ddengys mai fel hyn yr ydoedd gyda Lewis Morris. Dechreuodd gynghori ei gymydogion yn fuan ar ol ei ddychweliad oddiwrth ei ofer ymarweddiad, pryd na allai fod ei wybodaeth ef ei hun ond prin; a thybid gan eraill ei fod yn pregethu, cyn iddo ef o ddifrif feddwl hyny ei hunan. " Yr oeddwn," meddai, er ys peth amser wedi cael caniatâd i fyned i'r cyfarfodydd misol, fel un oedd yn gofalu am achos yr Arglwydd yn yr ardal; ac yn lled fuan wedi i mi ddechreu cynghori, yn y modd uchod, dywedodd un brawd yn y cwrdd misol fy mod yn myned at y gwaith o bregethu. 'Na,' meddwn inau, 'nid pregethu y byddaf, ac nid wyf yn meddwl am fyned yn bregethwr; ac ni byddaf byth yn darllen testyn o'r Beibl yn flaenorol i'm cynghorion.' Gofynwyd i mi pa fodd y byddwn yn arfer gwneyd; ac atebais, ' y byddwn yn dweyd wrth y bobl eu bod yn blant digofaint, ac nad oedd un llwybr i'w cadw ond trwy gredu yn y Crist a groeshoeliwyd ar Galfaria, a bod iawn gredu yn Nghrist yn dwyn dynion i adael eu pechodau, ac i fyw yn dduwiol.' 'Wel,' meddai y brodyr, 'pregethu yw hyna."
Byddai y pryd hwn yn arfer myned allan ar foreuau Sabbothau tua Bryncrug, Bwlch, Llwyngwril, Blaenau Celynin, a lleoedd cyffelyb, gan ddwyn ei damaid yn ei logell, a phregethu deirgwaith neu bedair yn y dydd. Ymgasglai cryn nifer yn nghyd, rhai i wrando, ac eraill i wawdio. Fe addef iddo gael ei ddirmygu yn dost, ond na chafodd mo'i luchio erioed. Yr oedd yn pregethu un nos Sabboth yn Mryncrug, yn nhŷ un Betti Siôn, pryd y daeth gwraig o'r gymydogaeth at ddrws y tŷ, ac a'i rhegodd am ei fod yn pregethu, ac a regodd y bobl am ei wrando. Ond yn y fan, ac yn nghanol ei chynddaredd, tarawyd hi yn fud; ni ddywedodd, meddai ef ei hunan, air byth mwyach; a hi a fu farw yn mhen ychydig o ddyddiau! Hawdd y gallwn feddwl yr effeithiai amgylchiad mor ddisymwth ac ofnadwy ag ydoedd hwn, i beri arswyd mawr ar bobl y wlad, a pheri iddynt feddwl, fod Llywydd mawr y byd yn gwgu ar y rhai a wawdient y pregethu, a bod ei amddiffyn ef dros bobl y grefydd, er mor ddiystyr y cyfrifid hwy gan y byd.
Cyfarfyddai y pregethwyr ag engreifftiau lawer o anwybodaeth trwch trigolion y wlad triugain mlynedd yn ol, cyn i addysgiadau yr ysgol Sabbothol effeithio i ymlid ymaith y niwlen dew a orchuddiai yr holl wlad. Cyfarfu Lewis Morris â hen ŵr unwaith yn Mon, i'r hwn y gofynai;
"Pa beth yw eich oedran, fy ewythr?"
"Dwy flwydd a phedwar ugain," oedd yr ateb.
"A ddarllenasoch chwi lawer ar y Beibl yn eich oes?"
"Ni chefais i ddim ysgolheigdod erioed," ebe yr hen wr:—"ond a ydych chwi yn gapelwr?"
"Byddaf," ebe yntau, "yn arfer myned i'r capeli."
"Chwychwi pobl y capelydd," ebe yr hen ŵr, "a yr am wŷr ysgrythyr; Ond nyni, pobl yr eglwysi, ni wyddom fawr am hòno. Ond y mae genyf finau weddi dda iawn, ac yr wyf yn ei dweyd hi hwyr a boreu."
Wedi gofyn i'r hen ŵr ei hadrodd, pa beth ydoedd ond rhyw gyfarchiad ar Mair Wen y Forwyn!