Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/614

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyda'r ysgolion dyddiol a Sabbothol, wedi codi syched anarferol am yr ysgrythyrau; a chan yr ymofyniad cyffredinol am danynt, yr oedd y diffyg o honynt yn y wlad yn dyfod yn fwy-fwy amlwg, ac yn fwy-fwy annyoddefol, Hyn a barodd yr ymofyniad gan Mr. Charles yn Llundain am fodd i gael yr ysgrythyrau yn fwy helaeth, ac yn fwy rhad i'r Cymru tlodion. A'r ymofyniad hwnw drachefn, fel y gŵyr ein darllenwyr yn dda, a esgorodd ar gymdeithas y Beiblau.

Mr. Charles oedd un o'r rhai cyntaf, os nad y cyntaf oll, a gododd gyfarfodydd ysgolion Sabbothol;—cyfarfodydd y byddai amryw ysgolion yn cwrdd â'u gilydd, ac yn cael eu holwyddori yn gyhoeddus. Deuai tyrfaoedd lluosog iawn at eu gilydd ar yr achlysuron hyn; ac effeithiau anarferol a ymddangosai ynddynt ar y gwrandawyr yn gyffredinol; ac nid yn unig, yr oedd y cyfarfodydd yn effeithiol ar y pryd, ond dylynid hwy ag effeithiau anarferol ar ieuenctyd yr ysgolion, a thrwyddynt hwy ar deuluoedd y wlad. Rhoddai y cyfarfodydd hyn fantais i bobl y wlad weled a chlywed pa addysgiadau a roddid i'r plant, a pha lafur ei faint a ddefnyddid gan eu hathrawon i'w dysgu. Yr oedd rhagfarn y trigolion yn erbyn y crefyddwyr yn diflanu; yr oedd yr ysgolion yn chwanegu yn amledd eu rhifedi, ac yn lluosogrwydd eu deiliaid; y cynulleidfaoedd yn chwyddo mewn maintioli, nes oedd gwaedd mawr ymron trwy Wynedd a Deheudir oll, am gapelau yn lle tai, ac am gapelau mawrion ac eang, yn lle y rhai bychain a chyfyng.

Trwy lafur y gweinidog duwiol ac effro hwn, fe roddwyd nodwedd ar ysgolion Cymru nad yw yn ymddangos ar ysgolion un wlad arall, o leiaf i'r un graddau. Yr oedd y moddion a ddefnyddiai yn tueddu i ddwyn pob oedran i'r ysgolion, ac i wneuthur yr ysgolion eu hunain yn fwy digymysg grefyddol, nag yn un lle arall. Nid oedd y gelfyddyd o ddarllen ond y cam cyntaf ynddi, yr ysgogiad cychwynol. Yr oedd dysgu pennodau o'r Beibl ar dafod leferydd, yn cael ei argymhell ar bawb. Yr oedd holwyddori, pob athraw ei ddosbarth, mewn gwahanol ganghenau o wybodaeth ysgrythyrol; yr oedd mawl a gweddi yn cael eu cymysgu gyda'r cwbl, a chynghori pob oedran yn y pethau a berthynent i'w heddwch. Yr oedd llai o wedd ysgol, a mwy o wedd eglwys, ar y sefydliad. Gosodid hi yn llaw-forwyn i'r efengyl, ac yn faethle i eglwys Dduw. Nid cymaint o ystum ac awdurdod meistr a fyddai ar yr athraw, ond gwedd cyfaill a Christion. Teimlai y deiliaid eu bod yn fwy mewn addoliad dwyfol nag mewn sefydliad dynol.

O herwydd hyn yr oedd, ac y mae hyd yn awr, yn cyfateb yn fwy i bob oedran, ac yn sefydliad yn gwasanaethu i lesâu meddwl dyn, nid am dymhor byr, ond am ei oes. Oddiar hyn y mae fod ysgolion Cymru a mwy o feibion a merched yn eu cyflawn faintioli ynddynt, nag sydd o blant. Edrychir ar ddysgu darllen ond y porth nesaf allan, yn arwain at addysg wir fuddiol mewn duwinyddiaeth; ac mewn undeb â holl ranau y gwaith, yn effeithio ar y deiliaid fel gweinidogaeth yr efengyl, er goleuo eu deall, tyneru eu cydwybodau, a threfnu eu hymddygiadau;—mewn gair, er eu gwneyd yn aelodau cymhwys yn eglwys Dduw.