edrych ar y tymhor hwn yn gyfnod nodedig yn hanes Methodistiaeth Cymru; ac, yn ddiau, nid llai i Fethodistiaeth sir Feirionydd.
JOHN ELLIS, ABERMAW. Ganwyd y gŵr hwn yn mhlwyf Ysbytty, sir Ddinbych, a dygwyd ef i fyny nid yn mhell oddiwrth ei fro enedigol, sef yn Nghapel-Garmon. Nid oedd ei rieni ond tlawd yn y byd, a gwaeth na hyny, yr oeddynt yn anwybodus o bethau byd tragwyddol, ac yn anystyrioi, fel rhieni filoedd yn y wlad, yn nghylch addysg ysbrydol, ac esampl gywir, i'w plant: felly, cafodd eu mab John bob anfantais yn ei ddygiad i fyny, mewn addysg ac esampl. Cafodd ychydig ysgol, meddir, pan oedd yn ddeuddeg oed. Anfonwyd ef at ewythr iddo, i ddysgu y grefft o gylchwr (cooper). Trwy farwolaeth ei ewythr, arweiniwyd ef i dref Llanrwst i orphen dysgu ei grefft, lle yr oedd pregethu eisoes gan y Methodistiaid. Aeth yntau, ar ryw gyfrifon neu gilydd, i wrando ar un Robert Evans yn pregethu, a phrofodd gymaint o effaith y gair, dan y bregeth hòno, ag a'i tueddodd, yn ol llaw, i wrando yr efengyl. Eto, yr oedd yn aros dan lywodraeth natur lygredig; ac wedi symud i Ffestiniog i weithio, dangosodd mai gwas i bechod, a chaethwas i lygredigaeth, ydoedd, trwy roddi rhaff i'w nwydau llygredig; a rhedodd yn ddiwarafun a chyflym ar hyd ffordd troseddwyr. Trwy fyned eilwaith i wrando, ymwelodd yr Arglwydd â'i gydwybod drachefn, nes arafu ei gamrau gwylltion, a'i sobri i radd helaeth. Dangosodd ei dad lawer o chwerwder annaturiol tuag ato, o herwydd y gwellhad hwn yn ei rodiad, a'r cyfnewidiad hwn yn ei feddwl, yr hyn a barodd iddo adael Ffestiniog, a myned ymaith heb wybod i ba le.
Ond er na wyddai y llencyn i ba le yr âi, na pha beth a ddygwyddai iddo, yr oedd gofal rhagluniaeth am dano, a gras pen-arglwyddiaethol yn llygadu arno. Arweiniwyd ef i Lanbrynmair, lle y cyfarfu, drachefn, â moddion gras, ac y dyfnhawyd yr argraffiadau blaenorol ar ei feddwl; cymaint felly, nes yr ymunodd ef yno ag eglwys Dduw, yn mhen tua mis ar ol cyrhaedd yno. Canmolir ymddygiad hen frodyr Llanbrynmair tuag ato. Bu gweinidogaeth Richard Tibbot yn fendithiol iawn iddo, a chafodd hynawsedd ac amgeledd neillduol gan hen grefyddwyr Llanbrynmair. Bendith fawr i achos yr efengyl ydyw fod "calonau y tadau yn cael eu troi at y plant, a chalon y plant at y tadau;" a melldith chwerw ydyw y gwrthwyneb. Yn Llanbrynmair y priododd yn yr Arglwydd, a buont ill dau yn gysur i'w gilydd, ac yn gynorthwy y naill i'r llall yn llwybr bywyd, hyd nes eu gwahanu gan angau. Wedi bod yn Llanbrynmair am fwy na saith mlynedd, efe a symudodd eilwaith i Lanrwst, a thrachefn i Ffestiniog. Ymddengys iddo, yn y cyfamser, gyfarfod â llawer o brofedigaethau yn y byd, ond ei fod yn dwyseiddio yn ei grefydd ar yr un pryd. Cafodd ei annog i gynyg ei hun i gadw ysgol Gymraeg, dan olygiaeth Mr. Charles, a thrwy gyflwyniad gwresog o hono gan y rhai a'i hadwaenai yn Ffestiniog a Thrawsfynydd, efe a appwyntiwyd i'r gwaith hwnw. Ac ni fu hyn yn ochenaid i Mr. Charles, ond cafodd achos gorfoledd o'i blegid. Troes allan yn athraw tirion, serchog, ac ennillgar, gadawodd arogledd hyfryd ar ei ol yn yr ardaloedd y bu yn addysgu, a