deyrnas. Y gŵr hwn a anfonodd at yr esgob i hysbysu iddo, os efe a roddai y ddeddf hòno mewn grym, yn erbyn Mr. Charles, y dygai yntau yr un ddeddf dan sylw y senedd, gyda golwg ar ei diddymu. Parodd hyn i'r esgob gilio o'r maes, yn hytrach na thynu Erskine yn ei ben.
Deallodd Mr. Charles mewn ymddyddan â'r cyfreithiwr anrhydeddus hwn, pryd yr adroddodd wrtho yr erlidigaeth yr oedd y Methodistiaid dano oddiwrth foneddwr ac ustus heddwch yn y sir, fod Ct wedi troseddu y gyfraith ei hunan, wrth ddirwyo y pregethwyr, a'r rhai a'u derbynient i'w tai, gan na ranodd ef y dirwyon rhwng yr hysbyswyr a thlodion y plwyf, yn ngŵydd y dirwyedig. Cynygiodd y cyfreithiwr gymeryd y boneddwr mewn llaw, a'i gosbi i'r eithaf. Hyn nis boddlonai Mr. Charles iddo wneyd, nes o leiaf, iddo gydymgynghori a'i frodyr; ac wedi iddo ddychwelyd, a gosod yr achos ger bron, barnwyd yn fwy Cristionogol, ac yn debycach o effeithio yn dda ar y boneddwr ei hun, yn gystal ag ar eraill, iddynt beidio ei fwrw i grafangau y gyfraith.
Pan oedd y boneddwr y soniasom gymaint am dano, yn chwythu bygythion allan yn erbyn y Methodistiaid, a chyn iddo ddirwyo neb, yr oedd cymdeithasfa yn y Bala, a chymerwyd yr achos i ystyriaeth, ai nid dyledswydd y cyfundeb oedd gosod eu pregethwyr, a'r tai pregethu, yn ddioed dan nawdd y cyfraith, trwy Ddeddf y Goddefiad (Toleration Act)? Yr oedd Mr. Charles, a John Evans, ynghydag eraill, o'r farn mai hyny oedd eu dyledswydd; ond gwrthwynebwyd hyn yn gryf gan eraill, ac yn benaf gan y brodyr o sir Gaernarfon, gan na fynent er dim gael eu cyfrif yn ymneillduwyr. Y canlyniad a fu i ddirwy o £20 gael ei osod ar William Pugh; £20 ar dŷ yn Nhywyn; £20 ar dŷ yn Mryncrug; ac £20 ar dŷ yn Llanerch-goediog. Parodd hyn, fel y gellid meddwl, fraw a synedigaeth trwy y wlad. Deallwyd fod boneddwyr eraill yn bwriadu gwneyd yr un peth a Ct. Bu capel Dolgellau yn nghauad un Sabboth, mae'n debyg oblegid yr arswyd a ddaliasai y pregethwyr i fyned allan heb eu trwyddedu. Dygodd yr amgylchiadau hyn y mater mewn dadl i lwyr benderfyniad, a hyny yn bur fuan. Nid oedd eisiau rhesum mwyach o blaid ymneillduaeth; yr oedd llais yr erlidigaeth yn uwch na llais rheswm, ac o hyny allan ni fu un petrusder, mewn un fynwes i gymeryd trwydded, ar gyfrif fod yn rhaid ei chymeryd ar dir ymneillduaeth. Ac yn y cyfwng hwn yr anfonwyd, fel y dywedasom eisoes, am David Francis Jones, Ysw., i'r Bala; a thrwyddo y caed nodded y gyfraith rhag y gorthrwm blin hwn.
Nid dyn i'r Bala yn unig oedd Mr Charles, ac nid dyn i sir Feirionydd yn unig ydoedd, ie, mwy, er i Rowlands ddweyd mai "Rhodd yr Arglwydd i'r Gogledd ydoedd," y gwir ydyw, fod Mr. Charles yn ddyn, yn anad llawer iawn, i'r byd oll! Fe fu yn offeryn achlysurol, o leiaf, a chymaint a neb arall yn offeryn uniongyrchol, i sefydlu y gymdeithas ardderchog hòno, " Y Feibl Gymdeithas Frutanaidd a Thramor"—un o brif ragoriaethau ein teyrnas a'n hoes;—sefydliad sydd eisoes wedi bod o annhraethol les i'r byd, ac a fydd yn ddiau hyd oesoedd pellaf amser. Yr oedd ei lafur eisoes