Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/555

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu dillad, a roisant hèr i'r goreu yn eu plith i ymladd a hwy. Trwy y cyfryw gythrwfl a therfysg, attaliwyd y bregeth yn llwyr y pryd hwnw, er mawr siomedigaeth i'r bobl hyny a sychedent am foddion gras, y rhai oeddynt, er ys amser maith, wedi dysgwyl am ddyfodiad y dyeithriaid atynt.

Tro arall, yr oedd John Evans o'r Bala wedi cael ei gyhoeddi yno i bregethu, ond ymddangosai gelyniaeth y bobl mor ffyrnig, a'u cynlluniau mor waedlyd, fel yr ofnodd rhai o'r cyfeillion yn y lle, mai nid diberygl a fyddai ei fywyd, os deuai drosodd. Am hyny, aeth un o honynt o'r enw Lewis Edwards, Tŷ'n-twll, i gyfarfod John Evans i ben mynydd Berwyn (yr hwn yr oedd yn rhaid ei groesi), i ddeisyf arno, rhag ofn ei niweidio, droi yn ol; ac felly y gwnaeth; ond tystiai yn aml, ar ol hyny, mai edifar iawn a fu ganddo wneuthur hyn.

Yr oedd yr olwg ar amgylchiadau pethau, bellach, yn dywyll a chymylog iawn; yr erlidwyr wedi cael yr oruchafiaeth; drysau i dderbyn pregethu megys wedi eu cau, a pherygl dirfawr i neb o'r pregethwyr anturio i'r fro. Yn y cyfamser, arweiniodd rhagluniaeth rai o deulu Richard Hughes yn ol i'r ardal i anneddu, a hyny i rai o'r tyddynod goreu yn y cwmwd, sef dwy o'i ferched, a dau o'i feibion. Bu y teulu hwn yn gysgod i'r achos crefyddol yn y lle yn ei wendid; ac o radd i radd, collodd rhagfarn ei rym, a diflanodd pob gwrthwynebiad oddiwrth y werin o hyny allan. Yn mhen ychydig o flynyddoedd, dychwelodd Richard Hughes a'i wraig yn ol i'w hen gymydogaeth, a chawsant y fraint o sefyll gyda'r achos hyd ddiwedd eu hoes, ac o gael mwynhau moddion gras hyd nes y lluddiwyd iddynt gan fusgrellni a henaint.

TREGEIRIOG.

Pentref bychan ydyw Tregeiriog, tua dwy filldir islaw Llanarmon, yn sefyll ar lechwedd y cwm y llifa afon Ceiriog trwyddo, ar enw yr hwn y gelwir y pentref. Yn ol dim a ellir gasglu, mai Evan Lewis oedd y gŵr a bregethodd y bregeth gyntaf yn yr ardal hon, a hyny yn yr awyr agored; ac yn agosi'r fan y mae y capel yn sefyll arno yn awr. Yr oedd hyn ryw ysbaid cyn ei garchariad yn Nolgellau[1], gan y medrai dynion rhagfarnllyd y fro gyfeirio ei enw fel un adnabyddus, a haeru fod Lewis y gwehydd wedi ei grogi am ladrata ceffylau. Y mae yn anhawdd cael allan gyda sicrwydd pa bryd y cafwyd pregethu cyson i'r gymydogaeth, ond fe ymddengys mai yn nhŷ amaethwr, o'r enw Thomas Jones, y cafodd dderbyniad. Y proffeswr cyntaf yn y gymydogaeth, meddir, oedd un o'r enw John Edwards; amaethwr oedd hwn hefyd, ac wedi ei argyhoeddi drwy weinidogaeth Dafydd Morris, pan yr oedd yn pregethu yn Llanarmon, ar ei daith yn Ngwynedd. Dyoddefodd John Edwards lawer o wawd a dirmyg, o herwydd ei grefydd, a hyny yn arbenig oddiwrth ei wraig gyntaf a'i theulu. Pan yr elai i wrando pregeth, anfonai y wraig genhadon ar ei oll i'w geisio adref, gan ddweyd ei bod yn glaf iawn, ac ymron marw. Yn raddol, daeth y gŵr da i ddeall yr ystrywiau

  1. Gwel tu dal. 125.