hwnw ryw foneddwyr yn byw, tra gelynol i'r efengyl, a phenderfynol yn erbyn pob dim, ac yn erbyn pawb, y byddai dim sawyr ddiwygiedig arno. Yr oedd y gwŷr hyn yn mysg y rhai mwyaf eu cyfoeth a'u dylanwad, y pryd hwnw, o neb yn yr ardal. Penderfynodd y gwŷr hyn na oddefid y newydd-beth hyn oddiwrth y curad ieuanc; ac erbyn y Sabboth canlynol, yr oedd drws y llan wedi ei gloi yn ei erbyn; ac ni adawyd iddo fyned i mewn, er iddo daer ddeisyf hyny. A chan na chaniateid iddo fyned i mewn, penderfynai Mr. Lloyd bregethu allan ar y fynwent; ac wedi iddo ddechreu y gwasanaeth, daeth cyfaill ato i ddeisyf arno roddi heibio ei fwriad, gan ei hysbysu, fod yno nifer o ddynion wedi penderfynu rhuthro arno a'i faeddu. Rhoes yntau heibio y gwasanaeth, gan gilio o'r lle, a chilio ar yr un pryd o wasanaeth y sefydliad crefyddol, yr oedd wedi ei urddo iddo. Preswyliai o hyny allan yn Mhlas-yn-dre', ei drefdadaeth ei hun; a llafuriai hyd ddiwedd ei oes, mewn undeb a'i gyfaill a'i gymydog Mr. Charles, yn nghyfundeb y Methodistiaid. Yr oedd Mr. Lloyd yn ieithydd a hanesydd rhagorol, yn Gristion unplyg a dirodres iawn. Nid oedd ei ddoniau gweinidogaethol yn boblogaidd, eto bu yn ffyddlawn yn ei dymhor i deithio Cymru fynyddig: a chymerai y byd a'i cyfarfyddai gyda'r efengyl, mewn tai tlodion, yn ddiddig. Yr oedd hyn iddo ef yn fwy chwith nag i lawer, gan ei fod yn ŵr boneddig o berchen etifeddiaeth helaeth, ac wedi ei ddwyn i fyny yn gyfatebol. Ysgrifenodd amryw lyfrau, megys "AMSERYDDIAETH YSGRYTHYROL," ac "ESBONIAD AR LYFR Y DADGUDDIAD." Treuliodd lawer o amser gyda'r cyntaf, yr hwn sydd a phrofion lawer ynddo o ymchwiliad maith a dyfal, ac yn sefyll yn unig ac heb ei gyffelyb yn yr iaith Gymraeg.
Yr ydym eisoes wedi rhoddi mesur mawr o hanes Mr. Charles, fel ag yr oedd yn blethedig â'r ysgol Sabbothol, fel nad oes lawer yn ngweddill genym i'w chwanegu am dano, mewn cysylltiad â sir Feirionydd. Ryw amser ar ol ei ymuniad â'r Methodistiaid, anfonodd esgob Llanelwy ato i ddweyd, os na pheidiai a phregethu gyda'r sismaticiaid hyn, y cymerai efe y gyfraith mewn llaw i'w rwystro. Yr un gyfraith oedd hon, tybygid, ag a ddefnyddiwyd yn ddiweddar gan Harri o Exeter, esgob tanbaid ei dymher, politicaidd ei naws, a Phuseyaidd neu hanner-pabyddol ei syniadau, yn erbyn Mr. Shore. Cyfraith ydyw hon, sydd yn rhwymo y gŵr a gymero urddau yn eglwys Loegr, i beidio gweini byth mewn cyfundeb crefyddol arall, dan boen dirwy a charchar. Nid oes hanes fod neb wedi rhoddi y gyfraith hon mewn grym, neu geisio ei rhoddi, hyd nes y gwnaeth esgob ffyrnig Exeter hyny; yr oedd, er ys oesoedd, wedi gorwedd yn llythyren farw ar lyfr y gyfraith, mae yn wir, ond yn rhy gethin i'w harfer. Ond er na chaed neb yn meddu ar y galon i'w gosod mewn grym hyd yn ddiweddar, hi a gafodd ei bygwth yn erbyn Mr. Charles gan esgob Llanelwy. Yn fuan ar ol y bygythiad hwn, aeth Mr. Charles i Lundain, a hysbysodd yr amgylchiad i Lady Erskine. Anfonodd hithau yr hysbysiad i'w brawd, yr hwn oedd yn gyfreithiwr enwog, ac yn un o'r llysddadleuwyr enwocaf yn y deyrnas, sef yr Anrhydeddus Thomas Erskine, yr hwn yn y flwyddyn 1806 a wnaed yn Arglwydd Erskine, ac yn Ganghellydd y