Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/597

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu hamgylchiadau trwy ddirwyau trymion, ac am dymhor byr yr oedd yr achos crefyddol fel wedi sefyll yn llwyr rhwng y ddwy afon, gan nad ellid cyn y chwarter sessiwn, gael yr amddiffyniad angenrheidiol, yn ol y gyfraith. Gwelwyd erbyn hyn, fod yn rhaid dyoddef fel deiliaid eglwys Loegr, neu dderbyn amddiffyniad y gyfraith fel ymneillduwyr; a gwelwyd hefyd, trwy yr helyntion chwerwon hyn, fod yn rhaid i ymlyniad wrth sect roddi lle i gydwybod yn ngwasanaeth Duw. Oblegyd fe ganfyddwyd, bellach, na oddefai yr eglwys ddim o'r fath afreolaeth o'i mewn ag y tybid fod Methodistiaeth, ac na roddai y gyfraith chwaith ddim amddiffyniad dros neb a fyddai yn euog o'r fath afreolaeth, ond oddiar broffes o ymneillduaeth.

I ni, yn yr oes hon, y rhai a fagwyd ar liniau Methodistiaeth o'n mebyd, ac heb fod erioed yn aelodau yn eglwys Loegr, y mae yn ymddangos yn beth syn, paham y bu y fath hwyrfrydigrwydd i wneuthur y broffes angenrheidiol o ymneillduaeth. Os, ar y naill law, y bernid mai sism oedd ymneillduad oddiwrthi, pa fodd yr anturiodd y tadau ar lwybr, yn eu hysgogiadau boreuol, ag y gallesid deali na oddefid i neb ei gerdded heb dynu arnynt wg eu huchafiaid eglwysig? Ac os, ar y llaw arall, y bernid yn gydwybodol mai ewyllys yr Arglwydd ydoedd iddynt lafurio yn y modd y gwnaethant, paham yr oedd yn rhaid petruso cymeryd amddiffyniad y gyfraith drostynt i wneuthur hyny? Ymddengys i ni yn dra eglur eu bod naill ai wedi myned yn rhy bell neu heb fyned yn ddigon pell. Ymddangosai rywbeth tebyg i awyddfryd i geisio gwasanaethu dau Arglwydd, ond iddynt, o'r diwedd, orfod credu na ellid gwneyd hyny. Llosgent gan awydd i eangu teyrnas Crist, a glynent yn dyn wrth eglwys Loegr, a bu gorfod iddynt ddeall, wedi blynyddoedd o betrusder, fod y cyntaf yn eu harwain ar draws yr olaf. Fe ddichon ar yr un pryd mai y cwbl a fynent ei arddangos i'r byd, trwy y llwybr a ddewisasent oedd, mai nid oddiar ysfa ffol, neu chwant i newydddeb, y gweithredent, ond oddiar gydwybod i Dduw; ac i'r dyben i roddi prawf amlwg o'r cyfryw egwyddor, eu bod yn penderfynu aros yn ddeiliaid proffesedig eglwys Loegr, tra y goddefid iddynt; ac os ymadael hefyd, y byddai hyny wedi ei achosi o raid, ac nid o fympwy.

Ond i ddychwelyd at ein hanes, gan nad oedd y chwarter sessiwn ddim gerllaw, barnwyd mai gwell fyddai i Lewis Morris fyned allan o gyrhaedd ei erlynwyr, trwy gilio i sir Benfro, a dodi ei hun yno dan nodded y gyfraith, trwy ymofyn am drwydded (license) i bregethu fel ymneillduwr arall. Yr oedd yn byw y pryd hwnw, yn Llwyn-y-gwair, wr boneddig yr hwn oedd hedd-ynad, ac yn aelod gyda'r Methodistiaid hefyd; yno, gan hyny, y cynghorwyd ef i fyned. Ar ei ffordd yno o'r Bala, yr oedd yn myned trwy Lan-y-mowddwy, ac er ei fod o fwriad wedi gadael i'r nos ei orddiwes, yr oedd yn ddigon enbyd iddo gael ei adnabod, gan ei fod yn haws i'w adnabod na llawer un, oblegid ei faintioli; a rhaid oedd iddo arfer gradd o gyfrwysdra i allu myned trwy y toll-byrth, heb iddo ddyfod i'r amlwg, a chael ei fradychu. Gwaeddodd yn lled groch, gan hyny, with doll-borth Llan-y-mowddwy, am ei