Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/590

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwestty a elwid y Plas-isa', i adrodd wrth ŵr y tŷ y digrifwch a gawsent, ac i gyd-wawdio y penau-cryniaid penchwiban. Yr oedd Mr. Evans, sef gŵr y tŷ, pa fodd bynag, yn llawer mwy ei gydnabyddiaeth â'r Beibl, na'r coegwyr hyny, ac yn llawer llai ei ragfarn at y Methodistiaid.

"A glywsoch chwi erioed, Mr. Evans, beth gwirionach nag i bregethwr sôn am wartheg yn brefu, ar ei bregeth, uwch ben cynulleidfa o bobl?" Gwrandawodd Mr. Evans ar y chwedl, gan gymeryd arno synu fod y fath beth yn cael ei adrodd ar bregeth; ond yn mhen ychydig, gofynai megys yn fyrbwyll:

"Ai nid oes hanes o'r fath, tybed, yn y Beibl?"

"Hanes am wartheg yn brefu yn y Beibl?"—meddai y cyfreithiwr dysgedig,—" nac oes, goeliwn ni, na dim o'r fath beth." Yna chwerthin mawr drachefn, am ben Mr. Evans, o herwydd ei blentynrwydd yntau; gan argoeli pe cawsai gymaint o ddysg ag a gawsent hwy, na chawsai dychymyg mor ffol le am fynyd yn ei ben.

"Gadewch i ni gael Beibl ynte," ebe Mr. Evans, "er mwyn bod ar dir cadarn, ac edrychwn ynddo, a oes y fath hanes o'i fewn." — Beibl a gafwyd. Trodd Mr. Evans, yr hwn oedd fwy cydnabyddus â'r llyfr na'r boneddigion eraill, at yr hanes, ac a'i darllenodd iddynt. Mawr, bellach, oedd syndod y ddau hurtyn dwl; a chafodd Mr. Evans achles i droi arnynt, gan edliw iddynt eu rhagfarn yn erbyn dynion llawer gwell na hwy eu hunain, a'u hanwybodaeth trwch o'r ysgrythyr lân.

Ond er i'r boneddwyr uchod dybied iddynt gael achles digonol i wawdio Methodistiaid ffol, yr oedd Duw y nefoedd yn gwenu ar y gymanfa mewn modd rhyfeddol, a dywedai hen wraig a ddaethai o Drawsfynydd i'r cyfarfod, eu bod yn teimlo wrth adael y lle fel pe buasai yn troi ei chefn ar y nefoedd ei hun, gan faint y mwynhad a gawsai yno.

Yn nghanol yr holl warthrudd a fwrid ar y pregethwyr a'r proffeswyr boreuol hyn, ac er maint y blinder a godid yn eu herbyn, yr oeddynt yn raddol yn ennill tir yn nghydwybodau eu gwrthwynebwyr. Dangosir hyn trwy yr hanesyn canlynol:

Yr oedd Robert Roberts, Clynog, sir Gaernarfon, yr hwn oedd ar y pryd yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd a llwyddiannus yn mhlith y rhai diurddau yn Ngwynedd, yn un ag a fyddai yn arfer pregethu yn fynych yn y cymanfaoedd hyn. Felly y gwnai ryw dro ar yr heol yn Nolgellau. Ar gyfer y lle y safai i bregethu arno, yr oedd gŵr tra erlidgar a chas, yn cadw siop, ac yn ŵr o gyfoeth a dylanwad. Yr oedd y gŵr hwn wedi clywed Robert Roberts yn pregethu o'i dŷ ei hun, ac felly yn gydnabyddus â'i wyneb fel ag i'w adnabod. Dygwyddodd fod y gwr hwn unwaith yn myned i Liverpool ar neges fasnachol, ar yr un pryd ag yr oedd Robert Roberts yn myned yno i bregethu; ac ar yr adeg yr oeddynt yn croesi yr afon, yr oedd yn chwythu yn drwm, a'r cwch bach, o'r fath ag oedd i groesi ynddo y pryd hwnw, yn cael ei luchio yn arswydus, nes oedd braw a dychryn wedi meddiannu y teithwyr ymron bawb. Yr oedd y pregethwr yn eistedd yn ddystaw,