregethwr i ddyfod i Wybr-nant a Dolyddelen, i bregethu. Pregethodd mewn tŷ a elwir Ty'n-y-fron, lle y cartrefodd John Williams am 28 mlynedd wedi hyny. Daeth pobl o bob cŵr o'r plwyf i'w wrando, am mai peth newydd yn yr ardal oedd pregethu mewn tŷ annedd, ac yn wir mewn un lie arall y pryd hwnw, ond yn eglwys y plwyf. Llefarodd John Jones, y tro hwn, tybygid, yn effeithiol iawn, nes rhwymo y gynulleidfa i wrando megys am eu bywyd.
Ar ol hyn caed pregethwyr eraill i ddyfod yma, gan fod yma ddrws agored i'w derbyn. Yn mysg y rhai a ddeuai yn fwyaf cyson oedd y rhai a breswylient yn y Bala, megys William Evans, Humphrey Edwards, ac eraill; ac yn achlysurol ceid ambell bregethwr o'r Deheudir i alw heibio. Ryw dro, pan oedd un o'r dyeithriaid hyn yn pregethu, fe roes yr Arglwydd ryw lewyrch anarferol gyda'i air, nes y torodd y gynulleidfa allan i waeddi; -rhai mewn braw a dychryn, a rhai mewn gorfoledd. "Yn y bregeth hon," meddai John Williams, "meddyliwn i minau gael fy argyhoeddi o ddrwg pechod a thrueni fy nghyflwr; a chefais ddadguddiad o Fab Duw yn Waredwr digonol i'r penaf o bechaduriaid. Ac yn yr olwg ar y drefn, methaisinau ag ymattal heb dori allan i ganmol Duw, ei fendithio, a'i foliannu gyda'r lleill, am drefnu ffordd i gadw fy mywyd. Ond rhoes rhyw hen wreigan, ag oedd yn fy ymyl, ei llaw ar fy ngenau, gan ddywedyd, Taw bellach, yr hen hurtyn gwirion, rhag cywilydd i ti. "
Ffurfiwyd bellach gymdeithas eglwysig fechan yn y lle, yn cynwys deunaw o rifedi, a phob un yn ieuanc heb briodi. Ymwelid a hwy gan ambell bregethwr i'w harwain a'u cynorthwyo, a llwyddo a wnaeth y gwaith yn eu plith. Bob yn ychydig, daeth yn fath o gynhauaf crefyddol arnynt, a chaed "dyrnaid o ŷd" ar y mynyddoedd hyn. Torodd diwygiad grymus allan yn eu mysg, yr hwn