Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hyn a ganiatawyd; ond erbyn terfynu ei weddi, nid oedd gan y swyddog wroldeb, mwyach, i wneuthur dim iddo, ond a aeth ymaith, gan ei adael yn ŵr rhydd. Cafodd ei garcharu unwaith gan arglwydd Powys, yn y Castell Coch; ond ennillodd yno driniaeth dirion ar law y gŵr hwnw. Ac er mai pabydd oedd y gŵr mawr, fe'i gwrandawodd yn gweddio, ac a ddug dystiolaeth am dano wrth ei offeiriad, "Diau, Cristion da yw y dyn;" ac wrth ei ryddhau, mynodd ganddo addaw dyfod i'r Castell Coch bob gwyliau Nadolig, i edrych am dano.

Bu farw y Cristion cywir, a'r gweinidog ffyddlawn hwn, yn y fl. 1699, yn 62 oed.

Ni a derfynwn y crynodeb byr hwn o hanes y gwŷr enwog hyny y bu eu llafur o gymaint gwasanaeth i Gymru, gyda chrybwylliad byr am y Parch. James Owen.

Brodor ydoedd o sir Gaerfyrddin, a chydoeswr a chydlafurwr â'r gwroniaid gwiw y coffawyd eu henwau eisoes, sef Stephen Hughes, Thomas Gouge, Henry Maurice, a Hugh Owen. Trwy i James Owen ddod yn gydnabyddus â Henry Maurice, y cafodd fantais i ddeall yr agwedd isel yr oedd crefydd ynddi yn Ngogledd Cymru; a thrwy ei daerni ef y cymhellwyd Mr. Owen i ymadael â Stephen Hughes, i'r hwn yr oedd yn gynorthwywr fel cyd-weinidog i eglwys ymneillduol yn Abertawe. Er maint oedd ymlyniad Mr. S. Hughes wrth y gweinidog ieuanc gobeithiol, eto cydsyniodd i'w ollwng ymaith oddiar wir dosturi at Ogledd Cymru.

Yr oedd eisoes eglwys fechan o ymneillduwyr yn Mhwllheli, sir Gaernarfon, ac i blith yr "ychydig enwau" hyn, y rhai oeddynt yn cael eu profi gan erlidigaethau trymion, y daeth Mr. J. Owen. Ar ei ddyfodiad, cynyddodd yr erlidigaeth yn arswydus, fel na feiddiai ymddangos ar gyhoedd, nac yn wir ddyfod allan o'i dŷ, am naw mis. Gosodwyd ysbiwyr arno, modd y gellid cael cyfle i'w ddal, neu i'w ladd. Un gŵr mawr yn yr ardal a rwymodd ei hun â diofryd i'w ddyfetha ef, a phob ymneillduwr arall, neu ynte eu hymlid o'r wlad, neu farw wrth geisio. Yn fuan ar ol hyn, cafodd y gŵr mawr ddeall ei fod wedi herio Duw i'r maes yn ei erbyn ei hun trwy ei ryfyg, oblegid tarawyd ef â chlefyd anaele, a bu farw yn druenus, heb allu cyflawni ei ddrwg-amcanion.

Wedi profi fod y drws mor gauedig yn sir Gaernarfon, a lluddio iddo gan erlidigaeth a pherygl bywyd fod o nemawr wasanaeth i'w frodyr yno, fe giliodd Mr. Owen i sir Feirionydd, a chafodd nawdd ac ymgeledd dan gronglwyd yr hybarch Hugh Owen, Bron-y-clydwr. Oddiyma symudodd eilwaith yn y fl. 1676 i Swiney, yn sir Amwythig, lle yr urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth. Yr oedd ar y pryd tua 22 mlwydd oed, ac yn llawn o awyddfryd i dreulio ac i ymdreulio yn ngwasanaeth ei Arglwydd; a hyn hefyd a wnaeth, nid yn unig yn ei gartref, ond yn ngwahanol siroedd Gogledd Cymru; yn enwedig, siroedd Trefaldwyn, Dinbych, a Fflint.

Ni a gawn olwg effeithiol ar orthrwm yr amseroedd hyny, sef y tymhor rhwng "Deddf yr Unffurfiaeth" yn y fl. 1662, a'r "Chwyldroad" yn 1689,