Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/604

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eto wrth gydmharu gwedd Methodistiaeth yn awr â'r hyn ydoedd hanner can' mlynedd yn ol, yr ydym yn cael achos i ddiolch i Dduw, ac i gymeryd cysur. Yn awr nid oes lai na phymtheg o gynulleidfaoedd, mwy neu lai eu rhif a'u dylanwad, rhwng y ddwy afon,—parth o wlad 20 milldir o hyd, a 10 o led.

Y BWLCH.

Ardal ydyw hon yn gorwedd ar fin y môr, ar gwr eithaf Meirionydd i'r de-orllewin, rhwng Abermaw a Thowyn. Gerllaw y mae hen gartref Hugh Owen, Bron-clydwr, y crybwyllasom am dano yn nhudal. 39. Yr oedd yma nifer bychan o bobl dlodion yn y gymydogaeth hon yn cyd-gychwyn gyda chrefydd â'r rhai blaenaf yn Llwyngwril, a hyny cyn bod moddion cyson yn cael eu cynal yn yr un o'r ddau le. I'r Abermaw y byddai yr ychydig broffeswyr hyn yn arfer myned i'r cyfarfod eglwysig; yno hefyd, gan amlaf, yr oedd yn rhaid myned i wrando pregethau, ac i gymuno, pan ar ddamwain y rhoddid cyfleusdra i hyny trwy ddyfodiad un o'r offeiriaid Methodistaidd heibio o'r Deheudir. Wedi i ychydig, yn y modd yma, gael eu deffroi am eu sefyllfa ysbrydol, a chael blas ar foddion gras, ymgynullent i'r tŷ hwn, ac i'r tŷ arall, lle y caniateid iddynt i gadw cyfarfodydd gweddio; a chaent addewid yn achlysurol am ryw bregethwr i ddyfod atynt, ac i roddi gair o gynghor iddynt. Nid oedd eto ddim pregethwyr yn nes atynt na'r Bala, tua 30 milldir o ffordd. Yr oedd John Ellis, Abermaw, heb ddechreu dros ryw dymhor; felly William Pugh, Edward Foulkes, Dolgellau, a Lewis Morris. Yn raddol cododd y naill ar ol y llall o'r pregethwyr a nodwyd, a daeth y pregethu yn amlach, ac yn fwy cyson. Lluosogai y gwrandawyr, bellach, a newidiwyd y tai anedd am dŷ heb ei aneddu, ac wedi ei gymeryd i'r unig ddyben o gynal cyfarfodydd crefyddol. Felly gwnaeth y cyfeillion crefyddol yn y Bwlch. Yn y tŷ hwn, bellach, yr ymgyfarfyddent yn lled gyson, ond nid oeddynt ond ychydig o rif, a thlodion eu hamgylchiadau.

Yr ydym wedi crybwyll o'r blaen am y modd hynod y dygwyd John Vaughan, Ysw., o'r Tanfanau, dan argyhoeddiad o bechod, ac i roddi ei ysgwydd dan arch Mab Duw.[1] Rhoes yr amgylchiad hwn ysgogiad nerthol i'r achos crefyddol yn ei flaen. Yr oedd cymeriad Mr. Vaughan yn uchel eisoes fel gŵr gall; yr oedd mewn amgylchiadau uwch na'r cyffredin o amaethwyr ei wlad; ac yr oedd y dull y dychwelwyd ef at grefydd mor hynod, a'i grefydd hefyd, yn y canlyniad, mor loyw a diachwyn arni, fel y ciliodd rhagfarn y bobl yn erbyn Methodistiaeth ymron yn llwyr o'r fro, ac yr ennillwyd y bobl, oddiar ryw egwyddorion neu gilydd, i roddi clust o ymwrandawiad i Air y bywyd. Daeth ei wraig, a'u hunig fab, i ymofyn am le yn eglwys Dduw. Agorodd ei dŷ i dderbyn a lletya pregethwyr, a dangosodd yn mhob modd fod ei galon wedi ei hennill gan y gwirionedd. Trwy ganfod Mr. Vaughan yn ymaflyd mor egniol a dirodres yn achos yr efengyl, ac oddiar feddwl uchel am ei gallineb, plygwyd meddwl Owen Evans, Tyddyn Meurig, i ddyfod i wrando rando; ac yn raddol ennillwyd yntau i gofleidio yr

  1. Gwel tu dal. 317.