efengyl, ac i roddi ei wddf yn ngwasanaeth yr Arglwydd Iesu, a bu dros lawer o flynyddoedd yn flaenor ffyddlawn yn eglwys y Bwlch.
Yr oedd y gwrandawyr, erbyn hyn, wedi lluosogi cryn lawer wrth a fuasent. Aeth y tŷ bychan y cyfarfyddid ynddo yn rhy fychan, a dechreuwyd dweyd, "Cyfyng yw y lle hwn; dod le i ni fel y preswyliom." A phan oedd meddyliau y bobl, yn gystal â'r amgylchiadau, yn cyd-alw am dano, cododd Mr. Vaughan i fyny yn y cyfarfod, gan ddweyd fod caniatâd i bawb roddi hyny a fynent, neu a allent, at adeiladu y capel, ac y talai yntau y gweddill. Felly hefyd y bu. Talwyd am bob peth wrth ei adeiladu. Symudodd Mr. Vaughan o Tanfanau i Cefn-camberth i fyw, lle a brynasai efe iddo ei hun; ond nid hir y cafodd breswylio ynddo, er iddo adeiladu ar y tir dŷ hardd. Bu farw ei fab yn 22 ml. oed, er dirfawr alar i'w rieni, ac i'w gyfeillion crefyddol, ac yn wir i bawb a'i hadwaenai. Yr ydoedd yn ŵr ieuanc gostyngedig a hynaws, hawddgar iawn ei dymherau, a thra gobeithiol gydag achos yr Arglwydd Iesu. Ni chafodd Mr. Vaughan ei hun fyned gymaint ag unwaith i'r capel newydd, yr hwn y bu mor bryderus yn ei godi; oblegid fe'i daliwyd ef gan afiechyd, yr hwn a'i caethiwodd yn gwbl i'w dy; ac wedi nychdod hirfaith, yntau hefyd a fu farw. Gadawyd Mrs. Vaughan yn weddw, i alaru ei cholled; a thros lawer o flynyddoedd, bu yn famaeth dirion ac ymgeleddgar i achos yr efengyl. Yr oedd yn nodedig o ddirodres a gostyngedig. Nid ymddangosai fod ganddi un amcan wrth fyw, ond gwasanaethu yr efengyl a'i mwynhau. Rhoes lawer o brofion o'i gofal am lwyddiant crefydd, ac o'i charedigrwydd tuag at saint a phregethwyr tlodion; a hyn a wnai mewn modd na wyddai ei llaw aswy prin yr hyn a wneid gan ei llaw ddeau. Tarddai ei gweithredoedd hyn oddiar gydwybod i'r Duw a ymddiriedasai gyfran o'r byd hwn i'w gofal, ac o gariad at ei enw a'i bobl. Yr oedd Mrs. Vaughan yn un o'r gwragedd hynod hyny na cheir hwynt ond anfynych mewn gwlad—un na chafodd Solomon ei chyffelyb yn mysg mil.
Teilwng ydyw coffa yn y lle hwn am y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, gŵr a lafuriodd lawer yn y rhanau hyn o'r wlad. Dechreuasai bregethu tua'r fl. 1793, a pharhaodd hyd y fl. 1844, ysbaid mwy na hanner can' mlynedd. Yr oedd Robert Griffith yn nodedig am ei bwyll a'i gallineb. Yr oedd gwedd ei dymher naturiol yn ymddangos ar ei bregethau. Nid oedd llafur caled, a bloedd uchel, yn nodweddu ei weinidogaeth ef; ond efe a ymddyddanai yn bwyllog a synwyrol â'i wrandawyr. O ran ei wybodaeth gyffredinol, a'i ymddygiad synwyrol, yr oedd yn rhagori ar lawer o bregethwyr ei oes. Safai yn uchel fel gwladwr, yn gystal ag fel Cristion a gweinidog. Gwrandewid arno gyda pharch yn y cyfarfodydd misol a chwarterol; ac ystyrid ei ddawn yn dra chymhwys i gadw cyfarfodydd eglwysig mewn modd baddiol a dyddorol.
Yr oedd Robert Griffith yn rhydd iawn oddiwrth bob rhodres a chymendod; eto yr oedd yn ŵr hardd ei berson, trwsiadus ei wisg, a boneddigaidd ei ymddygiad. Nid oedd yn dangos parodrwydd gormodol i siarad; ond