Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/567

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sydd yn awr ar y maes, ac yn cynal yr achos a gawsant yn etifeddiaeth gan eu tadau gyda deffroad a ffyddlondeb.

YMEANGIAD PELLACH METHODISTIAETH YN EDERNION, TUA'R FL. 1772.

Tua'r fl. 1772, adeiladwyd tŷ un-nos, ar fynydd a elwir Mynyllod, gan ŵr crefyddol o'r enw Griffith Edward. I'r bwthyn hwn y deuai rhai o'r pregethwyr a gyfaneddent yn y Bala, i bregethu yn awr ac eilwaith, pryd y gwahoddai Griffith Edward ei gymydogion i dd'od i'w cyfarfod i wrando yr efengyl. Gallesid meddwl y cawsent lonydd i hyn. Yr oedd gwedd yr amgylchiad mor wael, sefyllfa y bwthyn mor neillduedig, a'r gynulleidfa fechan a ddeuai yno mor ddigyfrif, fel y gallesid meddwl na thynasai sylw neb, ac y gallasai y fath gyfarfodydd gael eu cynal yn y fath le am oes, heb ddwyn i fod un gwrthwynebwr iddynt, na pheri un amddiffynwr trostynt chwaith. Prin y gallesid meddwl y buasai eiddigedd y chwil-lys yn cael ei gyffroi, gan y fath gyfarfodydd bychain,—cyfarfodydd, gan eu bychander a neillduaeth eu sefyllfa, a allasent ysgoi sylw Jesuitiaid Rhufain eu hunain! Ond nid felly y bu. Gwnaed sylw ar y bwthyn un-nos, ac ar y gynulleidfa fechan a ymgasglai yn achlysurol yno. Yr oedd Dafydd gynt yn synu fod brenin Israel wedi ymddarostwng i erlid ar ei ol ef, fel pe yr aethai allan ar ol ci marw, neu ar ol chwanen; a pharod ydym ninau i ofyn, ai posibl fod neb i'w cael, yn enwedig yn mysg dynion call Cymru, a fuasai yn ymderfysgu o achos peth mor ddisylw? Eto felly y bu. Daeth brenin Israel allan ar ol ci marw! Terfysgodd rhai o wŷr mawr yr ardal yn achos y cyfarfodydd a gynelid mewn caban un-nos ar fynydd Mynyllod! Tybiasant, yn ddiau, mai eu dyledswydd dihebgor oedd llethu yr achos hwn; ac oddiar angherdd eu calonau i wneuthur gwasanaeth i Dduw, ymgynghreiriodd tri o wŷr cyfrifol yr ardaloedd i ymosod ar y caban un-nos. Gellir casglu yn naturiol oddiwrth fod gwŷr cyfrifol y fro yn cyffroi, fod rhyw gynlluniau ofnadwy yn cael eu gosod yn nghyd, a rhyw amcanion diaflaidd yn cael eu deor:—rhaid oedd fod Griffith Edward yn gwahodd ei gymydogion i ffurfio brâd yn erbyn y brenin, neu eu bod yn ymgynull at eu gilydd i addysgu y naill y llall, yn y gelfyddyd ddû o ysbeilio y gwŷr mawr o'u trysorau; a rhaid eu bod yn tybied fod Humphrey Edward o'r Bala, William Evans, neu John Evans, yn ddynion hyddysg iawn yn y gwaith hwnw, pryd yr oedd ya angenrheidiol cymeryd y fath ofal i lethu cyfarfodydd mynydd Mynyllod! Pa beth bynag am hyn, gosodasant eu bryd ar dynu y caban tywyrch i lawr; ac wele fyddin o weision cyflogedig, a thri o foneddigion y wiad yn eu harwain, yn ymwregysu i'r ymdrech, gan benderfynu y dangosent i'r holl wlad, eu bod hwy yn gryfach na Griffith Edward! a bod digon o fedrusrwydd yn en dwylaw, ac o rym yn eu hesgeiriau, i dynu y castell pridd i lawr! Dysgwylient, wrth gwrs, yr udgenid eu clod i genedlaethau dyfodol, am weithred mor ganmoladwy, ac am orchestwaith mor gampus! A thynu y caban un-nos i lawr a wnaethant, ac ymdarawed Griffith Edward goreu y gallai; nid eu gofal hwy oedd darparu gogyfer ag angenrheidiau neb o'u