Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/549

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

faint o ddylanwad yr efengyl a brofid gan ei galon ef ei hun. Bu farw yn sir Aberteifi, a hyny, meddir, dan yr enw o fod yn gybydd truenus. Yr oedd ei weinidogaeth, pa fodd bynag, yn effeithiol iawn; ymgynullai cannoedd i wrando arno, a mynych y byddai y llanau yn adsain gan lais gorfoledd a chân. Ond ni oddefid i'r llanau gael eu halogi(?) yn y modd yma yn hir. Gosododd teulu Cors-y-gedol eu hwynebau yn erbyn Mr. Llwyd, a bu raid i'r Wardeiniaid un Sabboth gyhoeddi yn yr eglwys, mewn ffordd o rybydd i'r gynulleidfa, y byddai raid i bawb aros yn ei blwyf ei hun, a pheidio a heidio yno yn lluoedd, gan eu bod yn dyfetha yr eglwys. Ond ni chafodd y cyhoeddiad hwn fawr o effaith ar y bobl.

Yr oedd y curad yn pregethu heb lyfr, yr hyn oedd yn beth newydd iawn yn y llanau y pryd hwnw. "Yr oedd y rector ei hun," medd fy hysbysydd,[1] yn offeiriad o'r hen ffasiwn, yn caru byw yn llonydd a diofal, yn darllen y bregeth fel y gwasanaeth; ac y mae yn ddigon tebyg, heb nemawr o law ganddo yn nghyfansoddiad y naill mwy na'r llall. Anfonodd un o'r wardeniaid, unwaith, at y rector ar ol darllen y llithoedd i ddywedyd, ei fod yn dysgwyl cael pregeth yn y gosber. Yntau a anfonodd yn ol i ddywedyd, fod hyny yn anmhosibl, am na ddygasai bregeth gydag ef. Ond ni fynai y warden ei droi heibio, a dywedai fod yn rhaid iddo gael un. Felly, fe drodd y person at y curad gan ddywedyd, "Tyr'd ti, Llwyd-tyr'd ti, Llwyd, y mae pregeth gen' ti pan mynir:"—ac felly bu raid i Llwyd bregethu.

"Yr oedd pregethau y curad mor anghymeradwy gan deulu Cors-y-gedol, fel y penderfynasant fynu ei droi ef ymaith. Galwyd vestry fawr o'r plwyfolion i'r dyben hwnw, a gosodwyd yr achos i lawr o'u blaen, heb amheu yn ddiau, nad oedd dylanwad y teulu boneddig yn ddigon i droi y glorian. Anturiodd un gŵr, pa fodd bynag, o'r enw Harri Roberts, Uwchlaw-y-coed, i ofyn, 'Pa ddrwg y mae Mr. Llwyd wedi ei wneyd?—am ba beth yr ydym yn ei droi ef i ffordd?" Atebodd un o'i wrthwynebwyr, 'Y mae ê yn curo clustog y pulpud, ac yn ei dyfetha hi a'r pulpud hefyd."

""Wel," ebe Harri Roberts, 'mi dalaf fi am glustog newydd yn ei lle pan dderfydd hi.' Ond ni wnai hyny mor tro, er fod y gŵr a addawodd wneuthur y glustog yn dda, yn ŵr cyfrifol a pharchus yn yr ardal; i ffordd yr oedd yn rhaid i'r curad fyned. A myned ymaith a wnaeth, ac ar ei ymadawiad ef, ymadawodd yr holl rai hyny yn y gynulleidfa ag oedd â dim difrifol ar eu meddyliau, ac ymunasant a'r Methodistiaid: ac yn eu mysg yr oedd Harri Roberts, yr hwn gyda'i frawd Richard Roberts, a Griffith Richards, a adeiladodd y capel, a gŵr arall o'r enw Siôn Evan, oedd yn cyfansoddi y dosbarth cyntaf o flaenoriaid neu ddiaconiaid yr eglwys yn y Dyffryn."

Yn y flwyddyn 1795, helaethwyd y capel dri chymaint ag oedd ar y dechreu; er hyny, mynych y byddai yn llawer rhy lawn i fod yn hapus ynddo, yn ol y syniadau a goleddir gan yr oes bresenol am amgylchiadau o'r fath. Ond nid oedd neb ar y pryd hwnw yn meddwl am y cyfleusderau a dybir yn

  1. Parch. Richard Humphreys.