Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/593

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lynol wedi dwyn gydag ef awelon tynerach, cawodydd bendithiol o'r gwlaw graslawn; a Haul y Cyfiawnder wedi gwenu ar ein tiriogaeth, nes gwisgo y broydd â gwyrddlesni hyfryd, trwy ledaeniad gwybodaeth iachawdwriaeth yn mhlith y bobl.

ABERCORIS.

Ond fel yr oedd yr achos yn cryfhau ac yn ymwreiddio mewn rhai manau, felly hefyd yr ydoedd yn ymestyn i fanau eraill, ac i ardaloedd newyddion. Mae genym hanes o'r modd y planwyd y pren Methodistaidd yn ardal Coris, neu Abercoris, ardal yw hon sydd yn gorwedd rhwng bryniau uchel ar y ffordd rhwng Dolgellau a Machynlleth. Ymddengys yn yr amgylchiad hwn, fel mewn llaweroedd o amgylchiadau eraill cyffelyb, fod gan ragluniaeth ddwyfol fwy o law yn llwyddiant yr efengyl nag ydoedd gan unrhyw gyfundrefn ddynol. Dan aden y gyfundrefn blwyfol,—a than ddylanwad cyfraith wladol, yr ydoedd sain hynod yr efengyl wedi dystewi yn y fro hon er ys llawer o flynyddoedd, ïe, er ys oesoedd. Ac nid unrhyw gyfundrefn o eiddo y Methodistiaid chwaith a'i dygodd hi yma eilwaith, ond rhagluniaeth Duw a symudodd un o'r marwor tanllyd o le arall i'r lle hwn; a'r marworyn hwnw a fu yn foddion effeithiol i gynyrchu "aelwyd o dân" ynddo.

Yr oedd gwraig o'r enw Jane Roberts yn preswylio yn mhalas barwnig gerllaw Dolgellau; hon a glybu fod pregethu mewn tŷ y soniasom fwy nag unwaith am dano, o'r enw Maes-yr-afallen, rhwng Dolgellau a'r Abermaw. Disgynodd blys ar y wraig i gael clywed pa beth a ddywedid gan y pregethwyr hyn, a pharotodd i fyned yno i wrando ryw Sabboth. Ond rhag i neb adychymygu i ba le yr oedd yn myned, hi a lanwodd sach â gwair, ac a'i gosododd dani ar geffyl, ac aeth felly i Maes-yr-afallen. Pwy ddygwyddodd fod yno yn pregethu ond John Evans o'r Bala, ac nid y gweinidog ymneillduol a fyddai yn pregethu amlaf yno. Bendithiwyd y bregeth i Jane Roberts; goleuwyd ei meddwl am ei chyflwr colledig; ac arweiniwyd hi yn y canlyniad, i ffoi i gysgod Ceidwad pechadur. Symudwyd y wraig hon, fel y crybwyllwyd, i ardal Coris i fyw. Yr oedd hi bellach wedi ei thaflu i le anial, o ran moddion gras; nid oedd pregethu gan un enwad yn y fro, ond a geid yn lian y plwyf; a chyffelyb oedd ansawdd y weinidogaeth yno, i'r hyn ydoedd yn mhob man, ymron, trwy Ogledd Cymru; a chyfryw ydoedd, pa fodd bynag, na fedrai Jane Roberts ymfoddloni ynddi. Yn mhen rhyw ysbaid wedi ei dyfod i'r ardal, clywodd fod rhyw bregethwr i'w ddysgwyl i ardal gerllaw, sef i Abergynolwyn. Y pregethwr, medd un, oedd Thomas Evans, Waunfawr, Caernarfon; medd un arall, oedd Robert Jones, Rhoslan. Cymhellodd ei merch, yr hon oedd newydd briodi un Dafydd Humphrey, i ddyfod, yn nghyda'i gŵr, gyda hi i'r oedfa. Rhoddasom hanes yr oedfa hon eisoes. Cafwyd llonyddwch ynddi i bregethu mewn modd annysgwyliadwy, a chafwyd mwy na llonyddwch i bregethu, oblegid fe gafodd Dafydd Humphrey les ysbrydol ynddi. Digon atgas i'r ysbryd drwg oedd canfod un o'i filwyr yn