Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/576

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y gellid casglu nifer o ddyhiriaid yn nghyd i'r lle, ac y gellid, hefyd, attal y bobl i glywed llais y pregethwr. Daeth Mr. Charles i'r lle erbyn yr amser; ac ar ddechreu yr oedfa, wele yr hen of a'i dabwrdd, yn nghyda nifer o oferwyr eraill cymhwys at y gorchwyl yn y fan. Dechreuodd y derfysg gyda dechreuad yr oedfa, a mawr oedd y twrf, ac alaethus oedd y llwon, a rhegfeydd; a'r cwbl i attal gŵr boneddigaidd a diachwyn arno, i ddysgu pechaduriaid yn y ffordd i'r bywyd. Bygythiai y terfysgwyr, gyda chableddau lawer, y tynenty tŷ i lawr; a thybiodd Mr. Charles mai gwell oedd iddo ef fyned allan, a phrysuro ymaith, gan nad oedd obaith y ceid seibiant i gynal moddion. Allan yr aeth, a rhyw nifer o gyfeillion gydag ef. Hwythau a ddechreuasant eu lluchio yn erwin, fel pe buasent euog o ryw anferthwch o ddiffeithder, yn enwedig Mr. Charles, yr hwn a gafodd ergyd gan gareg yn ei wyneb, nes tori un o'i ddannedd; cymerasant ymaith hefyd ei fantell, a bu gorfod arno felly ffoi am ei hoedl, a'i waed yn llifo. Wedi ffoi gyda phob brys, a myned dros y bont, trodd o'r ffordd i'r maesydd, a diangodd rhagddynt.

Gofynwyd i'r gŵr ag oedd yn adrodd yr hanes, yr hwn hefyd oedd yn yr oedfa ar y pryd, ac yn grefyddwr, pa fodd y bu arno yn y derfysg flin? Ai ni chawsai yntau ei faeddu hefyd? "Naddo," meddai yntau, "ni wnaed dim i mi." Gofynwyd yn mhellach, pa fodd felly? "Yn wir," ebe y gŵr, "mi wnaethum yn union fel Pedr;—mi ddywedais nad oeddwn yn un o honynt." Gobeithiwn y bu edifeirwch y gŵr hwn hefyd, yn gyffelyb i'r eiddo Pedr; ac iddo wylo yn chwerw dost o herwydd gwadu ei Arglwydd.

Dywedir am y gŵr a darawodd Mr. Charles à chareg, mai dyn cryf ydoedd, yn arfer dyrnu ŷd gan amlaf, ac a fuasai yn gweithio mewn tyddyn dros amryw flynyddoedd. Ond yn ddisymwth, ac yn nghanol ei ddyddiau a'i iechyd, gadawodd ei ffyst a'r ysgubor, gan fyned, heb neb yn ei gymhell, aco ganol digon o waith, i grwydro y wlad ac i gardota ei fara; a chardota y bu am weddill ei oes, er dirfawr syndod i'r holl gymydogaeth. Nid hir y bu yr hen of ychwaith heb gyrhaedd digon o hyfder mewn drygioni, i chwanegu lladrad at erlidigaeth. Yntau a ddaliwyd, ac a brofwyd yn euog. Rhoddwyd ef yn y carchar am y trosedd, dros rhyw gymaint o amser, yn ei hen ddyddiau. Duodd hyn ei gymeriad yn fwy nag o'r blaen, a dyrysodd ei amgylchiadau; ni weithiodd nemawr byth ar ol ei ollwng o'r carchar, a bu yntau fyw ar elusen o hyny allan.

Ryw bryd ar ol y tro uchod gyda Mr. Charles, daeth Mr. Jones o Edeyrn i'r dref i bregethu, ac ar yr heol yr amcanai wneyd hyny. Dechreuodd y terfysgwyr ymgasglu y tro hwn hefyd, â cherig ganddynt i'w luchio. Deallodd Mr. Jones eu bwriad, a gwaeddai yn wrol ac uchel arnynt, mewn sylwedd fel hyn:—"Os gellwch chwi sefyll o flaen y Barnwr yn y dydd y bydd y meirw sydd yn y fynwent y tu cefn i chwi yn cyfodi, y mae i chwi groesaw i fy lluchio i." Ond nid oedd mwyach nerth ynddynt i daflu y cerig, ond eu gollwng i lawr a wnaethant o un i un, a chafodd y pregethwr seibiant i orphen yr oedfa.