Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/598

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hagor iddo. Cododd y porthor o'i wely i agor iddo, a gofynodd, I ba le yr oedd yn myned? "Ymlaen," ebe yntau.

" Y mae hi yn fyd garw tua Thowyn yna," ebe y tollwr."

" Y mae hi, aiê," ebe Lewis Morris, "pa beth sydd yno?"

"Meistr hwn a hwn sydd yn erlid pregethwyr y Methodistiaid; —y mae yn cynyg deugain punt am ddal un o honynt, sef Lewis Morris; ac y mae y milwyr allan yn chwilio yn ddyfal am dano."—Ond er cymaint yr awyddfryd i'w ddal, fe gyrhaeddodd y pregethwr Lwyn-y-gwair yn ddiogel, a chafodd loches a chroesaw caredig yno, gan Cadben Bowen; ac yn mhen enyd daeth y gŵr boneddig gydag ef i Gaerfyrddin, a chafodd yno y drwydded angenrheidiol.

Yn y cyfamser, yr oedd chwarter sessiwn y Bala gerllaw, a darpariaeth wedi ei wneuthur i geisio yno amddiffyniad y gyfraith, trwy alw am gyfreithiwr enwog, o Gaer y pryd hwnw, ac ar ol hyny o'r Cymau, gerllaw Caergwrle, yr hwn oedd ymneillduwr ei hun. Dangosai ynadon sir Feirionydd bob anmharodrwydd i drwyddedu pregethwyr; ond hyny ni allent omedd i'r sawl a geisient, heb droseddu y gyfraith eu hunain; a phan y rhoddwyd ar ddeall iddynt gan David Francis Jones, Ysw., y cyfreithiwr, fod yn rhaid iddynt naill ai rhoddi amddiffyniad y gyfraith i'r pregethwyr, neu fyned dan ei chosb eu hunain, nid oedd dim i'w wneyd ond plygu. Un o'r ustusiaid, yr hwn oedd berson Llandderfel, a ddywedai, "Os rhaid i'm llaw arwyddo y papurau hyn, y mae fy nghalon yn erbyn hyny." "Y cwbl sydd arnom ni eisiau," ebe Mr. Jones, "yw eich llaw; am eich calon, nid ydym ni yn gofalu dim am hòno." Felly eu trwyddedu a gawsant; ac o hyny allan, annogwyd y pregethwyr i geisio trwyddedu, mor wresog ag y gwaharddwyd hyny iddynt o'r blaen. Cofrestrwyd y tai pregethu hefyd. Yn y modd yma y cafwyd diogelwch rhag y ffurf yma hefyd o erlid. Ni ddefnyddiwyd y dull hwn, tra y gellid cael y werin ffol i derfysgu a baeddu; ond wedi i'r Methodistiaid ennill teimladau y werin o'u plaid, nid oedd ond ceisio eu llethu trwy rym cyfraith; ond nid oedd hyn bellach i'w gael, gan fod yr awdurdod a'u llethai hwy gynt, yn awr yn eu hamddiffyn:—y cleddyf a'u harchollai gynt, a archollai eu gorthrymwyr bellach. Y wlad hon, weithian, a gafodd lonydd.

Yr ydym yn teimlo parodrwydd er hyn oll i wneuthur esgusawd dros foneddwyr y wlad, er maint a fu eu traha a'u gorthrymder yn ysbaid y tymhor hwnw. Yr oeddynt hwy, i fesur mawr, yn gweithredu dan ddylanwad rhai eraill. Nid oeddynt erioed wedi ymgymysgu â neb o'r Methodistiaid eu hunain, a diraddiad arswydus ar eu huchafiaeth y tybiasid hyny; felly ni allent wybod dim am egwyddorion nac ysgogiadau y crefyddwyr hyn, ond trwy glywed sôn. Yr oedd digon o ddynionach hefyd i'w cael, a deimlent barodrwydd i gario i'r gŵr boneddig bob chwedl wag, gan eu lliwio yn y wedd a ddewisent, os deallent fod cael y fath chwedlau yn gymeradwy ganddo. Anmhosibl ydyw dirnad pa faint o chwedlau gwrachiaidd a chelwyddog a ddygid yn y modd yma i glustiau y gŵr boneddig. Ac wedi iddo unwaith ddechreu gweithredu, mewn ffordd o orthrymu crefyddwyr, nid anhawdd yw