gan ambell bregethwr, am i bobl Dolgellau ryfygu gwneuthur capel mor fawr. Yr oedd hyn tua'r flwyddyn 1808.
Dywedwyd eisoes fod y brodyr yn y Deheudir wedi cynorthwyo rhai manau yn y Gogledd i adeiladu capelau. Yr oedd y cynulleidfaoedd yno yn amlach ac yn lluosocach, gan eu bod yn henach; a dangosasant lawer o serchogrwydd tuag at eu "chwaer fechan" yn Ngwynedd. Cynorthwyasant bregethwyr i ddyfod trosodd i weini mewn gwahanol barthau o'r wlad, mewn adeg nad oedd y doniau yn y Gogledd ond prinion iawn. Ac fel y dangosasant barodrwydd i gyfranu i ni o'u doniau ysbrydol, felly hefyd y gwnaethant, am ryw dymhor, o'u "pethau cnawdol," er cynorthwyo i adeiladu tai addoliad. Pan ddaeth yr amser i ymosod at y gwaith o adeiladu capelau o ddifrif, yı hyn a ddygwyddodd tua'r un amser ag y daeth yr ysgolion Sabbothol i effeithio ar y wlad, fe sefydlwyd, ar gynygiad John Evans o'r Bala, fod casgliad yn cael ei wneyd trwy Ogledd Cymru, o ddimai yn yr wythnos oddiwrth bob aelod yn y cyfundeb, ac i'r casgliad hwn gael ei ddwyn i'r gymdeithasfa bob chwarter blwyddyn. Yn y cynulliad chwarterol hwn, fe wrandewid ar gwyn pob gwlad, ac fe edrychid i amgylchiadau y gwahanol fanau y byddai cais am gael capelau ynddynt; a rhenid y casgliad, yn ol fel yr ymddangosai fod yr amgylchiadau yn gofyn, a'r swm mewn llaw yn caniatâu. Yn mhen enyd, canfyddwyd fod achos holl gapelau Gwynedd yn llyncu mwy o amser nag a allai y gymdeithasfa hebgor; a chan fod yr achos yn ymeangu yn gyflym yn mhob sir, barnwyd mai doeth fyddai gollwng achos y capelau i arolygiad y brodyr yn eu gwlad eu hunain; a thrwy hyny ysgafnhau llawer ar waith y gymdeithasfa, a rhwyddhau llawer ar adeiladiad y capelau hefyd.
Dywedir mai ychydig a gafodd sir Feirionydd fedi o ffrwyth y casgliad 64c. y chwarter, er mai John Evans a'i cynygiodd, ac er cyfranu eu rhan tuag ato; os fel hyn yr oedd, mwyaf oll oedd braint sir Feirionydd, pan gofiom eiriau yr Arglwydd Iesu, "Dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn," Tra yr oedd y casgliad chwarterol hwn yn cael ei grynhoi i'r gymdeithasfa, yr oedd pregethu yn aros mewn tai anedd yn sir Feirionydd, meddir; ac mai ar ol i bob sir fyned ar ei phen ei hun, y dechreuodd Meirion adeiladu ei thai addoliad, ac felly iddi gael yr anrhydedd o gynorthwyo gwledydd eraill i adeiladu, ac adeiladu yr eiddo ei hunan hefyd. Pa fodd bynag am hyny, y mae wedi gallu adeiladu llawer o gapelau, a'u clirio ymron oll o'u dyled hefyd. Tua'r flwyddyn 1790, fel y dywedwyd, nid oedd ond pump o gapelau ynddi, ond yn awr, neu yn y flwyddyn 1850, y mae pedwar ugain; ac y mae llawer o honynt wedi eu hadeiladu ddwywaith, a rhai dair gwaith drosodd, yn yr ysbaid hyny. Felly aeth hanner can' mlynedd heibio heb godi ond nifer bychan iawn o gapelau; pump yn unig! Ond yn yr hanner cant diweddaf, codwyd pymtheg-a-thriugain. Aeth llawer o'r hanner cant cyntaf ar Fethodistiaeth heibio i arloesi y tir; —i ddarostwng y bryniau, a chodi y pantiau. Tymhor gauafaidd a drycinllyd a fu yr hanner canrif cyntaf, pryd na wnaed nemawr mwy nag arloesi y tir, a bwrw yr had iddo. Ond y mae yr hanner canrif can