Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/553

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heb fod yn mhell o'r un gymydogaeth, ond mewn plwyf gwahanol. Yr oedd brawd yn nghyfraith i Robert Edwards, Megen, yn byw mewn lle a elwid Tŷ'n-y-fedw, yn mhlwyf Llansilin, yr hwn a agorodd ei ddrws i gynal yr oedfa gyntaf.

Daeth lluaws mawr o bobl yn nghyd, wedi deall fod gŵr yn dyfod yno i bregethu, a bu yr oedfa hon yn fendithiol i amryw. Daethent i'r lle yn eithaf anystyriol; ond with glywed gwirioneddau difrifol y Beibl, a chanfod dagrau y pregethwr, disgynodd arnynt bryder ac ymofyniad yr oeddynt yn ddyeithriaid iddo o'r blaen. Pan welodd y llew fod perygl iddo golli ei ysglyfaeth, dechreuodd ruo yn arswydus iawn; a phan y caed cyhoeddiad gŵr arall i bregethu yno drachefn, anhawdd oedd cael tŷ a'i derbyniai. Yr oedd yr erlidwyr erbyn hyn wedi ymgynhyrfu i eithafion creulondeb. Dangosai un gŵr urddasol fod ugain punt o ddirwy, a, bwy bynag a'u derbyniai i'w dŷ, a phum' swllt o ddirwy, ar bob una elai i'w gwrando; a darllenai y Weithred seneddol[1] yn nghylch y cyfryw gynulliadau. Bellach, yr oedd yr holl fro mewn berw a chyffro; teuluoedd wedi ymranu, rhai o honynt o blaid, a'r lleill yn erbyn;—y gwŷr yn bygwth eu gwragedd;—a rhieni yn curo eu plant. Ond nid oedd rhai yn gwneuthur cyfrif o ddim, ond yn penderfynu myned rhagddynt, deued y canlyniadau a ddeuai i'w cyfarfod.

Yr oedd gwraig i wr o'r enw Richard Hughes, wedi bod yn glaf, a chlybu fod y bobl grefyddol yn arfer gweddio drosti yn ei chystudd; a pharodd hyn y fath dynerwch tuag atynt, fel y penderfynodd, pan y rhoddid cyfleusdra iddi, yr ai hi i wrando pregethu. Cyhoeddwyd oedfa eilwaith yn Megen, i'r hon y bwriadai Catherine Hughes fyned i wrando. Deallodd ei gŵr hyn, a bygythiodd os hi a âi, yr âi yntau yn y fan, ac y rhoddai ei dyddyn i fyny i'w feistr tir. Enw y tyddyn oedd Sarffle. Myned yno, pa fodd bynag a wnaeth y wraig; a chymerodd Richard ei geffyl, a chychwynodd i'w daith yntau. Yr oedd ei ffordd yn gorwedd gerllaw y tŷ yr oedd yr oedfa ynddo, a thybiodd ynddo ei hun, yr ymwrandawai dros enyd bach, wrth fyned heibio, pa beth a draethid gan y siaradwr. Disgynodd oddiar ei farch, a gorweddodd ar y tô (yr oedd y tô yn cyfarfod yn y cefn a llechwedd y bryn), gan glustfeinio pa beth a ddywedid. Clywodd ddigon, pa fodd bynag, i arafu ei wylltineb, ac i'w droi ef yn ei ol.

Bellach, fel yr oedd pregethwyr Dê a Gogledd yn lluosogi, fe ddygwyddai oedfaon yn amlach. Yn mysg eraill a ddeuai yno i bregethu, yr oedd Lewis Evan, Llanllugan. Bu Lewis, druan, yn nôd neillduol i saethau gwenwynig yr erlidwyr, y rhai a ledaenent bob math o chwedlau celwyddog am dano. Rhoddasant y gair ar led unwaith, ei fod wedi cael ei grogi am ladrata ceffylau! Taenwyd hyn yn ddiwyd a haerllug ar hyd yr holl fro, gan sicrhau nad oedd y gweddill o'r pregethwyr ddim gwell na Lewis Evan, y lleidr ceffylau. Rywbryd, pan oedd y chwedl hon yn ei rhwysg uwchaf, a dyhiriaid y wlad yn gorfoleddu ynddi, ac nid oedd y crefyddwyr eu hunain yn meddu

  1. Conventicle Act.