ddal. Aeth un-ar-ddeg o honynt, ond y deuddegfed a gymerodd arno fod yn glaf. Cyrhaeddodd yr un-ar-ddeg yn arfog dŷ William Pugh yn foreu dydd Gwener, yn nechreu haf, 1795, ac a'i daliasant yn ei wely. Yntau wedi derbyn y wŷs a ymbarotodd i fyned gyda hwynt at yr ynad. Y boneddwr a'i dwrdiodd yn dost, ac a'i dirwyodd yn y swm o £20. Trwy ddyfalwch ei wraig, a hynawsedd ei gyfeillion, bu yn abl i dalu y ddirwy y diwrnod hwnw, a chafodd yntau ei ollwng yn rhydd.
Attaliodd hyn ef rhag pregethu dros ysbaid rhai wythnosau; ond yn mhen rhyw enyd aeth i Ddolgellau i ymweled â'i gyfeillion crefyddol; a bu lawen ganddynt ei weled, a chymhellasant ef i bregethu y nos Sabboth canlynol. Cododd ail-achwyniad yn ei erbyn oblegid hyn; ond cyn ei ddal yr ail waith, daeth yr amcan yn hysbys iddo, ac ymguddiodd hyd nes y deuai y chwarter sessiwn, yr hwn oedd i gael ei gynal y tro hwn yn y Bala. Buasai y ddirwy yr ail dro, pe cawsid ei ddal, yn £40. Dangoswyd parodrwydd rhyfeddol mewn rhai i gynorthwyo yn y gorchwyl diddiolch hwn. Ymddengys mai cares agos i William Pugh a achwynodd arno y tro cyntaf wrth y boneddwr, a dywedir hefyd fod y gair wedi cyrhaedd clustiau y boneddwr erbyn nos dranoeth ar ol iddo bregethu yn Nolgellau. O'r ochr arall, dangosid llawer o anmharodrwydd mewn eraill i symud troed na llaw yn y gorthrwm, ie, gwneid hyn gan filwyr y gŵr boneddig ei hun. Cymerodd un arno, fel y crybwyllwyd, fod yn glaf, rhag ei gyfrif gyda'r deuddeg a anfonwyd i'w ddal; y lleill hefyd a gerddasant gan bwyll tua'r lle, gan obeithio, meddir, y rhoddai rhyw un rybudd digon prydlawn i William Pugh ddianc o'u ffordd, ond ni ddaethai hyn i feddwl neb yn mlaen llaw.
Fe ddywed Lewis Morris, yr hwn sydd eto yn fyw, ac wedi goroesi ymron bawb o'i gyfoedion, yn "Adgofion Hen Bregethwr," yn y "Traethodydd," fod yr un boneddwr wedi gosod yn ei fryd ei ddal yntau; ac nid yn unig ei ddirwyo, ond ei anfon i'r fyddin, gan fod awdurdod wedi ei roddi, y pryd hwnw, i'r ynadon ddal rhyw fath o ddynion, a'u gorfodi i fod yn filwyr. Wedi tyngu nifer o ddynion i fod yn hedd-geidwaid, gorchymynodd iddynt ddwyn Lewis Morris o'i flaen. Daethant hefyd, meddir, i Fryncrug, lle yr oedd i bregethu mewn tŷ yno, gyda'r bwriad hwn; ond oddiar ryw deimlad neu gilydd, dychwelasant heb wneuthur hyny, a chymerasant arnynt, wrth y boneddwr, mai ofn a barodd iddynt beidio.
Dranoeth wedi dal a dirwyo William Pugh, anfonwyd i ddal Lewis Morris hefyd, ond dygwyddodd ei fod eisoes wedi cychwyn oddicartref i gyhoeddiad yn sir Drefaldwyn. Ar ei ddychweliad gartref, gwnaeth ei ffordd drwy y Bala, lle yr oedd Mr. Charles, a John Evans, ac eraill, yn bryderus yn ei gylch, gan faint y twrf oedd ar led y wlad fod cynifer o filwyr yn amcanu ei ddal, a'i anfon i'r llynges. Wedi canfod nad oedd heddwch i bregethwyr, na thyddynwyr a dderbynient bregethu i'w tai, penderfynodd y brodyr yn y Bala nad oedent yn hwy eu gosod oll dan nawdd y gyfraith, yn ol Deddf y Goddefiad (Toleration Act). Erbyn hyn, yr oedd dychryn wedi dal llawer o'r crefyddwyr a dderbynient foddion i'w tai, rhag y dinystrid