Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/547

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yw dyfalu fod rhyw effaith ddaionus, mewn rhyw ffordd neu gilydd, yn disgyn ar lawer, dan bob un o'r pregethau hyn. Pwy ŵyr pa sawl un a ddygir i ddechreu meddwl am ei sefyllfa? - pa sawl un a brofa gadarnhad i'w argyhoeddiadau blaenorol? - pa nifer a attelir i gyflawni pechodau tueddol iddynt, trwy y tynerwch a achosir yn yr oedfaon hyn?-pa faint o anwybodaeth a chwelir?—o amheuon a dorir?—o ofidiau a leddfir?—ac o eneidiau a achubir?—ïe, yn mhob un o'r darlithiau hyn. Mae yr ystyriaethau hyn yn ein tueddu ni i fod yn wyliadwrus pa fath ddynion a dderbyniom i'r pwlpudau, gan y byddai effeithiau niweidiol trwy weinidogaeth wyrog a didduw, yn cyfateb i effeithiau daionus gweinidogaeth bur. Na lwfrhaed chwaith neb y mae ar eu calon wneuthur daioni, gan na wyddant pa lesiant ei faint a gynyrchir trwy eu llafur.

Bu farw John Williams yn y flwyddyn 1839, yn 82 mlwydd oed:—yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau. Claddwyd ef yn anrhydeddus, gyda gwir alar am ei golli, o fysg ei frodyr a'i deulu; ac “mewn gwir ddiogel obaith am ei adgyfodiad i fuchedd dragywyddol." A hyfryd ydyw chwanegu fod iddo blant a pherthynasau, a fu dan ei addysgiant, yn aros eto ar y maes, ac yn ymroddgar a llwyddiannus yn eu cylch, yn ngwasanaeth yr un Meistr.

DYFFRYN-AR-DUDWY.

Ychydig o leoedd yn sir Feirionydd sydd yn fwy blodeuog o ran yr achos crefyddol, gyda'r Methodistiaid na'r ardal hon. Y mae yn ardal boblogaidd, yn gorwedd ar làn y môr ychydig o filldiroedd i'r gogledd o'r Abermaw, ar y ffordd i Harlech. Yn yr ardal hon y mae palas a elwir Cors-y-gedol, yn perthyn i Syr Robert Vaughan, ger Dolgellau.

Dechreuad achos y Methodistiaid yn y Dyffryn, oedd yn debyg i hyn. Yr oedd brawd a dwy chwaer, mab a merched i ŵr o'r enw Richard Humphrey, yn arfer myned i wrando pregethu i Pen-yr-allt, gerllaw Harlech, sef i dŷ y Griffith Ellis y soniasom fwy nag unwaith am dano, ac wedi ymuno hefyd â'r gymdeithas eglwysig a ffurfiasid yno. Fe fyddai ambell oedfa, y pryd hwn, yn cael ei chynal yn y Dyffryn, yr hwn sydd tua phum' milldir o Harlech; cedwid yr oedfaon allan yn yr awyr agored. Ymddengys mai nid yr un fan y cedwid yr oedfaon hyn, ond weithiau yma ac weithiau acw. Mae sôn, pa fodd bynag, am un yn cael ei chynal mewn lle a elwir Clut-y-gamfa-wen: gwnaed yr oedfa hon yn fwy hynod o herwydd yr aflonyddu a fu arni.

Yr oedd yn Nghors-y-gedol, ar y pryd, ŵr o'r enw Griffith Garnetts, math o ymddibynydd ar y teulu boneddig. Hwn, yn nghydag un o'r dynion a berthynai i'r helwriaeth, a ddaeth at y gynulleidfa. Nid oedd y teulu Vaughan yn gwneyd dim sylw personol ac uniongyrchol o ysgogiadau y Methodistiaid; ond yr oedd y Garnetts hwn, naill ai wedi cael ei yru yn ddirgel ganddynt, neu, ynte, yr hyn hefyd sydd fwyaf tebygol, yr oedd o hono ei hun yn prysuro i gyflawni y gorchwyl, a dybid ganddo yn gymeradwy ganddynt, a thrwy hyny ennill mwy o'u ffafr. Y gŵr ag oedd yn awr yn pregethu oedd William Evans o'r Fedw-arian. I aflonyddu ar yr oedfa, ac i ddyrysu y