Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/594

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

galw am ddystawrwydd i'r gŵr dyeithr bregethu, tra yr oedd Ysbryd Duw yn troi calon un arall i adael ei fyddin. Eto y cyfryw ydyw yr awdurdod sydd gan Fab Duw ar Satan!" "Tywysog y byd hwn a farnwyd." Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1780.

Yn mhen blwyddyn ar ol hyn y cafodd D. Humphrey gyfleusdra gyntaf i wrando pregeth drachefn. "Yr oedd gair yr Arglwydd yn werthfawr yn y dyddiau hyny." Cynelid yr oedfa hon ar Fawnog Ystraedgwyn, a phrofwyd chwerwder erlidigaeth yn hon hefyd. Ar ol hyn, cafwyd un o hen bregethwyr cyntaf y Bala, i ddyfod ar ryw Sabboth i ardal Corris, ar fin y ffordd fawr. Yr oedd rhyw rai, ar ol clywed fod pregeth i fod yn yr ardal y Sabboth hwnw, wedi darpar offer afionyddwch, sef llestri tin a phres i'w curo, fel ag i lesteirio i'r bobl glywed beth a ddywedid gan y pregethwr. Ond yr oedd blys cael clywed ar ryw un yno, yr hwn a gipiodd y llestr pres o law y terfysgwr, ac a'i lluchiodd i'r afon. Aed i'w geisio eilwaith, ond bellach ni ellid gan yr agen a wnaed ynddo, wneyd nemawr o ddefnydd o hono.

Wedi hyn, bu pregethu mor aml ag y gellid ei gael, yn gyntaf yn Llain-ygroes, a thrachefn, dros ysbaid dwy flynedd, yn Ysgubor-goch. Ond yr oedd dygasedd yr hen sarff yn llesteirio i'r efengyl gael arosiad hir yn unlle, eto, yr oedd yn ennill calon ambell un. Yn y flwyddyn 1790, yr oedd yno bump wedi cael blas ar fara y bywyd, sef Dafydd Humphrey a'i wraig, Jane Roberts, Jane Jones, a Betti Lewis. Wedi i ddrysau eraill gau, buwyd yn pregethu ar ben careg, with ddrws tŷ anedd, ar dir Dafydd Humphrey. Gelwid y tŷ hwn yr Hen Gastell; ac wedi ymadawiad y gŵr a'i preswyliai y pryd hyny, gosododd ef i ŵr arall am ychydig o ardreth, ar yr ammod fod pregethau i fod ynddo.

Yr oedd Jane Roberts a'i gŵr yn dal tyddyn o eiddo gŵr boneddig tra erlidgar, yr hwn oedd yn byw rai milldiroedd oddiwrthynt. Yr oedd ei theulu yn lluosog, nid llai nag un-ar-ddeg o blant. Anfonwyd rhybudd, pa fodd bynag, i ymadael â'r tyddyn. Aeth y gŵr at ei feistr tir i ymofyn am gael aros eilwaith yn y tyddyn, a chafodd addewid o hono, ar yr ammod i'r wraig ymadael â'i chrefydd. Dychwelodd John Roberts adref, a gofynodd y wraig iddo,

"Wel, John bach, sut a fu gyda'r gŵr boneddig?"

"Canolig," ebe John, "gallasai fod yn waeth."

"A gewch chwi y tir eto?" gofynai y wraig.

"Caf," ebe John, "ond i ti ymadael â'r bobl yna."

"Wel, John bach," ebe Jane, "os ydych chwi yn tybied mai gwell i chwi ac i'r plant fyddai i mi ymadael, ymadael wnaf a chwi, ond nid a 'nghrefydd byth."

Ymddengys mai i brofi y wraig y dywedwyd hyn, oblegid ni bu raid iddi ymadael â'i thyddyn, â'i theulu, nac â'i chrefydd.

Nid oedd yr Hen Gastell, mwy na thai eraill y pryd hwn, wedi ei gofrestru yn ol y gyfraith i bregethu ynddo; a phenderfynai y gŵr boneddig dreio beth a