pan y siaradai, dangosai fod ganddo feddwl; byddai ei atebion yn fynych yn fyrion, ac i'r pwrpas.
Y gŵr hwn oedd y cyntaf o bregethwyr y sir a neillduwyd i weinyddu y sacramentau, yr hyn hefyd a wnaed mor gynar a'r fl. 1815, yr hyn oedd yn brawf diymwad o'r uchafiaeth oedd iddo yn meddyliau ei frodyr. Mewn gair, nid yn fynych y ceid pregethwr yn mysg y Methodistiaid, mwy ei gymhwysderau, a llai ei frychau, na Robert Griffith. Bu farw mewn tangnefedd, Gorphenaf 22, 1844, a chladdwyd ef yn y capel y bu yn gweini ynddo am gynifer o flynyddoedd, yr hyn oedd yr arwydd olaf o barch a ganiateid i'r brodyr ddangos iddo, a'r hyn hefyd oedd yr arwydd mwyaf o barch a fedrent ddangos i'w weddillion.
Nid ydym hyd yma wedi gwneuthur nemawr fwy na chrybwyll enwau dynion sydd eto yn aros ar y maes; ac yr ydym yn bwriadu ymgadw at hyn fel rheol gyffredin rhagllaw; eto gan nad oes un rheol heb ryw eithriad iddi, fe allai y goddefir i ni yn awr ac eilwaith droseddu ar y rheol, neu yn hytrach gilio yn achlysurol oddiwrthi, trwy osod ger bron, mewn modd helaethach, hanes ambell un sydd eto heb ei symud oddiwrthym.
Gŵyr llawer o'n darllenwyr, mai yn y gymydogaeth hon y mae yr hen dad Lewis Morris yn preswylio, a'i fod ef bellach, yn nghydag Edward Foulkes, Dolgellau, yn mysg y pregethwyr mwyaf oedranus sydd, o leiaf yn Ngwynedd, os nad yr henaf yn y dywysogaeth.
Yr oedd Lewis Morris, fel y dywed ef ei hun,[1] wedi cael ei fagu yn gyffelyb fel y magid pawb y pryd hwnw, yn ddyeithr i grefydd, oddieithr y ffurf yn unig o fyned yn achlysurol i eglwys y plwyf, a dysgu iddo y Catecism, y Credo, a'r Pader. Treuliodd yntau ei ddyddiau boreuaf gyda'r campau ffol, a'r chwareuon llygredig, ag oedd yn fawr eu rhwysg y pryd hwnw yn mhob parth o'r wlad; ac yn yr oferedd hyn y buodd yn ymrwyfo am y naw mlynedd ar hugain cyntaf o'i oes. "Byddai ambell oedfa," meddai ef ei hun, "yn cael ei chynal y pryd hyny gan y Methodistiaid Calfinaidd mewn lle a elwir Gwastadedd, tŷ un Siôn William. Ni byddai ond ychydig iawn yn dyfod i wrando, a'r pregethwyr a'r crefyddwyr oeddynt yn cael eu herlid yn fawr. Gelwid y pregethwyr yn "au-brophwydi," a'r gymdeithas neillduol eglwysig yn" weddi dywyll." Cafodd Sion William ei daflu allan o'i dŷ am ei fod yn caniatâu pregethu ynddo; ac efe a symudodd i le a elwir y Gors, a daeth pregethu yno hefyd. Yn mysg y lluaws, yr oeddwn inau yn gwrthwynebu y pregethu newydd â'm holl egni. Un prydnawn Sabboth, daeth ychydig grefyddwyr o'r Abermaw, a phregethwr, sef John Ellis, i Lwyngwril, gyda'r bwriad o gadw oedfa yno, a chawsant addewid am le i bregethu mewn tafarndy yn y pentref. Daethum i'r pentref y Sabboth hwnw, yn ol fy arfer, i ddylyn gwâg-ddifyrwch, pan y dywedwyd wrthyf fi a'm cyfeillion, nad oedd wiw i ni fyned i'r dafarn i yfed cwrw y Sul hwnw, gan fod yno bregethu. Pan glywais hyn, aethum, yn llawn gwylltineb, at y tŷ tafarn, a gelwais am
- ↑ Adgofion Hen Bregethwr, Traethodydd, cyf. iii. 106.