cyd-greaduriaid, ond eu holl ddyled hwy oedd llethu yr heresi newydd. A pha heresi oedd hi? Yr unig ateb i'r gofyniad, mewn gwirionedd, ydyw, mai y ffordd a "alwent hwy yn heresi" oedd, fod dynion yn ymgynull i leoedd anghysegredig, ac yn gwrando ar ddynion diurddau yn darllen y Beibl, yn gweddio Duw, yn canu ei fawl, ac yn cynghori eu gilydd i ffoi rhag y llid a fydd. Dyma yr heresi yr oedd yn mhob man gymaint o ddywedyd yn ei herbyn." A thybid fod yr heresi hon mor wenwynig yn ei natur ac mor ddinystriol yn ei heffeithiau, nad oedd dim moddion cyrhaeddadwy i'w hesgeuluso er mwyn ei llethu. Yn erbyn yr heresi hon, yr ymgynghreiriai holl glerigwyr a boneddwyr y wlad; a galwent ar y werin, anwybodus a nwydwyllt, i osod eu bygythion mewn gweithrediad.
Ond er mai mewn caban un-nos yr oedd y bobl hyn yn ymgynull, ac er lleied oedd eu rhif, a diamddiffyn oedd eu hamgylchiad, cafodd y boneddigion ddeall, yn mhen enyd, mai nid chwalu y bwthyn pridd a roddai derfyn ar yr heresi newydd; —fod yn perthyn iddi elfenau na ellid eu dinystrio, a bod iddi noddwr na ellid ei orchfygu. Wedi i'r ychydig bobl a garent yr efengyl golli tŷ eu cyfarfod, rhaid oedd iddynt, un ai ymfoddloni i fyw yn dawel heb y moddion a fwynhasent dros ychydig, neu ymofyn am le arall. Ond nid hawdd oedd cael y fath le, gan faint y rhagfarn yn erbyn y penaucryniaid. Pa fodd bynag, agorodd rhagluniaeth y drws iddynt gael ymarfer ag ordinhadau yr efengyl drachefn, trwy i rywun gael ar ei feddwl i adeiladu tŷ arall, nid yn mhell oddiwrth y lle y safasai y tŷ un-nos arno; a gwnaed y tŷ olaf hwn o gerig, ac ynddo y bu y pregethu am ryw dymhor.
Oddeutu y pryd hwn yr ennillwyd meddwl gŵr parchus o amaethwr yn y gymydogaeth, o'r enw Richard White, yr hwn oedd yn byw ar y pryd yn Modhaulog, yn agos i Gynwyd. Cafodd y gŵr hwn ar ei galon roddi pob cynorthwy a swcr i'r achos gwanaidd yn ei gychwyniad. Derbyniai y pregethwyr i'w dŷ, ac yn ei dŷ ef y cynelid y cyfarfod eglwysig. Dechreuodd Methodistiaeth, bellech, er saled yr olwg a fuasai arno, wreiddio ac ymgadarnhau ychydig; ac i'r graddau y byddai yn ymgadarnhau mewn man, i'r graddau hyny yr ymeangai hefyd. Felly y bu yn y lle hwn. Wedi iddo gymeryd ychydig o wraidd yn Nghynwyd, dechreuwyd pregethu yn Llawr-y-Bettws, ac yn Tŷ-isa'r-Mardy. Ond nid oedd y cynydd hwn yn cymeryd lle, heb gael profiad yn awr ac eilwaith, fod yr hen elyniaeth at achos y Cyfryngwr eto yn fyw. Ni fu, mae'n wir, rhyw lawer o erlid cyhoeddus yn Nghynwyd; o leiaf, ni fu cymaint ag mewn llawer man arall; eto dangosai yr anghenfil ei ddannedd mewn rhyw ddull neu gilydd. Un ffordd y gwneid hyny oedd trwy geisio gwarthruddo pregethwyr, a phregethu; a chymerai ambell un arno ddynwared pregethu mewn ffordd o ddifyrwch i un blaid, ac mewn ffordd o warthrudd ar y blaid arall.
Yr oedd gŵr o'r enw Edward Edwards yn byw yn un o'r cymydogaethau hyn, lle yr oedd pregethu newydd ddechreu gan y Methodistiaid. Gof ydoedd wrth ei alwedigaeth, a thybid ei fod yn berchen mwy o wybodaeth na'r cyffredin o'i sefyllfa ef; yr oedd y gair hefyd ar led, fod a wnelai a'r