TOWYN, BRYNCRUG, AC ABERDYFI.
Am yr ardaloedd hyn, ysgrifenai Mr. John Jones, Pen-y-Parc, gŵr tra adnabyddus fel Cristion cyson, blaenor ffyddlawn, ac athraw ysgol llafurus, dros flynyddau meithion, yn y modd canlynol. "Ymwelodd yr Arglwydd â'n gwlad er ys yn nghylch 40 mlynedd yn ol.[1] ' herwydd tiriondeb trugaredd ein Duw, efe a ymwelodd â ni godiad haul o'r uchelder.' Yr oedd yr holl ardaloedd hyn, y pryd hwnw, yn anialwch gwyllt; ac megys caddug tywyll, llawn o annhrefn a didduwiaeth. Nid oedd fawr o bregethu efengylaidd yn yr holl fro y pryd hwnw, oddieithr gan ambell un o bregethwyr y Methodistiaid, yr hwn megys ar ddamwain a ddeuai heibio; ac ni fyddai hyny ar y dechreu ond unwaith neu ddwy yn y flwyddyn! A phan y deuant, nid oedd tŷ iddynt i'w gael i bregethu ynddo, mewn ????odidifan; ond fe gedwid yr oedfaon tan furiau tai, ac yn nghysgod gwrychoedd; o'r braidd y caent yno. Ymgasglai nifer o ieuenctyd y wlad i'r cynulliadau hyn, nid i ymofyn am lesâd ysbrydol i'w heneidiau, ond o ryw chwilfrydedd cnawdol, ac i faethu tueddiadau llygredig: eto, er hyn, yr oedd ambell un, yn awr ac eilwaith, yn cael ei sobri; ac yn y fan y deallid hyny, gosodid y cyfryw yn destyn gwawd a sarhad ei hen gyfeillion."
Yr ydym eisioes amrywiol weithiau, wrth olrhain hanes y wlad hon, wedi nodi y defnydd o ba un y bu rhyw wragedd crefyddol er lledaeniad yr efengyl. Mae y darllenydd yn cofio, yn ddiau, am Lowri Williams o Bandy'r-ddwyryd;—am Jane Griffith yn Nolgellau; —Jane Roberts, Abercorris; —ac am Catherine Griffith o'r Penrhyn-deudraeth. Ymddengys wrth ysgrif y diweddar Mr. John Jones, Pen-y-Parc, fod Methodistiaeth yn ddyledus i raddau am ei gychwyniad yn ardaloedd Towyn, i hen wraig o'r enw Catherine Williams, yr hon a gadwai ysgol ddyddiol. Nid oes hanes genyf pa fanteision a gawsai y wraig hon i adnabod y gwirionedd ei hunan; ond hysbysir ei bod yn arfer egwyddori y plant dan ei gofal, yn ol ei gallu, yn elfenau y grefydd Gristionogol. Effeithiodd ei haddysgiadau gymaint ag i barotoi meddyliau amryw o'i hysgolorion i dderbyn yr efengyl, trwy ddarostwng llawer ar y rhagfarn a ffynai ar y pryd yn erbyn crefydd a chrefyddwyr; a thrwy agor gradd ar eu llygaid i adnabod y gwirionedd, pan y dygwyddai iddynt glywed ei bregethu. Daeth amryw o'r genethod a fu gyda'r hen athrawes yn yr ysgol, i fod yn "famau yn Israel," a bu ei meibion yn wasanaethgar, mewn rhyw ddull neu gilydd, i gynydd Methodistiaeth yn y fro, wedi ei chuddio hi yn y ddaear.
Yn mysg eraill a fu yn ddefnyddiol yn y parthau hyn, y mae yn deilwng gwneuthur sylw arbenig o'r hybarch John Jones, Pen-y-Parc, yr hwn sydd wedi gorphwyso oddiwrth ei lafur er ys blynyddoedd rai. Fe fuy gŵr hwn yn cadw ysgol am faith flynyddau, ac yn ol dim sydd yn ymddangos, mai ei awydd i fod yn fuddiol i'w genedl, yn fwy na chael elw iddo ei hun, a'i tueddodd at gadw yr ysgol. Rhoddid iddo gyfleusdra, yn y modd yma, i
- ↑ Ysgrifenai hyn yn y fl. 1832.